Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi'n dirfeddiannwr efallai y gwelwch chi fod pobl wedi symud i'ch eiddo heb eich caniatâd. Gall y 'gwersylloedd diawdurdod' hyn ymddangos heb rybudd, yn aml gan achosi aflonyddwch a gofid.
Nid yw ffordd nomadaidd o fyw yn anghyfreithlon. Tresmasu yw mynd ar dir preifat heb ganiatâd y perchennog.
Nid yw tresmasu yn cael ei ystyried yn drosedd. Ran amlaf, nid mater i'r heddlu mohono. Rydyn ni’n argymell mai’r peth cyntaf i'w wneud fyddai siarad â'r bobl sy'n meddiannu’ch tir a gofyn iddyn nhw adael, os ydych chi'n teimlo'n ddiogel i wneud hynny.
Os byddan nhw’n gwrthod gadael neu os ydych chi’n teimlo'n ansicr, cysylltwch â'ch cyngor lleol i gael cyngor.
Fe allech chi fod yn euog o sawl trosedd os byddwch yn ceisio’u symud nhw neu eu heiddo drwy orfodaeth.
Efallai mai'r cam gorau a mwyaf diogel yw sicrhau gorchymyn llys i'w troi nhw allan. Os caiff gorchymyn y llys ei dorri, fe allai hynny ddod yn fater troseddol.
Os ydych chi'n ymwybodol o rywbeth a allai fod yn drosedd neu’n ymddygiad gwrthgymdeithasol, riportiwch y peth i ni.
Pan fo gan dresmaswyr ar eich tir un neu fwy o gerbydau, efallai y gall grymoedd ychwanegol yr heddlu gael eu defnyddio o dan Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022. Cysylltwch â ni ar 101 i gael rhagor o gyngor.