Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os oes gennych chi dystysgrif arfau tanio ond eich bod am brynu neu dderbyn arf tanio newydd, fe all fod angen ichi amrywio'ch tystysgrif.
Sylwch fod y rheolau hyn yn gymwys i arfau tanio yn unig, nid drylliau. Os ydych chi'n prynu neu'n derbyn gwn newydd, mae'n rhaid ichi ein hysbysu o fewn saith diwrnod. Gallwch wneud hyn ar-lein drwy ddefnyddio’n ffurflen trosglwyddo perchnogaeth.
Cyn ychwanegu arf tanio, rhaid ichi sicrhau caniatâd i amrywio'ch tystysgrif.
Fel rhan o'ch cais, gallwch ychwanegu neu dynnu bwledi neu getris o'ch tystysgrif.
Os ydych chi am gael gwared ar arf tanio wrth ychwanegu un newydd, amrywiad 'un am un' yw hwn. Fel arall, dewiswch amrywiad rheolaidd.
Unwaith y byddwn ni wedi rhoi awdurdod ichi, fe gewch chi gymryd perchnogaeth ar eich arf tanio newydd.
Bydd y sawl sy'n rhoi'r arf tanio yn gwirio'r awdurdod ar eich tystysgrif. Byddan nhw’n rhoi manylion yr arf tanio yn Nhabl 1 ar gefn y dystysgrif.
Wedyn byddan nhw’n hysbysu'r heddlu a roddodd eu tystysgrif nhw.
Rhaid ichi ein hysbysu ni o fewn saith diwrnod ar ôl cael eich arf tanio newydd. Gallwch wneud hyn ar-lein drwy ddefnyddio’n ffurflen trosglwyddo perchnogaeth.