Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru, Gwasanaethau Anabledd Dysgu a Mencap Cymru wedi datblygu Cynllun Cerdyn Cadw’n Ddiogel ar y cyd ar gyfer unrhyw un yn ardal Heddlu De Cymru ag Anabledd Dysgu, neu broblem Iechyd Meddwl ac anghenion cyfathrebu.
Bwriad y cynllun yw gwneud pobl yn fwy ymwybodol o’u diogelwch personol, annog pobl i roi gwybod am droseddau – yn enwedig troseddau casineb – a’u hannog i geisio help os bydd ei angen arnynt. Bydd hefyd yn helpu’r rheini sy’n darparu cymorth, megis yr Heddlu, i gael gafael ar gefnogaeth ar gyfer defnyddiwr y cerdyn a deall sut i’w wneud i deimlo’n fwy diogel.
Os bydd angen cymorth ar ddeiliad y cerdyn, boed ei fod ar goll, wedi dioddef trosedd neu mewn unrhyw sefyllfa sy’n golygu bod angen cefnogaeth ychwanegol arno, gall ddefnyddio’r cerdyn i gael gafael ar yr help hwn. Bydd y cerdyn yn cynnwys gwybodaeth sylfaenol am yr unigolyn megis sut mae’n cyfathrebu, unrhyw broblemau iechyd ac unrhyw gysylltiadau brys megis rhieni neu ofalwyr.
Pan fydd unigolyn yn cofrestru ar gyfer cerdyn cadwa’n ddiogel, bydd hefyd yn cael mynediad i Linell Anabledd yr Heddlu. Dyma rif ffôn pwrpasol ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys i bobl ag anabledd ei ddefnyddio i gysylltu â’r heddlu. Wrth ffonio’r rhif hwn, bydd derbyniwr yr Alwad yn ymwybodol cyn iddo siarad â’r galwr fod ganddo anabledd.
Yn ystod yr alwad ffôn, gall derbyniwr yr alwad gael mynediad i wybodaeth a ddarperir ar y rhif cofrestru.
Bydd hyn yn sicrhau bod derbyniwr yr alwad yn ymwybodol o unrhyw anghenion ychwanegol a all fod gan y galwr a gall drosglwyddo’r wybodaeth i unrhyw un o adnoddau’r heddlu sy’n rheoli’i adroddiad. Nid yw hyn yn ddewis arall yn lle’r gwasanaeth 999 brys; dylid ei ddefnyddio yn lle’r rhif ffôn ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys yn unig.
Er mwyn ymuno â’r cynllun hwn, cwblhewch ffurflen gofrestru. Gallwch wneud hyn drwy un o dair ffordd:
Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus
Heddlu De Cymru
Pencadlys yr Heddlu
Heol y Bont-faen
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 3SU
Ffôn: 01656 305981
E-bost: [email protected]
I gael canllawiau ar gwblhau’r ffurflen, darllenwch y Cyfarwyddiadau ar Gerdyn Cadw’n Ddiogel Cymru neu gwyliwch y fideo isod:
Ar ôl i ni dderbyn ffurflen wedi’i llenwi, anfonir pecyn gwybodaeth Cadw’n Ddiogel Cymru at ddeiliad y cerdyn newydd/Gofalwr a bydd yn barod i’w ddefnyddio ar unwaith. At ddefnydd yr Heddlu yn unig y mae’r wybodaeth ar y ffurflen gofrestru, ac ni chaiff ei rhannu ag unrhyw drydydd parti.
Yn ogystal â hyn, mae Mencap wedi darparu pwyntiau allweddol i’w cofio wrth gyfathrebu ag unigolyn sydd ag Anabledd Dysgu.
Datblygwyd y cynllun hwn i sicrhau bod unigolyn ag Anabledd Dysgu neu broblem iechyd meddwl ac angen cyfathrebu yn cael ei gefnogi pan nad yw yn ei gartref. Mae’n bwysig sicrhau ei fod yn gallu cael gafael ar help pan fydd ei angen gan gynnwys rhoi gwybod am ddigwyddiad i’r Heddlu.
Gwasanaeth Testun y Genhedlaeth Nesaf
Fel rhan o’n hymrwymiad i aelodau’r cyhoedd sydd ag anawsterau cyfathrebu, gall defnyddwyr Cadw’n Ddiogel Cymru hefyd gofrestru â Gwasanaeth Testun y Genhedlaeth Nesaf.
Mae’r sefydliad yn darparu ap, a fydd yn ei gwneud yn haws i bobl â nam ar y clyw a’r lleferydd wneud galwadau ffôn.