Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gorchymyn gwasgaru, sy’n rhoi pwerau ychwanegol i’r heddlu ddelio â’r rheini sy’n ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol, wedi cael ei roi ar waith ar gyfer y Basn Hirgrwn ym Mae Caerdydd.
Er bod y mwyafrif helaeth o’r bobl sy’n ymweld â’r lleoliad yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn dilyn y gyfraith a chyfyngiadau COVID-19, nos Wener (31 Gorffennaf) gwnaeth swyddogion ddelio â nifer bach o anghydfodau ac achosion o drais, a bu’n rhaid iddynt hefyd blismona torfeydd mawr wrth safleoedd tacsi.
Cafodd dau unigolyn – menyw 27 oed a dyn 23 oed – eu harestio ar amheuaeth o ymosod ar weithiwr brys ar ôl i ddau swyddog gael eu hanafu mewn achosion ar wahân yn yr ardal. Mae’r ddau yn y ddalfa o hyd.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Jeff Burton: “Mae nifer o gyfyngiadau yn sgil y Coronafeirws ar waith o hyd, ac mae’n bwysig bod pobl yn cymryd cyfrifoldeb personol amdanynt ac yn eu dilyn, er mwyn sicrhau eu diogelwch eu hunain a diogelwch pobl eraill.
“Roedd y mwyafrif helaeth o bobl yn gwneud hynny, ond mae gweithredoedd hunanol isafswm o bobl wedi golygu nad oedd dim dewis arall gennym ond gorfodi gorchymyn gwasgaru Adran 35 ar gyfer yr ardal. Ni chaiff trais, anhrefn nac ymddygiad gwrthgymdeithasol eu goddef.
“Dylai’r rheini sy’n bwriadu ymweld â Chei’r Fôrforwyn heno fod yn ystyriol o’r ffaith bod y gorchymyn gwasgaru yn parhau i fod ar waith, a dylai unrhyw un sy’n bwriadu achosi trafferth neu ymddwyn mewn ffordd sy’n sarhau’r bobl sy’n dilyn y gyfraith, gadw draw neu ddisgwyl dod i gysylltiad â’n swyddogion.”
Nod gorchmynion gwasgaru Adran 35 o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yw sicrhau diogelwch y cyhoedd a lleihau’r risg o unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol neu anhrefn yn yr ardal hon.
Mae’r gorchymyn hwn yn rhoi’r pŵer i swyddogion mewn lifrai gwahardd unigolyn o ardal am hyd at gyfnod o 48 awr drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig.
Mae’r pŵer hwn yn ataliol ac mae’n galluogi’r swyddog i ddelio ag ymddygiad unigolyn yn gyflym cyn iddo waethygu. Mae hyn yn ychwanegol at ddeddfwriaeth COVID-19 bresennol.
Ychwanegodd Ditectif Arolygydd Burton: “Rydym am sicrhau bod y bobl sydd am ymweld ag ardaloedd megis Bae Caerdydd yn teimlo’n ddiogel yn gwneud hynny, felly byddwn yn cynnal presenoldeb gweledol drwy’r penwythnos. Byddwn yn gweithio gyda trwyddedeion yn yr ardal a bydd swyddogion hefyd yn defnyddio pwerau i atafaelu alcohol pan fo angen.
“Rydym yn dechrau gweld mwy o bobl yn ymweld â’n trefi a’n dinasoedd wrth i leoliadau ddechrau ailagor yn raddol, ac mae’n wych gweld bod cymaint o bobl yn gallu mwynhau eu hunain eto. Ond byddwn yn annog pobl i wneud hynny’n ddiogel ac yn gyfrifol ac, yn ogystal â dilyn y gyfraith, i gofio dilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol Llywodraeth Cymru sydd wedi’u cynllunio er budd a diogelwch pob un ohonom.”