Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:59 04/11/2020
Bydd Heddlu De Cymru yn gweithio i gefnogi Ymgyrch BANG er mwyn atgoffa’r cyhoedd Nad yw Noson Tân Gwyllt yn Hwyl i Bawb ac, yn sgil pandemig parhaus COVID-19, mae rhai yn teimlo mwy o bryder a gofid, yn naturiol.
Bydd ein swyddogion yn parhau i fod yn weladwy yn ein cymunedau er mwyn helpu i ganfod achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a’u hatal, ac atgoffa pawb o’u rhwymedigaethau o dan y ddeddfwriaeth bresennol.
Byddant yn dilyn y dull plismona sydd wedi cael ei fabwysiadu drwy gydol y pandemig, sef esbonio’r rheolau ac annog pobl i’w dilyn.
Mae’r heddlu wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â’r gwasanaeth tân ac awdurdodau lleol i gynllunio ar gyfer un o gyfnodau prysuraf y flwyddyn i’r gwasanaethau brys yn draddodiadol.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Andy Valentine, sy’n arwain ymateb Heddlu De Cymru i’r pandemig:
“Ein nod yw sicrhau y gall cymunedau De Cymru fwynhau Noson Tân Gwyllt ddiogel, yn unol â chyfyngiadau presennol y Coronafeirws a’r cyngor clir a roddir gan ein cydweithwyr yn y gwasanaeth tân – Arhoswch Gartref, Cadwch yn Ddiogel a byddwch yn synhwyrol.
“Yn union fel y gwelsoch dros benwythnos Calan Gaeaf, byddwn yn parhau â’n dull plismona o esbonio’r rheolau ac annog cydymffurfiaeth, ond dylid defnyddio dulliau gorfodi’r heddlu i drin troseddwyr mynnych a’r rhai sy’n anwybyddu’r rheolau’n llwyr. Mae’n hollbwysig sicrhau bod y cyfnod atal byr yn cael yr effaith fwyaf cadarnhaol posibl er mwyn i ni allu diogelu’r GIG ac achub bywydau.
“Mae cynlluniau gweithredol ar waith ledled ardal yr heddlu, gyda swyddogion ychwanegol ar ddyletswydd i gynnal patrolau ac ymateb i broblemau a all godi yn ein cymunedau.
“Rydym yn annog rhieni i sicrhau eu bod yn gwybod ble mae eu plant a’u bod yn cydymffurfio â’r gyfraith, er mwyn helpu i wneud yn siŵr y gall pawb gael Noson Tân Gwyllt ddiogel a difyr, neu gallen nhw hefyd wynebu dirwy os bydd eu plant allan yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol ac yn torri rheolau’r Coronafeirws.”