Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:00 21/12/2020
“Y peth olaf y mae unrhyw swyddog heddlu am ei wneud dros gyfnod y Nadolig yw gorfod rhoi hysbysiadau cosb benodedig am dorri rheoliadau'r Coronafeirws ac rwy'n apelio i'r cyhoedd i wneud y peth iawn fel na fydd yn rhaid i ni wneud hynny.
Wrth ymateb i gyfyngiadau diweddaraf Rhybudd Lefel 4 Covid-19 Llywodraeth Cymru a ddaeth i rym ar Ragfyr 19eg, dywedodd Prif Uwch-arolygydd Heddlu De Cymru, Andy Valentine:
“Y peth olaf y mae unrhyw swyddog heddlu am ei wneud dros gyfnod y Nadolig yw gorfod rhoi hysbysiadau cosb benodedig am dorri rheoliadau'r Coronafeirws ac rwy'n apelio i'r cyhoedd i wneud y peth iawn fel na fydd yn rhaid i ni wneud hynny.
“Mae'r bygythiad yn sgil COVID-19 a wynebir gan bob cymuned yn Ne Cymru yn real iawn ac mae rheoliadau Llywodraeth Cymru yn bodoli er mwyn achub bywydau ac amddiffyn ein GIG.
“Mae wedi bod yn flwyddyn eithriadol o anodd i bawb, yn cynnwys swyddogion, staff a gwirfoddolwyr Heddlu De Cymru, sydd wedi bod yn gweithio'n ddiflino i gefnogi ymateb iechyd y cyhoedd i COVID-19.
“Bydd swyddogion heddlu, swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a chydweithwyr sy'n aelodau o staff yr heddlu yn gweithio dros gyfnod y Nadolig ac yn ymateb i anghenion rhai o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
“Maent yn gwybod pa mor anodd yw gorfod bod ar wahân i'w teuluoedd eu hunain dros y Nadolig, ac nid ydynt am ddifetha'r achlysur i neb.
“Felly, rwy'n apelio eto am gefnogaeth y cyhoedd i wneud y peth iawn fel na fydd yn rhaid i ni orfodi'r ddeddfwriaeth.”
Cliciwch ar y ddolen hon i ddarganfod mwy am ein hymateb i'r pandemig Coronavirus.