Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:10 16/04/2020
Rydym yn annog pawb i fod yn ymwybodol o sgam e-bost lle mae twyllwyr yn mynnu taliad – neu’n honni y byddant yn rhyddhau fideos neu wybodaeth sy’n peryglu enw da eu dioddefwyr.
Gallai’r e-byst sgam honni bod yr anfonwr wedi recordio fideo o’r dioddefwr yn gwylio pornograffi, er enghraifft, drwy ddefnyddio gwe-gamera. Weithiau gall y sgamiau gynnwys cyfrineiriau cyfredol neu flaenorol, neu gallant ymddangos fel petaent wedi cael eu hanfon o gyfeiriad e-bost y dioddefwr ei hun.
Mae sgamwyr yn honni mai dim ond drwy wneud taliad ar ffurf arian cyfred ar-lein Bitcoin y gall dioddefwyr sicrhau bod y deunyddiau hyn yn cael eu dileu. Gelwir hyn yn flacmel rhywiol.
Mae pobl ledled y wlad, gan gynnwys yn ne Cymru, wedi rhoi gwybod eu bod wedi cael yr e-byst hyn.
Cofiwch nad yw’r twyllwyr hyn yn gwybod a oes gennych gwe-gamera, a ydych wedi bod yn ymweld â gwefannau i oedolion, na sut rydych yn cyfathrebu â phobl – yn gryno, maent yn dyfalu.
Fodd bynnag, maent yn gobeithio cael pobl i ymateb ar sail emosiwn fel y byddant yn cael eu pryfocio ac yn talu’r pridwerth.
Dywedodd DS Steve Jones:
“Er ein bod ni wedi gweld y math hwn o sgam o’r blaen, mae llawer o’r e-byst rydym yn cael gwybod amdanynt ar hyn o bryd yn debyg, sy’n awgrymu eu bod yn cael eu hanfon mewn niferoedd uwch na’r arfer.
“Oherwydd eu bod efallai yn dangos cyfrineiriau cyfredol neu flaenorol y dioddefwyr, gall yr e-byst ymddangos fel bygythiad credadwy.
“Fodd bynnag, sgam yw hyn, ac rydym yn gofyn i bobl wneud pobl eraill yn ymwybodol drwy rannu’r neges hon.”
Cofiwch:
Rhagor o wybodaeth am ddiogelu eich hunain > https://www.ncsc.gov.uk/guidance/sextortion-scams-how-to-protect-yourself
Er mwyn rhoi gwybod am achos, gallwch ffonio Action Fraud ar 0300 123 2040 neu ewch i https://www.actionfraud.police.uk/sextortion. Os byddwch wedi talu unrhyw arian, ffoniwch yr heddlu ar 101. Mae cymorth emosiynol ar gael gan elusennau, gan gynnwys Cymorth i Ddioddefwyr.