Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:10 03/06/2020
Mae prif gwnstabliaid o heddluoedd ledled y wlad, cadeirydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, prif weithredwr y Coleg Plismona a Llywydd Cymdeithas Uwch-arolygwyr yr Heddlu wedi codi eu lleisiau yn sgil marwolaeth George Floyd a’r digwyddiadau sydd wedi dilyn hynny yn yr Unol Daleithiau.
Gwnaethant ddweud:
“Rydym yn sefyll ochr yn ochr â’r rheini o bob cwr o’r byd y mae’r ffordd y collodd George Floyd ei fywyd wedi eu brawychu a’u harswydo. Dylid sicrhau cyfiawnder ac atebolrwydd.
“Mae’r trais a’r difrod sydd wedi digwydd mewn cynifer o ddinasoedd yn yr UD ers hynny hefyd wedi codi braw arnom. Rydym yn cydymdeimlo â phawb y mae’r digwyddiadau ofnadwy hyn wedi effeithio arnynt ac rydym yn gobeithio y ceir heddwch a threfn yn fuan.
“Yn y DU, mae gennym draddodiad hirsefydledig o blismona drwy gydsyniad, gan weithio mewn cymunedau i atal troseddau a datrys problemau. Caiff swyddogion eu hyfforddi i ddefnyddio grym yn gymesur, yn gyfreithlon a dim ond pan fydd yn gwbl angenrheidiol. Rydym yn ymdrechu i ddysgu a gwella yn barhaus. Byddwn yn mynd i’r afael â thuedd, hiliaeth neu wahaniaethu lle bynnag y byddwn yn dod ar eu traws.
“Mae plismona yn gymhleth ac yn heriol ac weithiau ni fyddwn yn cyrraedd y nod. Pan fyddwn yn methu, rydym yn barod i dynnu sylw at gamweddau neu gael ein dwyn i gyfrif.
“Mae’r gydberthynas rhwng yr heddlu a’r cyhoedd yn y DU yn gryf, ond mae bob amser lle i wella. Bob dydd, ym mhob rhan o’r wlad, mae swyddogion a staff yn gweithio i atgyfnerthu’r cydberthnasau hynny a mynd i’r afael â phryderon. Dim ond drwy weithio’n agos gyda’n cymunedau y gallwn feithrin ymddiriedaeth a helpu i gadw pobl yn ddiogel.
“Gwyddom fod pobl am sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed. Mae’r hawl i brotestio’n gyfreithlon yn rhan allweddol o unrhyw ddemocratiaeth, ac mae heddlu’r DU yn cefnogi a hwyluso hyn. Ond mae’r coronafeirws yn parhau i fod yn glefyd angheuol ac mae cyfyngiadau ar waith o hyd er mwyn ei atal rhag lledaenu. Felly, beth bynnag y bo’r rheswm y mae pobl am ddod at ei gilydd, rydym yn gofyn i bobl barhau i weithio gyda swyddogion yn ystod y cyfnod heriol hwn.”
Martin Hewitt, Cadeirydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu
Mike Cunningham, Prif Weithredwr y Coleg Plismona
Paul Griffiths, Llywydd Cymdeithas Uwch-arolygwyr yr Heddlu