Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rhoddir gwybod bod rhywun ar goll bob 90 eiliad yn y DU. Ar gyfartaledd, bydd Heddlu De Cymru yn cael dros 8,000 o adroddiadau am unigolion sydd ar goll bob blwyddyn. Yn ystod deufis cyntaf 2022 yn unig, rhoddwyd gwybod i ni fod bron i 1,000 o bobl ar goll.
Mae pobl yn mynd ar goll am sawl rheswm, yn aml gan adael anwyliaid trallodus ar eu hôl sy'n daer am atebion ac yn awyddus i'w gweld yn dychwelyd yn ddiogel. Gall y canfyddiad bod pobl yn ‘dewis’ mynd ar goll achosi i eraill ddiystyru llu o ffactorau allanol, a all effeithio ar allu unigolyn i wneud penderfyniadau rhesymegol neu ei orfodi i wneud penderfyniadau nad yw'n ddigon aeddfed i'w gwneud.
O ganlyniad, mae ymchwilio i achosion o bobl sydd wedi mynd ar goll yn broses gymhleth sy'n aml yn gofyn am adnoddau arbenigol. Yn Heddlu De Cymru mae gennym Dimau Pobl Goll penodedig a swyddogion a staff sy'n arbenigo mewn ymdrin â phopeth o Gamfanteisio ar Blant yn Rhywiol, Camfanteisio Troseddol, oedolion mewn perygl ac iechyd meddwl.
Er mwyn dod o hyd i bobl goll cyn gynted â phosibl ac mor ddiogel â phosibl, rydym yn defnyddio amrywiaeth o adnoddau ychwanegol, gan gynnwys ein Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus (Ystafell Reoli), cŵn ac adrannau ceffylau, unigolion sy'n arbenigo mewn defnyddio dronau, ein Timau Chwilio Arbenigol a Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu.
Caiff y gwaith o gydgysylltu chwiliadau cymhleth ei oruchwylio gan un o Gynghorwyr Chwilio yr Heddlu (PolSA).
Rydym hefyd yn gweithio'n agos gydag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, y sector iechyd, Gwylwyr y Glannau EM a sefydliadau gwirfoddol neu elusennol megis yr RNLI a Thimau Achub Mynydd.
Yma, mae'r Ditectif Ringyll Leanne Heaven a Rob Lowe, uwch-swyddog cymdeithasol gyda Cyngor Abertawe, yn esbonio cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â chwilio am blentyn coll – a pham mae mwy nag un ffordd o fynd ati i ymchwilio i achos ac apelio.
Mae amser yn hanfodol pan fydd unigolion sy'n agored i niwed yn mynd ar goll a gall y gallu i ddarparu cymaint o wybodaeth â phosibl wrth roi gwybod am eich pryderon ynghylch anwylyd fod yn hynod werthfawr.
Yn ogystal â gwybodaeth a disgrifiadau clir o'i symudiadau hysbys olaf, gall hefyd fod yn ddefnyddiol iawn cael unrhyw fanylion am wendidau ychwanegol wrth law.
Mae Heddlu De Cymru, Gwasanaethau Anableddau Dysgu a Mencap Cymru, ar y cyd wedi datblygu Cynllun Cerdyn Cadwa'n Ddiogel i bawb yn ardal Heddlu De Cymru sydd ag anghenion yn ymwneud ag anabledd dysgu, iechyd meddwl, dementia a/neu gyfathrebu.
Os bydd angen cymorth arnoch, fel deiliad cerdyn, p'un a ydych ar goll, yn ddioddefwr trosedd neu mewn sefyllfa sy'n golygu bod angen cymorth ychwanegol arnoch, gallwch ddefnyddio'r cerdyn i gael y cymorth hwn. Bydd y cerdyn hwn yn dal gwybodaeth sylfaenol amdanoch, megis sut rydych yn dymuno i bobl gyfathrebu â chi, unrhyw broblemau iechyd ac unrhyw gysylltiadau brys megis eich rhieni neu'ch gofalwr.
Dysgwch fwy a chofrestrwch â'r cynllun.
Mae Protocol Herbert yn ffurflen lleihau risg y bwriedir iddi gynorthwyo'r heddlu pan fydd unigolyn â dementia neu glefyd Alzheimer yn mynd ar goll.
Anogir gofalwyr, perthnasau neu ffrindiau unigolyn sy'n agored i niwed, neu'r unigolyn ei hun, i gwblhau'r ffurflen hon – a'i diweddaru'n rheolaidd – ag amrywiol fanylion gan gynnwys meddyginiaeth, mannau lle y daethpwyd o hyd i'r unigolyn yn y gorffennol a ffotograff diweddar.
Dim ond os bydd yr unigolyn yn mynd ar goll y bydd angen rhoi'r ffurflen i'r heddlu, ond mae hefyd opsiwn i e-bostio’r ffurflen atom i'w chadw ar ffeil er mwyn i ni allu cael y wybodaeth berthnasol yn gyflymach os bydd eich anwylyd yn mynd ar goll.
Sut rydych yn diffinio ar goll?
Mae'n gamsyniad bod ‘ar goll’ yn golygu ‘wedi'i ddwyn ymaith’ neu ‘wedi'i gipio’; mae achosion o gipio pobl yn brin ac maent ond yn cyfrif am leiafrif bach iawn o adroddiadau am bobl goll yn y DU. Diffinnir unigolyn coll fel rhywun na ellir cadarnhau ble mae. Ystyrir ei fod ar goll nes y deuir o hyd iddo ac y gellir cadarnhau ei fod yn iach neu fel arall. Yn aml ni fydd yr unigolyn coll ei hun yn ystyried ei fod ‘ar goll’. Fodd bynnag, nes iddo gael ei weld yn fyw ac yn iach gan yr heddlu, o ganlyniad i'r pryderon a godwyd yn ei gylch, caiff ei ystyried yn unigolyn coll.
A oes rhaid i mi aros 24 awr cyn i mi roi gwybod bod rhywun ar goll?
Nac oes, myth yw hynny. Os ydych yn pryderu ynghylch ymddygiad unigolyn, cyflwr ei feddwl neu ble mae neu os bydd ei absenoldeb yn groes i'w gymeriad neu os na fydd yn teimlo'n iawn, dylech gysylltu â ni.
Beth gallaf ei wneud os byddaf yn pryderu bod rhywun ar goll?
Cyn rhoi gwybod bod rhywun ar goll, dylech wneud y canlynol:
Os ydych yn credu bod yr unigolyn mewn perygl uniongyrchol, nid yw'r camau hyn yn hanfodol; dilynwch eich greddf a chysylltwch â'r heddlu.
Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn rhoi gwybod bod rhywun ar goll?
Bydd yr unigolyn sy'n ateb eich galwad yn ceisio casglu cymaint o wybodaeth berthnasol â phosibl gan y bydd hyn yn pennu ymateb cychwynnol yr heddlu. Bydd y wybodaeth hon hefyd yn helpu'r rhai sy'n gyfrifol am yr asesiad risg cychwynnol gyda'u proses gwneud penderfyniadau, gan bennu blaenoriaeth ymateb yr heddlu a faint o adnoddau sydd eu hangen.
A yw Heddlu De Cymru yn cael llawer o adroddiadau am unigolyn coll?
Yn y pum mlynedd diwethaf, rhoddwyd gwybod i Heddlu De Cymru fod mwy na 41,500 o bobl ar goll. Ar gyfartaledd, rhoddwyd gwybod bod 17 o bobl ar goll bob dydd yn ystod deufis cyntaf 2022.
A ydych yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i apelio am wybodaeth am unigolion coll?
Mae'r Cyfryngau Cymdeithasol yn un o lawer o adnoddau sydd ar gael i ni wrth geisio dod o hyd i unigolyn coll cyn gynted â phosibl ac mor ddiogel â phosibl. Fodd bynnag, mae'r Cyfryngau Cymdeithasol yn ein helpu i gyrraedd nifer mawr o bobl mewn amrywiaeth o ardaloedd yn gyflym iawn. Mae ein dilynwyr yn aml yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol iawn ac yn nodi bod unigolyn coll wedi'i weld, o bosibl, ac felly mae apeliadau ar y cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn llwyddiannus ar sawl achlysur.
Os gallant gyrraedd llawer o bobl, pam na fyddech yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn syth?
Fel rydym wedi esbonio, dim ond un o'r dulliau ymchwilio sydd ar gael i ni yw'r cyfryngau cymdeithasol. Pan roddir gwybod bod rhywun ar goll, byddwn yn gwneud nifer o ymholiadau, gan gynnwys siarad ag aelodau o'i deulu, ei ffrindiau a'i gydnabod, archwilio deunydd CCTV, ymholiadau ariannol ac ymholiadau dros y ffôn. Yn aml gallwn ddod o hyd i unigolion heb fod angen defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol.
Pan nad ydych yn apelio am bawb drwy'r cyfryngau cymdeithasol?
Rydym yn trin pob achos yn unigol ac yn ystyried yr amgylchiadau lle mae'r unigolyn wedi mynd ar goll. Mewn rhai achosion gallwn ddod o hyd i'r unigolyn heb fod angen apêl ar y cyfryngau cymdeithasol ac mewn achosion eraill gallai apelio ar y cyfryngau cymdeithasol gael effaith andwyol. Er enghraifft, petai gennym achos dros gredu y gallai gynnal apêl roi'r unigolyn mewn mwy o berygl, naill ai iddo'i hun neu gan bobl eraill, ni fyddwn yn ei chynnal.
Mae diogelu'r unigolyn dan sylw bob amser o'r pwys pennaf.
Pam nad ydych yn dileu apeliadau pan fydd rhywun yn gwneud sylw i ddweud wrthych ei fod yn ddiogel?
Rhaid i ni fod yn sicr bod rhywun wedi'i ganfod cyn i ni allu cau ymchwiliad i unigolyn coll ac nid yw sylw a wneir ar y cyfryngau cymdeithasol yn rhoi'r sicrwydd hwnnw. Nes i'n swyddogion weld yr unigolyn, byddwn yn parhau i bryderu am ei les. Gallai rhai sylwadau fod yn llawn bwriadau da ond yn anghywir a gallai sylwadau eraill fod wedi cael eu hysgrifennu gan rywun sy'n esgus mai ef yw'r unigolyn coll.
Pam nad ydych yn dweud mwy wrthym yn eich apeliadau?
Yn yr achosion hyn rhoddir blaenoriaeth bob amser i sicrhau bod yr unigolyn coll yn dychwelyd yn ddiogel. Rydym yn sicrhau ein bod yn rhoi digon o wybodaeth i'r cyhoedd allu helpu gyda'r apêl, gan gydbwyso hawl yr unigolyn i breifatrwydd a lleihau unrhyw risg bellach iddo ar yr un pryd. Ni fyddwn yn cadw gwybodaeth yn ôl er mwyn camarwain y cyhoedd; gwneir pob penderfyniad gan gadw'r unigolyn coll mewn cof.
Sut y gallaf gymryd rhan mewn chwiliad?
Er ein bod yn deall pryderon ein cymunedau pan fydd unigolyn yn mynd ar goll ac yn gwir werthfawrogi'r cymorth a'r gefnogaeth a gynigir, gofynnwn yn garedig i aelodau o'r cyhoedd beidio â chynnal eu chwiliadau eu hunain.
Gofynnwn hyn am sawl rheswm; caiff ein chwiliadau eu cydgysylltu gan arbenigwyr chwilio tra hyfforddedig ag offer da sy'n mabwysiadu dull gweithredu manwl a arweinir gan gudd-wybodaeth y mae pawb sy'n gysylltiedig â'r chwiliad yn ei ddeall ac yn ei ddilyn.
Er eu bod yn llawn bwriadau da, gall aelodau o'r cyhoedd fod yn peryglu eu hunain tra byddant allan yn chwilio a byddai damweiniau neu anafiadau ychwanegol yn amharu ar y chwiliad gwreiddiol.
Gallai eu hymdrechion hefyd rwystro'r chwiliad swyddogol. Er enghraifft, gallai eu presenoldeb effeithio ar yr aroglau sy'n cael ei dilyn gan y cŵn chwilio hyfforddedig. Mae ein rheolwyr chwilio hefyd yn ymwybodol yn fforensig o'r cychwyn rhag ofn y bydd ymchwiliad i unigolyn coll yn troi'n ymchwiliad troseddol yn ddiweddarach.
Ar achlysuron prin iawn, mae'n bosibl y byddai'r heddlu yn galw ar y cyhoedd i ymuno â'r chwiliad, ond unwaith eto, byddai'r chwiliadau hynny yn cael eu trefnu a'u rheoli'n broffesiynol, gyda pharamedrau clir iawn yn cael eu cyfleu a'u cytuno â phawb sy'n gysylltiedig â'r chwiliad.
Er y gall aelodau o'r cyhoedd deimlo nad oes unrhyw beth y gallant ei wneud pan fydd rhywun y maent yn ei adnabod neu anwylyd ar goll, y peth gorau y gall ein cymunedau ei wneud yw bod ar eu gwyliadwriaeth a rhoi gwybod os bydd yr unigolyn wedi'i weld, o bosibl, neu rannu unrhyw wybodaeth a allai fod ganddynt, waeth pa mor ddibwys y gall ymddangos; mae gwybodaeth o'r fath yn hynod werthfawr i'r heddlu a'n partneriaid.
Erioed wedi ein clywed yn cyfeirio at FIM neu'r PSC ac wedi meddwl tybed beth yw ystyr hynny? Nid chi yw'r unig un – mae'n anodd i ni gofio beth yw ystyr holl jargon yr heddlu!
Felly, roedden ni'n meddwl y byddai'n ddefnyddiol esbonio ystyr rhai o'r byrfoddau hyn a ddefnyddir yn aml.
ACEs | Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (Adverse Childhood Experiences) |
ANPR | Adnabod Rhifau Ceir yn Awtomatig (Automatic Number Plate Recognition) |
BCU | Uned Reoli Sylfaenol (Basic Command Unit) |
BTP | Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (British Transport Police) |
CCTV | Teledu Cylch Cyfyng (Closed-Circuit Television) |
CSA | Cam-drin Plant yn Rhywiol (Child Sexual Abuse) |
CSE | Camfanteisio'n rhywiol ar blant (Child Sexual Exploitation) |
FIM | Rheolwr Digwyddiadau'r Heddlu (Force Incident Manager) |
LSO | Swyddog Chwilio Trwyddedig (Licensed Search Officer) |
Misper | Person coll (Missing person) |
NPAS | Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu (National Police Air Service) |
PolSA | Cynghorydd Chwilio'r Heddlu (Police Search Advisor) |
PSC | Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus (Public Service Centre) |
SSRT | Tîm Chwilio ac Achub Arbenigol (Specialist Search and Rescue Team) |
TFO | Swyddog Hedfan Tactegol (Tactical Flight Officer) |
TST | Tîm Cymorth Tiriogaethol (Territorial Support Team) |
Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth eang o asiantaethau partner er mwyn helpu i sicrhau y bydd unigolion coll yn dychwelyd yn ddiogel a sicrhau eu llesiant a'u diogelu yn y dyfodol.
P'un a ydych yn pryderu amdanoch chi eich hun neu am anwylyd, mae nifer o sefydliadau yn cynnig llawer o helpu, cymorth a gwybodaeth:
Childline: 08000 1111
Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn cynnig cyngor ac arweiniad i rieni, gweithwyr proffesiynol a gofalwyr mewn perthynas â phlant sydd ar goll.
Missing People UK: 116 000
NSPCC: 0808 800 5000
NYAS Cymru: y gwasanaeth eiriolaeth ieuenctid cenedlaethol yng Nghymru.
Samariaid: 116 123
Ymddiriedolaeth St Giles: 020 7708 8000