Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:03 22/12/2020
Bydd Heddlu De Cymru yn arfer pwerau ychwanegol i gynnal gwiriadau ar hap ar gerbydau dros gyfnod y Nadolig, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cyfyngiadau Lefel 4 y coronafeirws ledled Cymru gyfan.
O dan Lefel Rhybudd 4, disgwylir i'r cyhoedd aros gartref a pheidio â theithio heb esgus rhesymol. Caiff y cyfyngiadau eu llacio Ddydd Nadolig, pan fydd hawl gan y cyhoedd i deithio i gymysgu ag un aelwyd arall.
Er mwyn cefnogi'r ymdrech genedlaethol i helpu i arafu lledaeniad y feirws, a helpu i orfodi'r cyfyngiadau, rhoddwyd awdurdod i'n swyddogion stopio unrhyw gerbyd sy'n teithio yn ardal yr heddlu.
Caiff gwiriadau eu cynnal er mwyn canfod y rheswm dros deithio.
Bydd ein swyddogion yn parhau i ddilyn y dull cenedlaethol o ymgysylltu â'r cyhoedd, egluro'r cyfyngiadau ac annog cydymffurfiaeth wirfoddol. Fodd bynnag, gall y rheini y credir eu bod yn amlwg yn torri'r rheolau ddisgwyl wynebu camau gorfodi.
Daeth y pŵer i rym am 7am ar ddydd Mawrth, 12 Rhagfyr a chaiff ei adolygu ddydd Llun, 4 Ionawr.