Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymosodwyd ar gannoedd o weithwyr brys yn Ne Cymru yn ystod y flwyddyn ers i’r ddeddfwriaeth newydd gyflwyno dedfrydau llymach i’r rhai hynny sy’n ymosod ar weithwyr golau glas.
Daeth y ddeddf i rym ar 13 Tachwedd 2018 – ac yn ystod y 12 mis ers hynny, rhoddwyd gwybod am 868 o droseddau yn erbyn gweithwyr brys yn Ne Cymru. Gwnaed cyhuddiadau mewn tua 62% o’r achosion.
Mae’r ddeddf wedi ei gwneud yn bosibl dedfrydu’r rhai hynny sy’n ymosod ar yr heddlu, staff ambiwlans, criwiau tân a swyddogion carchardai, drwy gyflwyno trosedd newydd o fân ymosodiadau yn erbyn gweithwyr brys.
Mae Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Matt Jukes, yn dweud bod nifer yr ymosodiadau ar bersonél wrth eu gwaith yn annerbyniol o uchel.
Meddai:
“Mae gen i barch aruthrol at ymroddiad, penderfyniad a dewrder ein swyddogion a’n staff sy’n rhoi eu hunain mewn perygl i fynd i’r afael â throseddwyr treisgar ar ran pobl eraill, y mae rhai ohonynt ymysg y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
“Does dim cyfiawnhad dros ymosod ar y rhai hynny sy’n gwneud gwaith eithriadol i gadw De Cymru’n ddiogel – ac sydd ond yn gwneud eu gwaith.
“Does neb yn mynd i’r gwaith er mwyn cael ei drywanu, ei gicio, ei gnoi, ei fygwth neu gael rhywun yn poeri ato. Ac eto, dyma’n union sy’n digwydd mewn gormod o achosion. Mae ein swyddogion a’n staff yn gwneud gwaith eithriadol, ond pobl gyffredin ydynt – nid bagiau dyrnu.
“Yn yr un modd, mae personél brys eraill yn weision cyhoeddus ymrwymedig, a dylai unrhyw un sy’n meddwl ei bod yn iawn iddo ymosod arnynt ddisgwyl ymdriniaeth ddifrifol gan y system cyfiawnder troseddol.
“Mae gwydnwch swyddogion pan ymosodir arnynt yn ysbrydoledig, ond ni ddylent fyth gael eu rhoi yn y sefyllfa honno.
“Bellach, mae gan y llysoedd fwy o bŵer i ymdrin â’r troseddwyr hyn, ond mae’r ffaith y rhoddwyd gwybod am bron 870 o ymosodiadau ar weithwyr brys dros y 12 mis diwethaf yn dangos bod rhagor o waith i’w wneud.”
Dywedodd Steve Treharne, cadeirydd Ffederasiwn Heddlu De Cymru:
“Mae ymosodiadau ar weithwyr y gwasanaeth brys yn annerbyniol. Rydym yn croesawu unrhyw gamau i sicrhau yr ymdrinnir ag unrhyw un sy’n ymosod ar gydweithwyr golau glas mewn modd cadarn gan y System Cyfiawnder Troseddol.
“Mae nifer yr ymosodiadau ar ein swyddogion dyfal yn dal i gynyddu, gyda chynnydd o 30% dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae holl weithwyr y gwasanaeth brys yn haeddu cael eu diogelu am weithio mor galed bob dydd.”