Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae stopio a chwilio’n bŵer hynod bwysig i’r heddlu er mwyn diogelu’r cyhoedd, mynd i’r afael â throseddu a chadw ein strydoedd yn ddiogel.
Nid ar chwarae bach mae defnyddio pwerau stopio a chwilio. Dim ond pan fydd hynny’n hybu eu hymchwiliadau i weithgareddau troseddol y caiff swyddogion heddlu ddefnyddio’u hawl gyfreithiol i stopio aelodau'r cyhoedd, a'u chwilio, er enghraifft i chwilio am arfau, cyffuriau neu eiddo sydd wedi'i ddwyn.
Trwy ganiatáu i swyddogion ymchwilio i unigolyn heb orfod eu harestio nhw, gall y pwerau yma osgoi arestio’n ddiangen.
Mae’r heddlu’n cael stopio, neu stopio a chwilio, chi neu gerbyd os ydyn nhw’n credu:
Mae’r heddlu hefyd yn cael stopio neu stopio a chwilio o dan fesurau gwrthderfysgaeth.
Mae'r heddlu yn cael eich chwilio chi, unrhyw beth rydych yn ei gario a cherbyd.
Dyma pan fydd swyddog heddlu neu SCCH yn eich stopio mewn man cyhoeddus ac yn gofyn i chi roi cyfrif am eich hun a gallai ofyn i chi:
Dyma pan fo swyddog heddlu yn eich stopio ac yna’n eich chwilio chi, eich cerbyd neu unrhyw beth rydych yn ei gario.
Dyma pan fo swyddog heddlu yn stopio cerbyd. Gall swyddog heddlu yn gyfreithiol stopio unrhyw gerbyd ar unrhyw adeg a gofyn i weld dogfennau gyrru, gwirio cyflwr y cerbyd neu ddelio â throseddau gyrru. Efallai y rhoddir dogfennau i chi sy’n berthnasol i faterion traffig ar y ffyrdd. Os yw’r broses gyfan yn gorffen yno, caiff hyn ei ystyried yn ‘stopio cerbyd'.
Daw’n stopio a rhoi cyfrif os gofynnir i chi neu unrhyw deithiwr sydd gyda chi roi cyfrif am eich hun.
Os yw swyddog heddlu yna’n chwilio’r cerbyd neu’r bobl sydd ynddo, mae hyn yn stopio a chwilio.
Nid ydych wedi bod yn destun stopio a chwilio new rhai amgylchiadau:
Mewn achosion fel hyn, ni fydd cofnod stopio a chwilio yn cael ei wneud ac ni fyddwch yn cael derbynneb.