Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Uned Cudd-wybodaeth Carchardai Rhanbarthol Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru a Tarian wedi bod yn cydweithio'n agos â charchardai yn Ne Cymru i gymryd camau gorfodi pellach ar gyfer achosion o gyffuriau sy'n cael eu cyflenwi'n anghyfreithlon mewn carchardai.
Mae cyfres o weithrediadau a arweiniwyd gan gudd-wybodaeth ac a gynlluniwyd ymlaen llaw rhwng CEM Parc a'r Heddlu yn ddiweddar, wedi arwain at arestio 13 o unigolion mewn cysylltiad â chyflenwi sylweddau seicoweithredol a chynllwynio i gyflenwi canabis ac eitemau eraill sydd wedi'u gwahardd i'r carchar.
Aeth yr heddlu ati i ymyrryd yn sylweddol gan arestio ymwelwyr a oedd yn ceisio trosglwyddo cyffuriau i garcharorion, ar ôl derbyn cudd-wybodaeth gan staff yn CEM Parc. Roedd menywod dan ddylanwad partïon eraill ymhlith y sawl a gafodd eu harestio, a gwnaeth y gwaith ar y cyd â'r Uned Cudd-wybodaeth Carchardai Rhanbarthol gysylltu'r unigolion hyn â grŵp troseddau cyfundrefnol yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr.
Cafodd gwarant ei gyflwyno yn ardal Birmingham ar 17 Tachwedd 2020, a arweiniodd at sawl arestiad arall a chanfod sawl dyfais ddigidol ac eitemau cyffuriau eraill. Yn sgil y ffordd roedd yr eitemau hyn wedi'u pacio, roedd yn amlwg mai'r nod oedd eu cyflenwi'n anghyfreithlon mewn carchardai. Cafodd gwerth £3,500 o arian parod a char gwerthfawr eu canfod hefyd.
Mewn ymgyrch ar wahân rhwng CEM Parc a'r Uned Cudd-wybodaeth Carchardai Rhanbarthol, amcangyfrifir bod gwerth £19,000 o gyffuriau wedi'i atafaelu mewn pedwar llythyr a anfonwyd at garcharorion a oedd yn cynnwys sylweddau seicoweithredol. Gwnaeth ymchwiliad yr heddlu olrhain y pecynnau yn ôl i'r anfonwyr, a chafodd dwy wraig ac un dyn eu harestio yng Nghasnewydd ar 26 Tachwedd 2020.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol David Thorne:
“Mae cyffuriau'n cael effaith andwyol ar y broses o adsefydlu troseddwyr. Maent yn cynyddu dyledion a'r achosion o drais, a gallant olygu bod y troseddwyr yn dal i fod yn gaeth iddynt ar ôl gadael amgylchedd y carchar, ac arwain at risg uwch o aildroseddu.
“Dim ond drwy barhau i gydweithio'n agos mewn partneriaeth ag awdurdodau'r carchar y gallwn atal cyffuriau, ffonau ac eitemau eraill sydd wedi'u gwahardd rhag cael eu masnachu i mewn i garchardai.
“Mae gweithgarwch o'r fath yn cam-fanteisio ar unigolion sydd eisoes yn agored i niwed yn y carchar ac yn amlwg yn fwriad i gael budd ohonynt yn ariannol.
“Drwy fynd ati'n rhagweithiol i dargedu'r rheini sy'n ymwneud â'r math hwn o weithgarwch troseddol cyfundrefnol gyda'n gilydd, gallwn sicrhau ein bod yn cyflawni ein hamcanion o ddatblygu amgylchedd mwy diogel yn y carchar ac sy'n fwy addas ar gyfer y broses o adsefydlu, ac er mwyn diogelu'r unigolion sy'n agored i niwed yn fwy effeithiol.
“Drwy fynd i'r afael â grwpiau troseddu cyfundrefnol fel y rhain yn effeithiol, gallwn ddwyn y rheini sy'n gyfrifol am gyflenwi cyffuriau mewn carchardai gerbron y llys ac amharu ar y broses niweidiol o fasnachu cyffuriau i'r rheini sydd eisoes yn agored i niwed.”
Dywedodd Janet Wallsgrove, Cyfarwyddwr Carchar Ei Mawrhydi a Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc:
“Bydd grwpiau troseddu cyfundrefnol yn gwneud unrhyw beth i elwa o gyflenwi eitemau sydd wedi'u gwahardd mewn carchardai sy'n cynrychioli diogelwch, sefydlogrwydd a phroses o adsefydlu yn y pen draw.”
“Diogelwch y sawl sy'n bresennol yn CEM Parc yw ein prif flaenoriaeth, ac mae'r gweithrediadau diweddaraf hyn yn enghreifftiau gwych o'r ffordd y gall gwaith amlasiantaethol fynd i'r afael â gweithgarwch anghyfreithlon ac arwain at gymunedau mwy diogel yn y ddalfa, a'r tu allan iddi.”