Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
01:36 22/11/2020
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i derfysg mawr a ddigwyddodd yng nghanol dinas Caerdydd nos Sadwrn (21 Tachwedd).
Cafwyd sawl adroddiad am ddigwyddiad treisgar ar Stryd y Frenhines tua 9.50pm.
Yn dilyn hynny, aeth chwe pherson i Ysbyty Athrofaol Cymru ag amrywiol anafiadau, naill ai wedi'u cludo yno o'r digwyddiad neu drwy fynd eu hunain.
Cafodd un person anafiadau i'w ben ac mae'n parhau mewn cyflwr difrifol, a chredir bod tri arall wedi cael eu trywanu.
Daeth dau arall i'r ysbyty ag anafiadau llai difrifol.
Mae dau berson wedi cael eu harestio ar amheuaeth o anhrefn dreisgar ac maent yn y ddalfa ym Mae Caerdydd ar hyn o bryd.
Mae ymchwiliad yn mynd rhagddo er mwyn cadarnhau'r amgylchiadau llawn, ac anogir unrhyw un a fu'n dyst i'r digwyddiad neu ddigwyddiadau cyn neu ar ôl hynny i gysylltu â'r heddlu drwy 101, gan ddyfynnu cofnodrif 2000424668.
Gallwch hefyd gysylltu â Taclo'r Tacle yn gwbl ddienw ar 0800 555 111.