Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:52 09/11/2020
Wrth i’r cyfnod atal byr dros y pythefnos diwethaf ddod i ben yng Nghymru, mae Heddlu De Cymru yn galw ar gymunedau i wneud y peth iawn er mwyn helpu i atal y Coronafeirws rhag lledaenu.
O heddiw ymlaen, bydd rheolau newydd ar waith ac mae pwerau gan wasanaethau’r heddlu yng Nghymru o hyd i gymryd camau gorfodi yn erbyn y rhai sy’n eu torri.
Er bod nifer o fesurau’r cyfnod atal byr wedi cael eu codi, mae deddfwriaeth ar waith o hyd a bydd swyddogion yr heddlu yn parhau i’w chynnal – gan fabwysiadu’r dull o ymgysylltu â’r cyhoedd, esbonio’r rheolau iddynt, eu hannog i gydymffurfio â nhw a defnyddio camau gorfodi pan fo’n gwbl angenrheidiol a phriodol.
Bydd Heddlu De Cymru yn parhau i weithio gyda phartneriaid yn yr awdurdodau lleol i gymryd camau yn erbyn unigolion, busnesau a safleoedd trwyddedig y mae’n amlwg nad ydynt yn cydymffurfio â’r rheoliadau neu sy’n eu torri dro ar ôl tro.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Andy Valentine, sy’n arwain ymateb Heddlu De Cymru i COVID-19: “Hoffwn ddiolch i’r cyhoedd sydd wedi cefnogi ymateb iechyd y cyhoedd yn ystod y cyfnod atal byr drwy ddilyn cyfyngiadau Llywodraeth Cymru. Rydym yn gwybod ei bod yn gyfnod heriol a bod cymunedau wedi aberthu llawer, a bod y flwyddyn hon wedi bod yn anodd iawn i bobl ledled De Cymru.
Wrth i’r cyfnod atal byr ddod i ben, rwy’n erfyn ar y cyhoedd i wneud y peth iawn ac i ddilyn y rheoliadau newydd – drwy wneud hynny, gallwn atal lledaeniad y Coronafeirws yn gynt, gan atal marwolaethau yn ein cymunedau oherwydd y feirws hwn.
Drwy gydol y pandemig hwn, mae ein harddull plismona wedi cynnwys esbonio’r rheolau, annog pobl i gydymffurfio â nhw a defnyddio camau gorfodi pan fetho popeth arall.
“Byddwn yn parhau i ymateb i bryderon am dorri rheoliadau’r Coronafeirws ac yn gweithio gyda phartneriaid i orfodi’r rheoliadau mewn ffordd gymesur.
“I’r bobl a’r busnesau sy’n parhau i anwybyddu’r rheolau, mae ein neges yn glir: Rhaid i chi wneud y peth iawn i atal y Coronafeirws rhag lledaenu yn ein cymunedau. Os byddwch yn dangos diffyg ystyriaeth amlwg tuag at y rheolau, dylech ddisgwyl i’r heddlu neu ein hasiantaethau partner gymryd camau gorfodi.”
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael: “Er bod llawer o’r rheolau wedi’u llacio, mae’n bwysicach nag erioed bod pob un ohonom yn cymryd cyfrifoldeb personol ac ar y cyd i ofalu amdanynt eu hunain a’u teuluoedd – er mwyn achub bywydau a diogelu’r GIG.
Mewn datganiad, dywedodd Mr Michael: “Wrth i’r cyfnod atal byr hwn dros y pythefnos diwethaf ddod i ben, rwy’n gwbl gefnogol o alwad y Prif Weinidog i bobl feddwl am yr hyn y DYLENT fod yn ei wneud i gadw eu hunain yn ddiogel, yn hytrach na meddwl am yr hyn y GALLANT wneud o fewn y rheolau. Mae’n amlwg nad yw’r sawl sydd o’r farn y gallant gwneud beth bynnag y maent eisiau ei wneud bellach yn deall difrifoldeb yr heriau sy’n ein wynebu.
“Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi aberthu llawer dros wythnosau a misoedd a byddai’n wirion difetha’r holl waith caled hwnnw. Ni ddylai fod angen cyfreithiau na chamau gorfodi’r heddlu i roi hynny ar waith – mae’n dibynnu ar gyfrifoldeb unigolion a chyfrifoldeb ar y cyd i wneud y peth cywir.
“Yn anffodus, mae lleiafrif sydd naill ai’n anwybyddu’r rheolau, sy’n chwilio am ffyrdd o’u haddasu i’w dibenion eu hunain neu sy’n eu gwthio i’r eithaf. Mae ymddygiad o’r fath yn gwbl fyrbwyll ac annerbyniol a bydd yn arwain at gyflwyno cyfyngiadau pellach eto. Gadewch i ni gydweithio er mwyn atal hynny rhag digwydd.
“Drwy ddarllen y data iechyd yn unig, gallwch weld y niferoedd o bobl sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty ac sy’n marw bob dydd – mae’r sefyllfa mor wael â hynny.
“Rwyf wedi bod yn falch o weld sut mae swyddogion yr heddlu yn Ne Cymru wedi llwyddo i gael y cydbwysedd rhwng ymgysylltu â phobl ac egluro’r rheolau iddynt, a dim ond defnyddio camau gorfodi pan fo’n angenrheidiol ac yn gymesur, ond gan wneud hynny heb ofn na ffafriaeth.
“Mae swyddogion yr heddlu wedi gorfod wynebu’r un heriau personol â phob un ohonom yn ystod y pandemig, ac maent yn haeddu cael eu canmol am chwarae eu rhan gydag awdurdodau lleol a phartneriaid y GIG i fynd i’r afael â’r pandemig yn ogystal â pharhau i fynd i’r afael â throseddu, trais ac achosion o gam-drin a cham-fanteisio ar bobl i’w diogelu rhag niwed – a chadw ein cymunedau, nhw eu hunain a’u teuluoedd, yn ddiogel.”
Yn gryno, o ddydd Llun 9 Tachwedd:
Chwe phrif reol: