Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gallai penderfyniad byrbwyll arwain at ganlyniadau angheuol a newid bywydau cynifer o bobl, gan gynnwys eich bywyd chi.
Bu tri achos o ddynladdiad, a ddigwyddodd o ganlyniad i un ergyd, yn ne Cymru rhwng mis Medi 2019 a mis Hydref 2021.
Fel rhan o'n gwaith parhaus i leihau troseddau treisgar, mae Heddlu De Cymru yn codi ymwybyddiaeth o'r effaith y gall un ergyd ei chael.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark Lewis:
“Nod y gwaith hwn yw atgoffa pobl y gall gwneud rhywbeth yn fyrbwyll olygu y gall rhywun gael ei ladd.
“Gall un ergyd achosi anaf a fydd yn arwain at ddistryw ac oes o ddifaru.
“Mae Heddlu De Cymru yn ymrwymedig i fynd i'r afael â throseddau treisgar a lleihau nifer y dioddefwyr a throseddwyr, ond mae angen i bobl feddwl o ddifrif am eu gweithredoedd a'u ffordd o fyw a beth all fod yn achosi iddynt fod yn dreisgar.
“Gall cymryd cyffuriau ac yfed gormod o alcohol effeithio ar eich penderfyniadau a gwneud pobl yn agored i fod yn ddioddefwyr neu'n droseddwyr.
“Rwyf hefyd am ofyn i deulu a ffrindiau'r rheini sy'n troi'n dreisgar ar noson allan – beth sy'n eu tanio, beth allwch chi ei wneud i'w helpu i atal pethau rhag dwysau?
“Gall penderfyniad byrbwyll i gymryd rhan mewn sefyllfa dreisgar newid bywydau ac effeithio ar fywydau cynifer o bobl. Os byddwch chi byth yn canfod eich hun mewn sefyllfa o'r fath, cerddwch i ffwrdd.”
Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn rhannu straeon go iawn teuluoedd, gweithwyr y gwasanaethau brys, gweithwyr gofal iechyd a mwy, er mwyn cyfleu'r distryw a'r effaith y gall un ergyd ei chael.
Os ydych chi'n poeni am gyffuriau neu am siarad â rhywun am gyngor, cysylltwch â DAN 24/7 – Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru, sef llinell gymorth gyfrinachol am ddim sydd ar gael bob awr o'r dydd a'r nos.