Pawennau ar Batrôl
Cynllun atal troseddu yw Pawennau ar Batrôl lle mae perchnogion cŵn yn cofrestru i fod yn ‘llygaid a chlustiau’ ar gyfer eu cymuned pan fyddant yn mynd â’u hanifeiliaid anwes am dro.
Ar hyn o bryd gellir ymuno â’r cynllun o fewn dinas a sir Abertawe.
Os ydych chi’n mynd â chi am dro yn rheolaidd, gallwch ymuno â Phawennau ar Batrôl er mwyn rhoi gwybod i’r heddlu a’r cyngor am yr hyn a welwch, er enghraifft:
- gwerthu cyffuriau
- taflu sbwriel yn anghyfreithlon
- cŵn peryglus
- ymddygiad gwrthgymdeithasol
- troseddau potsio bywyd gwyllt
- byrgleriaeth a throseddau cerbydau
Drwy wneud hyn byddwch yn helpu i wneud y canlynol:
- gwneud eich cymdogaeth yn fwy diogel
- meithrin cryfder a chysylltedd yn eich cymuned
- lleihau’r cyfle ar gyfer troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
Ymuno â Phawennau ar Batrôl
Os ydych yn byw yn Abertawe ac eisiau ymuno â thîm, e-bostiwch ni. Gallwch hefyd fynd i wefan Cyngor Abertawe.