Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os yw unigolyn yn anfon negeseuon bygythiol, difrïol neu dramgwyddus atoch drwy Facebook, Twitter neu unrhyw wefan cyfryngau cymdeithasol arall, gall fod yn cyflawni trosedd.
Y troseddau mwyaf perthnasol yw 'aflonyddu' a 'chyfathrebu maleisus'. Er mwyn i achos o aflonyddu fod wedi ei gyflawni, mae'n rhaid y bu 'patrwm ymddygiad' clir. Hynny yw, dau neu ragor o ddigwyddiadau cysylltiedig. Nid oes yn rhaid i’r negeseuon fod yn dreisgar o ran eu natur, ond byddai angen iddynt fod wedi achosi rhywfaint o bryder neu drallod.
Os mai dim ond un cyfathrebiad a fu, mae’n annhebygol y byddai’n cael ei gyfrif fel aflonyddu, ond gallai gael ei ystyried yn gyfathrebu maleisus. I drosedd o'r fath fod wedi’i chyflawni rhaid bod neges wedi’i hanfon at unigolyn arall, neu wedi’i hanfon drwy rwydwaith cyfathrebu cyhoeddus, sy’n anweddus, hynod dramgwyddus, difrïol, bygythiol neu beryglus.
Gallwch riportio aflonyddu, negeseuon maleisus neu ddosbarthiad delweddau rhywiol preifat heb gydsyniad ar-lein neu drwy ein ffonio ar 101.
Byddwn yn gallu cadarnhau a oes trosedd wedi’i chyflawni, yn seiliedig ar yr holl ffeithiau a’ch sefyllfa unigol. Er mwyn ein cynorthwyo gyda’n hymchwiliad ni ddylech ymateb i’r neges gan y gallai annog y sawl sy’n ei hanfon i wneud y sefyllfa’n waeth.
Os yn bosibl, tynnwch sgrinlun o’r neges, felly os bydd yn cael ei dileu’n ddiweddarach bydd gennych gofnod o’r hyn a ddywedwyd.
Byddai hefyd yn werth riportio hyn wrth y rhwydwaith cymdeithasol a ddefnyddiwyd. Bydd ganddynt broses ar gyfer sefyllfaoedd o’r fath, ac efallai y gallant dynnu’r cynnwys oddi ar y rhwydwaith neu hyd yn oed gau cyfrif yr unigolyn.
Gwybodaeth diolch i askthe.police.uk.