Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:30 26/01/2021
Cafodd dros 70 o bobl eu dirwyo am fynychu partïon mewn tai ledled De Cymru dros y penwythnos – a chafodd un person ei gyhuddo o ymosod ar swyddog yr heddlu.
Er bod Cymru gyfan yn dal i wynebu cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 y Coronafeirws, gwnaeth lleiafrif bach barhau i dorri'r rheolau drwy fynychu partïon mewn tai a theithio heb esgus rhesymol.
Ymatebodd Heddlu De Cymru i 552 o ddigwyddiadau'n ymwneud â Covid rhwng dydd Gwener a dydd Llun, ac er na chafwyd llawer o achosion o dorri'r rheolau, bu'n rhaid i'r swyddogion gyflwyno 134 o hysbysiadau cosb benodedig.
Yn eu plith roedd y canlynol:
Yn ogystal â hyn, cafodd sawl person ddirwy am deithio heb esgus rhesymol i barciau, traethau ac ardaloedd eraill o harddwch.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymgysylltu â'n cymunedau er mwyn annog pobl i gydymffurfio â deddfwriaeth y coronafeirws Llywodraeth Cymru, ac mae ein timau yn cynnal patrolau rhagweithiol rheolaidd i orfodi'r rheolau lle bo angen.
Hefyd, sefydlwyd Timau Gorfodi ar y Cyd (sy'n cynnwys swyddogion yr heddlu a staff cynghorau) ym mhob un o'r saith awdurdod lleol ac maent yn parhau i dargedu ardaloedd sy'n peri llawer o bryder.