Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mewn seremoni a gynhaliwyd ym Mhencadlys Heddlu De Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr heddiw, ddydd Mercher 2 Medi, cyflwynodd y Dirprwy Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan wobr Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn 2020 I Daniel Holloway. Mae Dan yn Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) ac yn rhan o dîm cymdogaeth lleol Bae Caerdydd.
Mae’r wobr yn cydnabod dysgwr Cymraeg gorau’r flwyddyn, a’r person sydd wedi dangos yr ymrwymiad, y cymhelliant a’r brwdfrydedd mwyaf i ddysgu Cymraeg dros y 12 mis diwethaf.
Roedd brwdfrydedd Dan, ei agwedd gadarnhaol a’i ymdrechion i ddatblygu, ymarfer a gwella ei sgiliau Cymraeg gartref gyda’i deulu ac yn y gweithle wedi creu argraff fawr ar y beirniaid, sy’n rhan o dîm Dysgu a Datblygu Heddlu De Cymru, yn ystod eu trafodaethau.
Wrth dderbyn ei wobr, dywedodd Dan: “Rwy’n hynod falch fy mod wedi ennill y wobr hon, a hoffwn ddiolch i fy nheulu a fy nghydweithwyr yn Heddlu De Cymru am yr help a’r gefnogaeth a gefais ganddynt.
“Fe ddechreuodd fy niddordeb mewn dysgu a gwella fy Nghymraeg yn 2012 pan gefais fy adleoli i ardal Grangetown yng Nghaerdydd sydd â chymuned gref o siaradwyr Cymraeg. Ar y pryd, fe ddechreuodd fy mab hynaf fynychu Ysgol Gynradd cyfrwng Cymraeg ac fe wnaethom ni fel teulu fynd i ddigwyddiadau diwylliannol fel Tafwyl ac Eisteddfod yr Urdd.
“Fe wnaeth fy rhawd ddyddiol gyflwyno’r gymuned iaith Gymraeg i mi, ac roeddwn yn teimlo bod angen i mi feithrin dealltwriaeth bellach o iaith a diwylliant y gymuned. Fe ddechreues i ddysgu Cymraeg ar fy mhen fy hun a siarad Cymraeg â’m cydweithwyr a oedd yn siaradwyr Cymraeg a wnaeth fy helpu i ddysgu. Hefyd, wrth ddod i gysylltiad ag aelodau o’r gymuned o ddydd i ddydd, fe ddechreues i siarad â nhw yn Gymraeg ac, yn araf bach, fe dyfodd fy hyder.
“Yn 2018, fe ddechreues i ddysgu Cymraeg yn swyddogol drwy gwblhau lefelau hyfforddi Cymraeg lefel un a dau Heddlu De Cymru, ac yn fy amser rhydd, fe ddechreues i’r cwrs “Cymraeg i’r Teulu” gyda Phrifysgol Caerdydd. Y llynedd, fe wnes i barhau i ddysgu Cymraeg yn y gweithle a chwblhau fy hyfforddiant lefel tri. Yn ddiweddar, rwyf wedi cwblhau ail gwrs “Cymraeg i’r Teulu” gyda Phrifysgol Caerdydd.
“Wrth edrych i’r dyfodol, rwy’n ymrwymedig i wella fy Nghymraeg a mwynhau rhyngweithio â phobl drwy gyfrwng y Gymraeg. Gall fod yn heriol ond hefyd yn llawer o hwyl, ac mae wedi rhoi ymdeimlad gwirioneddol o falchder a chyflawniad i mi. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i roi cynnig arni – mae llawer o adnoddau ar gael am ddim, a gallwch ddysgu rhai ymadroddion a geiriau sylfaenol wrth eich pwysau eich hun.
Dywedodd y Dirprwy Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan, sy’n arwain y Gymraeg yn Heddlu De Cymru: “Mae’n bleser gennyf gydnabod ymdrechion Dan a’i longyfarch ar ei lwyddiannau. Mae ei gyflawniad hyd yn oed yn fwy trawiadol o ystyried y cystadleuwyr gwych eraill yr oedd yn eu hwynebu; unwaith eto, cawsom y nifer uchaf erioed o swyddogion a staff Heddlu De Cymru yn gwneud yr ymdrech i ddysgu a gwella eu sgiliau iaith Gymraeg. Maent yn gwneud hyn drwy ein cyrsiau dysgu a datblygu ac yn eu hamser eu hunain hefyd.
“Yn ogystal â chydnabod llwyddiant Dan, hoffwn dalu teyrnged i Heulwen Jones, ein Hyfforddwr Iaith Gymraeg a’r tîm dysgu a datblygu. Mae Heulwen yn parhau i roi cymorth gwych i’n dysgwyr, ac rydym yn ddiolchgar am ei hysbrydoliaeth ddi-ffael a’i harweiniad amyneddgar.
“Fel sefydliad, rydym yn parhau i ddatblygu a gwella’r gwasanaethau plismona rydym yn eu cynnig, p’un a yw ein cymunedau’n dewis eu defnyddio yn Gymraeg neu yn Saesneg. Mae’r ffaith bod cynifer o’n swyddogion a’n staff am ddysgu a gwella eu Cymraeg yn galonogol ac yn ysbrydoliaeth hefyd. Rwy’n sicr y bydd agwedd frwd a phenderfynol Dan a chydweithwyr eraill yn ein helpu i gyflawni ein nod o sicrhau bod Heddlu De Cymru yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog.”
Mae Dan wedi siarad eisoes am ei siwrne i ddysgu Cymraeg yn y fideo byr yma a gynhyrchwyd gan S4C Dysgu Cymraeg.