Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'n bosibl bod rhywun wedi eich cyfeirio at y dudalen hon er mwyn i chi gael rhagor o wybodaeth. Rydym am hyfforddi staff ar sut i adnabod arwyddion o achosion posibl o gam-fanteisio ar blant er mwyn diogelu ein plant a’n pobl ifanc.
Rydym yn gwybod y gall y sgyrsiau hyn fod yn anghyfforddus, ond maent yn hollbwysig. Rydym yn gwybod bod camdriniaeth a cham-fanteisio yn digwydd mewn gwestai, ac rydym ni i gyd yn cydweithio i atal achosion o'r fath.
Os oes gennych bryderon y gallai person ifanc fod yn cael ei gam-drin neu'i ecsbloetio, ffoniwch 999.
Prosiect cenedlaethol yw Ymgyrch Makesafe sy'n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o gam-fanteisio ar blant yn y gymuned fusnes, gan gynnwys mewn gwestai, safleoedd trwyddedig, cwmnïau tacsis a siopau.
Mae Ymgyrch Makesafe yn ymwneud â grymuso busnesau a sefydliadau i fynd i'r afael ag achosion o gam-fanteisio ar blant drwy gynyddu ymwybyddiaeth a chynnig hyfforddiant iddynt.
Nod yr ymgyrch yw cyflawni'r canlynol:
Bwriad yr ymgyrch yw helpu perchnogion busnes a'u cyflogai i adnabod arwyddion posibl o gam-fanteisio ar blant a rhoi gwybod i swyddogion yr heddlu, lle y bo angen, fel y gallant ymyrryd cyn i unrhyw berson ifanc gael ei niweidio.
Mae tystiolaeth leol a chenedlaethol yn dangos y gall achosion o gam-fanteisio ar blant ddigwydd mewn gwestai, tafarndai, caffis a safleoedd sydd wedi'u trwyddedu i werthu alcohol. Efallai y bydd tacsis yn cael eu defnyddio i gludo pobl ifanc sy’n mynd i gael eu hecsbloetio.
Rydym yn gweithio i sicrhau y gall pobl sy'n gweithio yn yr amgylcheddau hyn adnabod yr arwyddion rhybudd a bod ganddynt yr hyder i roi gwybod am eu pryderon drwy siarad â'u goruchwyliwr a ffonio 101, gan grybwyll ‘Ymgyrch Makesafe’ - neu ffonio 999 mewn argyfwng.
Arwyddion rhybudd ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn gwestai:
Arwyddion rhybudd ar gyfer pobl sy’n gweithio yn y diwydiant tacsi:
Arwyddion rhybudd ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn tafarndai, caffis neu fwytai:
2,028KB
2,112KB
2,155KB
1,945KB
Gallwch chi riportio ar-lein a byddwn yn ymdrin â'r mater yn yr un modd â galwadau 999.