Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Grŵp Cynghori Annibynnol (IAG) Strategol Heddlu De Cymru yn cyflawni rôl hanfodol fel ‘cyfaill beirniadol’ mewn perthynas â'n polisïau a'n prosesau. Mae'n ein galluogi i gydgynhyrchu'r gwasanaeth a ddarperir gennym gyda'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Mae'n cynnig fforwm lle y gall aelodau annibynnol o'r gymuned gynnig cyngor yn seiliedig ar eu gwybodaeth a'u profiad byw o faterion cydraddoldeb a hawliau dynol ym maes plismona, a chyfrannu at wneud De Cymru yn lle mwy diogel a chydlynol.
Rôl y Grŵp yw rhoi cyngor anffurfiol ar ein gwasanaeth a chraffu arno'n anffurfiol, gyda ffocws penodol ar sicrhau ein bod yn deall anghenion ein holl gymunedau ac yn gallu ymateb iddynt.
Mae angen pobl sydd â brwdfrydedd, ymrwymiad a dealltwriaeth o gydraddoldeb a hawliau dynol i'n helpu ar lefel leol, gan weithio gyda'n tri thîm gweithredol ar gyfer Caerdydd a'r Fro, Morgannwg Ganol ac Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Bydd angen ein ‘cyfeillion beirniadol’ arnom hefyd i helpu ar lefel strategol, gan roi cyngor, drwy ein tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, i'r Prif Gwnstabl a’r uwch-arweinwyr ym mhob rhan o'r heddlu.
Bydd angen i aelodaeth y Grŵp Strategol fod mor gynrychioliadol â phosibl o'r cymunedau amrywiol ledled ein tair ardal blismona, yn unol â nodweddion gwarchodedig Deddf Cydraddoldeb 2010. Felly, byddwn yn ceisio cynnwys aelodau o bob un o'r tair ardal a all gynnig profiad lleol o ran oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth o ran rhywedd, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.
Fel aelod o'r Grŵp, bydd eich barn annibynnol yn helpu Heddlu De Cymru i lywio gwasanaeth yr heddlu ac yn helpu i feithrin cydberthnasau cryfach â chymunedau amrywiol. Byddwch yn cytuno i wneud y canlynol:
Rhaid i ymgeisydd sy'n gwneud cais am rôl fel aelod o'r Grŵp fodloni'r meini prawf canlynol:
Os ydych o'r farn y gallwch helpu i wneud gwahaniaeth i blismona yn Ne Cymru, cliciwch isod i lawrlwytho’r ffurflen gais heddiw:
Fel arall, e-bostiwch y Tîm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth [email protected].
Dychwelwch eich ceisiadau wedi'u cwblhau i [email protected] erbyn dydd Gwener 19 Chwefror 2021.
Os hoffech drafod ymuno â'r Grŵp, cysylltwch â [email protected].
Gellir darparu'r ddogfen hon mewn fformatau eraill, megis print mawr, braille, sain a thrwy e-bost. Cysylltwch â'r Tîm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth [email protected] i gael fformatau hygyrch eraill.