Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:08 09/10/2020
Er bod y mwyafrif helaeth o unigolion yn chwarae eu rhan drwy gydymffurfio â rheoliadau Llywodraeth Cymru, mae Heddlu De Cymru’n ymateb i 40 adroddiad o achosion posibl o’u torri bob dydd ar gyfartaledd.
Yn unol â’r arddull plismona cenedlaethol, mae ein swyddogion yn parhau i ddefnyddio’r dull o ymgysylltu, annog ac esbonio gan ei fod yn ddigonol i ddelio ag ymddygiad cymedrol yn y rhan fwyaf o achosion.
Fodd bynnag, mae’r neges i’r sawl sy’n gwrthod ymgysylltu neu sy’n amlwg yn anwybyddu’r rheolau yn syml; gallwn gymryd camau gorfodi a byddwn yn gwneud hynny.
Ers i fesurau’r cyfyngiadau symud lleol gael eu cyflwyno am y tro cyntaf ganol fis Medi, rydym wedi cyflwyno sawl hysbysiad cosb benodedig neu wedi rhoi gwybod am bobl i’w hystyried am erlyniad, gan gynnwys:
Gwnaed tua 20 o atgyfeiriadau’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol hefyd yn hytrach na chyflwyno hysbysiadau cosb benodedig ar eu cyfer, a chafodd systemau sain a mathau eraill o offer eu hatafaelu mewn nifer bach o achosion. Gwnaed gorchmynion gwasgaru o dan adran 35 hefyd lle y bo’n briodol.
Yn ogystal â chamau gorfodi o’r fath, rydym yn parhau i gydweithio ag asiantaethau partner, gan gynnwys awdurdodau lleol a phrifysgolion er mwyn annog a gorfodi pobl i gydymffurfio â’r rheoliadau. Mae’r gweithgareddau a wnaed ar y cyd yn cynnwys:
Pwysleisiodd y Prif Uwcharolygydd, Andy Valentine, sy’n Gomander Aur ar gyfer ymateb yr Heddlu i Covid, mai annog y cyhoedd i gydymffurfio â’r rheoliadau yn wirfoddol yw’r dull a ffefrir gan yr heddlu o hyd, ond bod y swyddogion yn barod i gymryd camau gorfodi yn ôl yr angen a lle y bo’n gymesur i wneud hynny.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Valentine: “Mae’r pandemig iechyd hwn yn parhau i effeithio ar bob un ohonom, a dylai pawb fod yn chwarae eu rhan gan mai dyna’r peth cywir i’w wneud i amddiffyn ein hunain, ein hanwyliaid a’r GIG y mae pob un ohonom yn dibynnu arno.
“Mae’r mwyafrif helaeth o’r cyhoedd yn gwneud hynny, ac mae’r galw am gamau gorfodi yn parhau i fod yn gymharol isel. Byddem bob amser yn ffafrio hyn. Rydym yn ymateb i’r un lefelau o droseddau a galwadau brys am wasanaeth ag yr oeddem yn eu derbyn cyn i’r pandemig ddechrau, felly mae angen i ni allu cyrraedd y rheini sydd angen ein cymorth fwyaf cyn gynted â phosibl.
“Rydym bob amser wedi rhoi blaenoriaeth i gadw De Cymru’n Ddiogel ac rydym yn ddiolchgar i’r aelodau o’r cyhoedd sy’n gwneud y peth cywir ac yn ein galluogi i wneud hynny.
“I’r rheini sy’n parhau i anwybyddu’r rheolau drwy gynnal a mynychu partïon mewn tai, anwybyddu’r cyfyngiadau teithio – boed hynny’n lleol, yn genedlaethol neu’n rhyngwladol – neu’n methu cydymffurfio â’r gofynion o ran hunanynysu, gallwn gymryd camau gorfodi a byddwn yn gwneud hynny.
“Hoffwn atgoffa’r unigolion hynny y gall y gosb o dorri’r cyfyngiadau fod yn waeth nag y maent yn ei ddisgwyl. Er bod y dirwyon yn dechrau ar £60, gall y cyfanswm hwnnw godi ac arwain at wŷs mewn llys – yn yr un modd â’r feirws y mae’r rhan fwyaf ohonom yn ymrwymedig i fynd i’r afael ag ef – gall fod yn gostus iawn.’’