Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:58 24/11/2020
Mae saith unigolyn bellach wedi cael eu harestio mewn cysylltiad ag anhrefn dreisgar yng nghanol dinas Caerdydd nos Sadwrn (21 Tachwedd).
Mae ditectifs yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad a oedd yn cynnwys dau grŵp o bobl o ardaloedd Grangetown a Thredelerch yng Nghaerdydd.
Aethpwyd â chwe dyn ifanc i'r ysbyty gydag anafiadau amrywiol gan gynnwys anafiadau yn gysylltiedig â thrywanu ac anafiadau i'r pen yn dilyn yr anhrefn a ddechreuodd ar Heol y Frenhines tua 9.50pm.
Mae saith dyn ifanc, i gyd yn 16 ac 17 oed, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o anhrefn dreisgar ac maent wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth nes y bydd ymholiadau pellach.
Disgwylir y bydd arestiadau pellach.
Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Esyr Jones o Heddlu De Cymru:
“Mae'n ddyddiau cynnar o hyd o ran yr ymchwiliad, ond rydym yn dechrau cael syniad o'r hyn a ddigwyddodd nos Sadwrn.
“Mae dau grŵp o bobl ifanc wedi dod i mewn i ganol y ddinas, rhai â chyllyll, a'r canlyniad fu lefel annerbyniol o drais.
"Rydym yn pori drwy recordiadau CCTV helaeth ac yn siarad â nifer o dystion o hyd, a byddwn yn gweithio'n ddi-baid er mwyn adnabod ac arestio pawb a fu'n gysylltiedig â'r digwyddiad.”
Fel rhan o'r ymchwiliad ehangach, ac er mwyn sicrhau bod Caerdydd yn parhau i fod yn lle diogel i bawb, byddwn yn ymweld â theuluoedd ac yn cynnig cymorth iddynt er mwyn helpu i atal pobl ifanc rhag cymryd rhan mewn trais difrifol a throseddau'n ymwneud â chyllyll.
O'r chwech a aeth i'r ysbyty, mae tri – dau yn 16 oed ac un yn 17 oed – yn yr ysbyty o hyd ag anafiadau nad ydynt yn peryglu eu bywydau.
Ychwanegodd y Ditectif Uwcharolygydd Jones:
“Mae effeithiau ofnadwy troseddau'n ymwneud â chyllyll yn amlwg. Byddem yn annog teuluoedd ac arweinwyr yn y gymuned i siarad â'u plant a chysylltu â Heddlu De Cymru os byddant yn amau bod eu plentyn wedi bod yn rhan o'r digwyddiad hwn.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â 101 neu Taclo'r Tacle yn hollol ddienw ar 0800 555 111 gan ddyfynnu cofnodrif *424668.
Fel arall, gellir cyflwyno gwybodaeth a chofnod cyfryngau digidol, megis fideos ar ffonau symudol, ar-lein yn https://mipp.police.uk/operation/62SWP20B23-PO1