Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Wythnos Ymwybyddiaeth Un Ergyd
Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Un Ergyd bob hydref a'i nod yw codi ymwybyddiaeth o ganlyniadau dinistriol posibl yn sgîl trais un ergyd.
Fel rhan o ymgyrch 2026, mae Heddlu De Cymru yn rhannu ffilm ymgyrchu newydd a chyfres o straeon a negeseuon ar draws ei sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Mae'r ymgyrch yn defnyddio "gweld yn goch" i gynrychioli'r foment pan fydd dicter yn cymryd drosodd - ac yn gofyn i bobl gydnabod y foment honno cyn ei bod hi'n rhy hwyr.
GALL UN ERGYD LADD.
CERDDWCH I FFWRDD.
Gwyliwch ffilm yr ymgyrch:
Dim ond un ergyd sydd ei hangen i achosi anaf difrifol neu farwolaeth.
Ac mae'r canlyniadau'n parhau ar ôl yr ergyd honno. Gall un weithred o drais ddinistrio teulu'r dioddefwr, effeithio ar ffrindiau a chymunedau, a newid bywyd y person sy'n gyfrifol am byth.
Dyna pam mae Heddlu De Cymru yn gweithio'n galed i godi ymwybyddiaeth o beryglon a chanlyniadau trais un ergyd ar draws de Cymru.
Un ergyd. Un eiliad. Canlyniadau am oes
Yn ne Cymru, rhwng 2020 a 2025, roedd chwe achos o ddynladdiad o ganlyniad i ddigwyddiad un ergyd.
Mae'r achosion hyn yn ein hatgoffa nad oes y fath beth ag ergyd "ddiogel".
Gall ergyd achosi anaf difrifol i'r ymennydd, anabledd parhaol neu farwolaeth. Allwch chi ddim gwybod beth fydd yn digwydd pan fyddwch chi'n taro rhywun - ac allwch chi ddim cymryd yr ergyd yn ôl.
Yn gweld yn goch? Cerddwch i ffwrdd
Gall dicter gymryd drosodd yn gyflym.
Gall dadl waethygu. Gall ychydig eiriau ddod yn wrthdaro. Gall alcohol neu gyffuriau effeithio ar eich barn a'i gwneud hi'n anoddach gwneud y penderfyniad cywir.
Ond mae yna eiliad pan allwch chi ddewis cerdded i ffwrdd.
Peidiwch â gadael i ddicter wneud y penderfyniad drosoch chi.
Os ydych chi'n teimlo bod sefyllfa yn troi'n llosg:
Dyw cerdded i ffwrdd ddim yn wendid. Gallai atal trasiedi.
Edrychwch ar ôl eich ffrindiau
Mae trais un ergyd yn effeithio ar fwy o bobl na'r rheini sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol. Os ydych chi allan gyda ffrindiau ac yn sylwi ar rywun yn dod yn fwyfwy grac neu ymosodol, meddyliwch am beth gallwch chi ei wneud i helpu i atal y sefyllfa rhag gwaethygu.
Efallai chi fydd y person sy'n dweud:
"Gad hi. Bant â ni."
Peidiwch ag annog gwrthdaro. Peidiwch ag ymuno. A pheidiwch â bod ofn helpu ffrind i gerdded i ffwrdd.
Weithiau gall ymyrraeth fach wneud gwahaniaeth mawr.
Gall y canlyniadau barhau am oes
Pan fydd digwyddiad un ergyd, gall yr effaith gyrraedd ymhell y tu hwnt i'r bobl dan sylw.
I ddioddefwr, gallai olygu anaf difrifol neu golli ei fywyd.
I'w deulu, gallai olygu byw â galar a thrasiedi.
I'r person sy'n gyfrifol, gallai olygu euogfarn droseddol, y carchar a difaru am oes.
Ac mae'r teulu yn gallu dioddef hefyd - yn gorfod delio â chanlyniadau penderfyniad allan o'u dwylo nhw.
Gall un eiliad newid popeth.
Alcohol a chyffuriau
Gall alcohol a chyffuriau effeithio ar farn, penderfyniadau ac ymddygiad.
Gallant gynyddu'r risg o fod yn rhan o drais, naill ai fel dioddefwr neu dramgwyddwr.
Os ydych chi'n poeni am eich defnydd eich hun o gyffuriau neu alcohol neu ar ran rhywun arall, mae cymorth ar gael.
DAN 24/7 - Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru
Mae cyngor cyfrinachol am ddim ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Ewch i: www.dan247.org.uk
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Tom Williams:
"Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Un Ergyd yn gyfle pwysig i atgoffa pobl y gall trais arwain at ganlyniadau dinistriol, hyd yn oed pan fydd yn para dim ond ychydig eiliadau.
"Gall ergyd achosi anaf trychinebus neu farwolaeth. Gall adael teulu heb anwylyd a newid bywydau pawb sy'n gysylltiedig am byth.
"Rydyn ni eisiau i bobl gydnabod y trobwynt pan fo sefyllfa yn dechrau gwaethygu - pan fydd dicter yn cymryd drosodd ac efallai eich bod chi'n 'gweld yn goch' - a gwneud y penderfyniad i gerdded i ffwrdd.
"Does dim cywilydd mewn cerdded i ffwrdd o wrthdaro. Mewn gwirionedd, efallai dyma fydd y penderfyniad pwysicaf byddwch chi erioed wedi'i wneud."
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Emma Wools:
"Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Un Ergyd yn gyfle hanfodol i addysgu pobl am risgiau trais a'u helpu i gydnabod pan fydd tensiynau'n cynyddu, gan eu hannog i gerdded i ffwrdd cyn i sefyllfa droi'n dreisgar.
"Mae pob ergyd yn un yn ormod, a gall penderfyniad byrbwyll pan fyddwch wedi'ch gwylltio arwain at ganlyniadau fydd yn parhau am oes.
"Dyna pam rwyf wedi ymroi i gefnogi a buddsoddi mewn ymgyrchoedd fel Wythnos Ymwybyddiaeth Un Ergyd, sy'n annog dewisiadau cadarnhaol ac yn helpu i atal trais cyn iddo ddigwydd. Mae'r ymgyrch hon yn adlewyrchu fy mlaenoriaeth o greu trefi a chanol dinasoedd mwy diogel ledled de Cymru a lleihau troseddu a thrais, fel y nodir yn fy Nghynllun yr Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder.
"Mae gan bawb rôl i'w chwarae yn creu cymunedau mwy diogel. Os ydych chi'n teimlo bod sefyllfa yn gwaethygu, gwnewch y penderfyniad cywir: cerddwch i ffwrdd, peidiwch â dewis trais."