Statws gwasanaeth: ceisiadau newydd am drwydded
Mae oedi wrth i ni brosesu ceisiadau newydd am drwydded ar hyn o bryd.
Rydym yn anelu at brosesu pob cais cyn gynted â phosibl, ond ar hyn o bryd, ni allwn nodi pryd y bydd eich cais yn cael ei neilltuo i swyddog ymholiadau arfau tanio ar gyfer ymweliad â'r cartref.
Rhesymau dros yr oedi:
- Gwnaeth cyfyngiadau ein hatal rhag ymweld â chartrefi yn ystod y pandemig; er i ni barhau i dderbyn ceisiadau yn ystod y cyfnod hwn, mae llawer o geisiadau yn dal i aros i gael eu prosesu.
- Mae'r Canllawiau Statudol newydd ar Drwyddedu Arfau Tanio a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref wedi pennu'r prosesau a'r meini prawf ar gyfer asesu ymgeiswyr a'r safonau y mae'n rhaid eu cymhwyso wrth asesu'r risg i ddiogelwch y cyhoedd. Gall ein hymholiadau gymryd mwy o amser erbyn hyn, sydd wedi cael effaith ar amseroedd penderfynu ar geisiadau.
- Mae'r adran wrthi'n recriwtio ac yn hyfforddi staff newydd. Rydym yn hyderus y bydd ein hamseroedd perfformio a phrosesu yn gwella pan fyddwn yn dychwelyd i lefelau staffio priodol, ond mae'n golygu yn ystod y cyfnod hwn, fod yn rhaid i ni roi blaenoriaeth i geisiadau adnewyddu er mwyn sicrhau bod deiliaid tystysgrifau presennol yn cadw meddiant cyfreithiol ar eu gynnau.