Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi'n hedfan drôn neu'n berchen ar ddrôn, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod pob hediad yn ddiogel a chyfreithlon.
Awyren sy'n cael ei rheoli o bell ac sydd heb beilot ar ei bwrdd yw drôn. Mae dronau'n amrywio o deganau bach i blant i systemau milwrol mawr. Mae hyn yn cynnwys modelau o awyrennau a hofrenyddion sy’n cael eu rheoli o bell.
Mae rheolau gwahanol ar gyfer gwahanol fathau (categorïau) o hediad drôn. Mae'r categorïau'n dibynnu'n bennaf ar bwysau’r drôn, ble rydych chi'n bwriadu hedfan, a pha mor agos fyddwch chi at bobl ac ardaloedd adeiledig (trefi a dinasoedd).
Mae'r Cod Dronau ac Awyrennau Model yn debyg i Reolau’r Ffordd Fawr ar gyfer dronau. Cafodd ei greu gan yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) ac mae'n dweud wrthoch chi sut i hedfan drôn yn gyfreithlon a diogel.
Perchennog y drôn yw’r gweithredydd fel arfer.
Os nad yw’r drôn yn perthyn i un person, yna person dynodedig o’r enw y rheolwr yw'r gweithredydd. Er enghraifft, os yw’r drôn yn perthyn i glwb a bod yr aelodau’n cael ei ddefnyddio, yna mae'n rhaid i'r clwb ddynodi rheolwr ar gyfer y drôn.
Mae’r angen i gofrestru drôn yn dibynnu ar ei bwysau a’i ddosbarth, ac a oes ganddo gamera ai peidio. Os chi yw'r gweithredydd, rhaid ichi gofrestru gyda'r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) a sicrhau ID Gweithredydd os yw'r drôn:
Nid oes angen OperatorID ar gyfer rhai dronau ysgafnach. Gweler canllawiau'r CAA i gael y manylion llawn.
Rhaid ichi ddangos eich ID Gweithredydd yn glir ar bob drôn sy’n perthyn ichi neu'n cael ei reoli gennych.
Does dim angen ID Gweithredydd arnoch ar gyfer drôn sy'n cael ei ystyried yn degan.
Mae’ch drôn yn debyg o fod yn degan:
Rhaid i unrhyw un sy’n hedfan (peilota) drôn neu awyren fodel sy’n pwyso 100g neu fwy basio prawf sylfaenol gyda’r CAA i gael FlyerID. Rhaid iddynt gario manylion eu FlyerID bob amser pan fyddant yn hedfan.
Nid oes angen FlyerID ar gyfer dronau ac awyrennau model sy’n pwyso llai na 100g, er bod y CAA yn argymell cael un.
Mae gan rai categorïau ofynion ychwanegol ar gyfer peilotiaid.
Mae rheolau penodol hefyd ar gyfer plant, pobl ifanc dan 18 oed a sefydliadau sy’n gweithredu dronau neu awyrennau model.
Mae arnoch chi angen yswiriant:
Rhaid i’r yswiriant fod o safon EC 785/2004 o leiaf.
Mae'r crynodeb hwn o'r rheolau yn gymwys i'r rhan fwyaf o hediadau drôn. Ond rhaid ichi sicrhau eich bod yn gwybod i ba gategori mae’ch drôn yn perthyn a pha reolau yn union sy'n gymwys.
Peidiwch â hedfan:
Gan ddibynnu ar ba gategori o drôn rydych chi'n ei hedfan, fe all fod angen ichi aros o leiaf:
Darganfyddwch ble mae hedfan dronau wedi'i gyfyngu yn y DU.
Mae'r gyfraith ar hedfan dronau i’w chael yng Ngorchymyn Llywio yn yr Awyr 2016.
Yn y gyfraith:
Adrannau pwysicaf y rheolau ar gyfer dronau yw erthyglau 265A i 265F, sef y rheolau ar Weithredwyr Dronau, Peilotiaid Dronau a Chategorïau Hedfan.
Ers mis Ionawr 2026, rhaid gweithredu rhai dronau ac awyrennau model gyda Remote ID wedi’i droi ymlaen. O fis Ionawr 2028, bydd angen Remote ID ar gyfer pob gweithrediad drôn ac awyren fodel, oni bai bod y CAA wedi rhoi eithriad.
Ffoniwch 999 nawr mewn sefyllfaoedd brys fel y rhain:
Os ydych chi wedi darllen y rheolau a'ch bod yn credu bod rhywun yn torri'r gyfraith ond nid yw'n argyfwng, gallwch riportio trosedd inni ar-lein.
Mae ein pwerau ni ynglŷn â dronau i’w gweld yn rhan 3 o Ddeddf Rheoli Traffig Awyr ac Awyrennau Di-griw 2021.
Os ydyn ni’n credu y gallai drôn fod yn gysylltiedig â throsedd, fe allwn ni:
Rydyn ni hefyd yn cael ei gwneud yn ofynnol ichi ddangos y canlynol inni:
Rydyn ni hefyd yn cael gwirio drôn er mwyn deall pa reolau sy'n gymwys iddo.
Please update your browser to the latest version and re-open the website to access the widget.