Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn defnyddio dull ar sail cymhwysedd a sgiliau er mwyn asesu yn eu proses gyfweld
Byddwch yn derbyn manylion eich cyfweliad dros e-bost, a bydd gofyn i chi drefnu amser ar gyfer cyfweliad ar gyfer un o'r amseroedd sydd ar gael. Bydd yr e-bost yn amlinellu unrhyw asesiadau ychwanegol y gellir eu cynnal cyn neu yn ystod y cyfweliad.
I ni, mae cyfweld yn cynnig y buddiannau canlynol:
Bydd y panel cyfweld fel arfer yn cynnwys 3 aelod, gan gynnwys y rheolwr hurio, arbenigwr pwnc ac aelod annibynnol o'r panel.
Perthnasedd
Mae pob un o'r cwestiynau wedi'u datblygu i adlewyrchu'r tasgau y gallai fod yn rhaid i chi ymgymryd â nhw yn y rôl.
Sgorio
Byddwch yn cael eich sgorio ar raddfa 1-5 yn seiliedig ar yr atebion rydych yn eu rhoi ar gyfer pob cwestiwn.
Cysondeb
Bydd pob ymgeisydd yn cael yr un cwestiynau a strwythur cyfweliad Mae pob asesydd wedi cwblhau hyfforddiant i gymryd rhan yn y cyfweliad er mwyn sicrhau tegwch a chysondeb.
Yma yn Heddlu De Cymru, rydym yn defnyddio dull ar sail cymhwysedd a sgiliau er mwyn asesu yn ein proses gyfweld.
Mae cyfweliad ar sail cymhwysedd wedi'i ddylunio er mwyn asesu eich addasrwydd ar gyfer y rôl rydych wedi gwneud cais amdani ac er mwyn deall pa mor dda y byddwch yn ffitio yn y sefydliad.
Mae cwestiynau ar sail cymhwysedd yn rhoi gwybod i'r cyfwelydd am y ffordd y mae ymgeisydd wedi ymdrin â sefyllfaoedd yn y gorffennol a'r ymddygiad y byddent yn dangos mewn senarios gwahanol. Bydd gofyn i chi roi enghreifftiau a thystiolaeth o waith go iawn.
Adolygwch broffil y rôl cyn eich cyfweliad er mwyn deall y cymwyseddau y byddwch yn cael eich asesu yn eu herbyn a dechrau meddwl am enghreifftiau o adegau pan rydych wedi dangos tystiolaeth o'r rhain.
Mae cwestiwn ar sail cymhwysedd fel arfer yn dechrau â 'rhowch enghraifft o..."neu 'Dywedwch wrthyf am adeg pan...".
Efallai eich bod eisoes yn defnyddio strwythur rydych yn gyfforddus ag ef, ond os nad ydych, gall yr isod fod yn un defnyddiol i'w ystyried wrth roi ateb:
Mae STAR yn ffordd o strwythuro tystiolaeth pan fyddwch yn rhoi ateb i gwestiwn.
Situation (Sefyllfa)
Task (Tasg)
Action (Gweithredu)
Results (Canlyniad)
Mae S yn sefyll am Sefyllfa (Situation) – Disgrifiwch ddigwyddiad neu sefyllfa yr oeddech ynddo/ynddi. Gallwch ddewis sefyllfa o brofiad gwaith, addysg, swydd wirfoddol, neu unrhyw ddigwyddiad perthnasol arall. Byddwch mor fanwl â phosibl.
Mae T yn sefyll am Tasg (Task) – Esboniwch y dasg benodol yr oedd yn rhaid i chi ei chwblhau.
Mae'r A yn sefyll am Action (Gweithredu) – Disgrifiwch y camau gweithredu y gwnaethoch eu cymryd i gwblhau'r dasg.
Mae R yn sefyll am Canlyniad (Result) – gorffennwch â chanlyniadau eich camau gweithredu a'r casgliad.
Cyn eich cyfweliad, rydym yn awgrymu eich bod yn ymgyfarwyddo â'n Cod Moeseg.
Mae'r Cod Moeseg yn gynhwysol ac yn cynnwys pawb yn ein teulu plismona.
Mae dwy ran iddo:
Byddwn yn defnyddio'r egwyddorion plismona moesegol er mwyn ein helpu i wneud penderfyniadau proffesiynol ac adlewyrchu arnynt.
Mae'r rhain yn disgrifio sut y dylai gweithwyr plismona proffesiynol ymddwyn ac yn helpu pawb mewn plismona i roi'r egwyddorion plismona moesegol ar waith yn eu rolau.
Gwnewch eich ymchwil - Bydd deall ein gweledigaeth a'n blaenoriaethau yn dangos i ni fod gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda ni. Amdanom ni | Heddlu De Cymru
Adolygwch broffil y rôl – Sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â'r meini prawf hanfodol a'r rhinweddau personol sydd eu hangen ar gyfer y rôl.
Meddyliwch am eich tystiolaeth a'ch enghreifftiau – bydd hyn yn eich helpu i baratoi ar gyfer y cwestiynau cyfweliad ar sail cymhwysedd; Nod y cyfweliad yw dangos eich sgiliau chi. Pan fyddwch yn rhoi enghreifftiau ceisiwch osgoi cyfeirio at ‘ni’ ac yn hytrach ceisiwch eu strwythuro â ‘fi’ a pha rôl oedd gennych a'r canlyniad.
Gofynnwch gwestiynau – Mae'n bwysig eich bod yn cofio mai'r cyfweliad yw'r amser rydych chi fel ymgeisydd yn ei gael i siarad â'r cyflogwr. Mae'n iawn i ofyn cwestiynau mewn cyfweliad.
Cynlluniwch ymlaen llaw – Bydd y cyfweliadau yn cael eu cynnal yn un o'n lleoliadau, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynllunio'ch siwrne er mwyn cyrraedd yn brydlon. Cofiwch ddod â'ch cerdyn adnabod a chopïau o unrhyw gymwysterau sy'n hanfodol ar gyfer y rôl.