Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:54 22/11/2020
Mae ditectifs yng Nghaerdydd yn parhau i ymchwilio ar ôl i chwe pherson gael eu derbyn i'r ysbyty yn dilyn anhrefn dreisgar yng nghanol y ddinas neithiwr (dydd Sadwrn 21 Tachwedd).
Cafwyd sawl adroddiad am ddigwyddiad treisgar ar Stryd y Frenhines tua 9.50pm, ac yn dilyn hynny, aed â chwe pherson i'r ysbyty ag amrywiol anafiadau, gan gynnwys anafiadau yn gysylltiedig â thrywanu ac anafiadau i'r pen.
Mae tri pherson yn Ysbyty Athrofaol Cymru o hyd, ac mae un arall yn Ysbyty Llandochau ar hyn o bryd. Er eu bod yn ddifrifol, ni chredir bod unrhyw rai o'r anafiadau yn bygwth bywyd.
Mae pedwar person wedi cael eu harestio ar amheuaeth o anhrefn dreisgar. Defnyddiwyd Taser hefyd i gadw un dyn, a oedd yn atal swyddogion rhag ymateb i'r digwyddiad, yn gaeth. Ni chredir ei fod yn gysylltiedig â'r anhrefn.
Dywedodd Ditectif Uwcharolygydd Esyr Jones: "Roedd hwn yn ddigwyddiad treisgar a chwbl annerbyniol sydd, wrth reswm, wedi achosi pryder yn y gymuned leol.
"Mae tîm o ugain o dditectifs wrthi'n ymchwilio i'r digwyddiad ar hyn o bryd, gan bori drwy recordiadau CCTV helaeth a siarad â nifer o dystion, a hoffwn sicrhau'r cyhoedd y byddwn yn gweithio'n ddi-baid er mwyn nodi ac arestio pawb a oedd yn gysylltiedig â'r digwyddiad.
"Ymddengys mai digwyddiad unigol ydoedd ac mai pobl ifanc leol oeddent. Gall pob un ohonynt ddisgwyl y bydd swyddogion yn curo ar eu drysau wrth i'r ymholiadau fynd rhagddynt.
"Rydym yn gweithio'n agos ag amrywiaeth eang o bartneriaid er mwyn sicrhau mai anaml y ceir digwyddiadau o'r fath, a gall aelodau'r cyhoedd fod yn dawel eu meddwl fod Caerdydd yn lle diogel i fyw, gweithio ac ymweld ag ef o hyd.
"Rydym yn parhau i apelio i unrhyw un a fu'n dyst i'r digwyddiad neu sy'n meddu ar wybodaeth a allai hwyluso'r ymchwiliad i gysylltu â ni. Yn arbennig, byddwn yn annog unrhyw riant sy'n amau bod ei blentyn yn gysylltiedig â'r digwyddiad mewn unrhyw ffordd i gysylltu â ni. Mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i fynd i'r afael â throseddau'n ymwneud â chyllyll ac ni fydd unrhyw rieni sy'n amau bod eu plant yn gysylltiedig â'r digwyddiad yn eu hamddiffyn drwy gadw'n dawel."
Anogir unrhyw un sy'n meddu ar wybodaeth i ffonio 101, gan ddyfynnu cofnodrif 2000424668.
Gallwch hefyd gysylltu â Taclo'r Tacle yn gwbl ddienw ar 0800 555 111.