Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cadarnhau y bydd “cyfnod atal byr a llym” yn cael ei gyflwyno yng Nghymru er mwyn helpu i ddod ag achosion o’r Coronafeirws dan reolaeth.
Bydd y cyfyngiadau cenedlaethol yn berthnasol i bawb yng Nghymru ac yn dechrau am 6pm ddydd Gwener 23 Hydref ac yn dod i ben ddydd Llun 9 Tachwedd.
Bydd y mesurau yn disodli’r cyfyngiadau lleol presennol sydd ar waith mewn sawl rhan o’r wlad.
Gan annog y cyhoedd i barhau i gefnogi’r ymdrech ar y cyd, dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael: “Mae’r cynnydd yn nifer yr achosion o Goronafeirws yng Nghymru yn destun pryder mawr ac, o ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cyfnod atal byr, llym o 6pm ddydd Gwener 23 Hydref.
“Yn anffodus, byddwn yn dychwelyd i’r sefyllfa a welwyd yn gynharach eleni pan gawsom gyfarwyddiadau i aros gartref ac eithrio am nifer cyfyngedig o resymau. Rwy’n llwyr gefnogi’r camau a gymerwyd gan Weinidogion yng Nghymru i gyflwyno’r mesurau hyn er mwyn helpu i ddod ag achosion o’r feirws dan reolaeth a lleihau’r pwysau ar y GIG.
“Bydd swyddogion Heddlu De Cymru yn chwarae eu rhan i annog pobl i ddilyn y rheolau, fel y maent wedi’i wneud drwy gydol yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn.
“Fel soniodd y Prif Weinidog – ac mae yn llygaid ei le – bydd dibynnu’n llwyr ar fesurau gorfodi’r heddlu i gael pobl i gydymffurfio â’r cyfyngiadau yn golygu y byddant yn methu.
“Mae hwn yn argyfwng iechyd cyhoeddus, ac mae atal lledaeniad y Coronafeirws yn gyfrifoldeb a rennir gan bawb, ac mae staff awdurdodau lleol a swyddogion yr heddlu wedi gweithio’n dda gyda’i gilydd ledled De Cymru yn ystod cyfnod hynod o anodd a heriol. Ond hoffwn bwysleisio bod cyfrifoldeb ar bawb – rhaid i bob un ohonom gymryd cyfrifoldeb ar y cyd ac fel unigolion.
“Os na fydd pob un ohonom yn cymryd cyfrifoldeb personol, byddwn ni i gyd yn talu pris – ac er mai lleiafrif bach sy’n diystyru’r rheolau, mae angen i ni gyd chwarae ein rhan wrth esbonio iddynt fod hyn yn wirioneddol bwysig.
“Mae ein swyddogion wedi dangos sut y gellir gwneud hyn – maent wedi ymgysylltu â phobl, esbonio’r rheolau, annog pobl i’w dilyn, ac wedi gorfodi’r gyfraith lle y bo’n briodol.
“Ond ni ddylid gorfod defnyddio camau gorfodi – mae cyfrifoldeb personol yn gwbl hanfodol, ac os na fyddwn yn dilyn y rheolau hyn a bod nifer yr achosion yn parhau i gynyddu yna rydym yn mynd i orfod wynebu cyfyngiadau lleol am gyfnod llawer hirach.
“Mae’n bryd i bobl weithredu cyn i’r sefyllfa waethygu ymhellach – ac mae hynny’n berthnasol i bob un ohonom, ym mhobman.
“Mae nifer yr achosion o COVID-19 wedi cynyddu’n sylweddol mewn nifer o gymunedau yn Ne Cymru, ac mae risg y bydd mwy o bobl yn mynd yn sâl iawn, yn gorfod mynd i’r ysbyty neu’n marw hyd yn oed. Mae cadw at gyfyngiadau’r cyfnod atal byr hwn wir yn dyngedfennol.
Mae rhagor o wybodaeth am y cyfnod atal byr ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.