Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gallai eich gŵr, gwraig, partner neu gyn-bartner fod yn cyflawni trosedd os yw’n mynd â'ch plentyn dramor heb eich caniatâd.
Gall y sefyllfa gyfreithiol fod yn gymhleth, yn dibynnu ar yr hyn a ddigwyddodd a phwy sydd â gwarchodaeth gyfreithiol dros y plentyn.
Gwybodaeth gan y Llywodraeth am riant yn cipio plentyn yn rhyngwladol
Ffoniwch ni ar 101.
Byddwn yn gofyn am y canlynol:
Os yw eich plentyn eisoes wedi cael ei gludo y tu allan i’r DU, efallai y gallwn weithio gyda Interpol (y Sefydliad Heddlu Troseddol Rhyngwladol) a heddluoedd mewn gwledydd eraill i ddod o hyd iddo.
Os nad yw’n rhy hwyr, efallai y gallwn helpu i atal eich plentyn rhag cael ei gludo o’r wlad.
Ffoniwch 101 a sôn am unrhyw fygythiadau a wnaed neu unrhyw ymdrechion blaenorol i gipio eich plentyn.
Os ydych chi’n credu bod eich plentyn yn debygol o gael ei gludo dramor o fewn 48 awr, gallwn gysylltu â’r Ganolfan Targedu Ffiniau Cenedlaethol a gofyn iddynt roi gwybod i bob pwynt ymadael o’r DU (fel porthladdoedd a meysydd awyr), er mwyn ceisio atal y plentyn rhag cael ei gludo o’r wlad.
Gelwir hyn yn ‘rhybudd porthladdoedd’. Bydd hyn mewn grym am 28 diwrnod i roi amser i chi gael cyngor cyfreithiol os ydych yn dymuno. Dim ond drwy orchymyn llys y gellir ymestyn y cyfnod 28 diwrnod.
Yn yr Alban, rhaid cael gorchymyn llys sifil (interdict) yn datgan na chaiff y plentyn adael y wlad.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen gorchymyn llys arnoch i atal eich plentyn rhag cael ei gludo o'r wlad. Dylech gysylltu â chyfreithiwr cyn gynted â phosib.
Os nad oes gan eich plentyn basbort y DU, efallai y gall swyddfa basbort y DU (Swyddfa Basbort Ei Fawrhydi, HMPO) rwystro rhywun arall rhag cael pasbort y DU ar eu cyfer. Ffoniwch 0300 222 000 neu gysylltu â HMPO ar-lein.
Os yw eich plentyn yn gymwys i gael pasbort gwlad arall ond heb gael un eto, gallwch ofyn i gyfreithiwr ysgrifennu at Lysgenhadaeth, Uchel Gomisiwn neu Is-gennad y wlad honno a gofyn i’r wlad beidio â chyhoeddi pasbort ar gyfer eich plentyn. Nid oes rhaid iddynt gytuno.
Mewn rhai amgylchiadau gall Interpol (y Sefydliad Heddlu Troseddol Rhyngwladol) gyhoeddi hysbysiadau a allai helpu i ddod o hyd i’ch plentyn os yw ar goll.
Gall Interpol ddosbarthu Hysbysiad Melyn i wledydd eraill i roi gwybod iddynt fod eich plentyn ar goll. Gall Interpol hefyd ddosbarthu Hysbysiad Coch ar gyfer y sawl sydd wedi cipio eich plentyn.
Mae hefyd yn cadw cronfa ddata o blant sydd ar goll a gellir ychwanegu manylion plentyn coll at y gronfa ddata hon ar gais y wlad y mae’r plentyn ar goll ynddi.
Os ydych chi’n poeni am ddiogelwch eich plentyn, efallai y gallwn gyhoeddi Rhybudd Achub Plentyn (CRA). Partneriaeth rhwng yr heddlu, y wasg a’r cyhoedd yw CRA.
Gellir lansio CRA os:
Ni fydd pob achos yn arwain at CRA. Yr heddlu sy’n penderfynu lansio CRA.
Cytundeb rhwng gwledydd penodol yw Confensiwn yr Hâg ar gipio plant er mwyn helpu i ddychwelyd plant sydd wedi cael eu cipio dramor.
Ffoniwch Gyfarwyddiaeth yr Is-gennad yn y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) ar 020 7008 5000 i gael gwybod a yw'r wlad y cipiwyd eich plentyn ohoni wedi llofnodi'r Confensiwn.
Os ydyw, gallwch wneud cais am gymorth gan yr Awdurdod Canolog sy'n gyfrifol am y Confensiwn yn eich gwlad. Mae’r trefniadau ychydig yn wahanol yn dibynnu ar a ydych chi’n byw yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
Pwy i gysylltu â nhw am help i gael eich plentyn yn ôl dan Gonfensiwn yr Hâg ar gipio plentyn
Os yw eich plentyn wedi cael ei gludo i wlad nad yw wedi ymrwymo i Gonfensiwn yr Hâg, bydd yn rhaid i chi roi cynnig ar lwybr gwahanol.
Yn ogystal â cheisio cyfryngu er mwyn dod i gytundeb gyda’r rhiant arall, gallwch gychwyn achos cyfreithiol neu ffeilio cyhuddiadau troseddol. Gall hyn fod yn gymhleth, yn dibynnu ar y gyfraith yn y wlad honno ar rieni yn cipio plant.
Mae Reunite yn elusen sy’n helpu pobl os yw eu plentyn wedi cael ei gipio’n rhyngwladol. Gallant gynnig cyngor a gwybodaeth, helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr, darparu gwasanaethau cyfryngu rhyngoch chi a'ch partner a mwy.
Gall y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu helpu mewn sawl ffordd, gan gynnwys dod o hyd i gyfreithiwr, cwrdd â'ch plentyn (os yw'r rhiant arall yn cytuno), cysylltu ag awdurdodau tramor, a helpu gyda chyfieithu a theithio.