Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Menter blismona genedlaethol yw Ymgyrch Beaconport a sefydlwyd i adolygu ymchwiliadau a oedd wedi’u cau’n flaenorol i achosion o gam-drin a cham-fanteisio’n rhywiol ar blant gan grwpiau.
Ar hyn o bryd, mae’r ymgyrch yn adolygu achosion ledled Cymru a Lloegr rhwng 1 Ionawr 2010 a 31 Mawrth 2025, yn dilyn adroddiad gan y Farwnes Casey.
Mae’r prif nodau’n cynnwys:
Fel rhan o’r adolygiad hwn, gall unrhyw un sydd wedi cael ymchwiliad i gam-drin rhywiol wedi’i gau yn flaenorol gael cyngor ac arweiniad arbenigol ar opsiynau ar gyfer cael eu hachos wedi’i adolygu trwy wefan I Am Ready.
Drwy ateb nifer fach o gwestiynau wedi’u cynllunio’n sensitif trwy borth ar-lein, cyfeirir dioddefwyr a goroeswyr at y wybodaeth, y gwasanaeth cymorth neu’r opsiwn adolygu sydd fwyaf perthnasol i’w hamgylchiadau. Gall hyn gynnwys:
Bydd ceisiadau’n cael eu derbyn a’u hadolygu gan swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig, a bydd gan y rhai sy’n riportio yr opsiwn i dderbyn diweddariadau rheolaidd.
Mae’r gwasanaeth yn caniatáu i bobl gymryd seibiannau ac ymgysylltu â’r broses mewn ffordd sy’n teimlo’n iawn iddyn nhw. Mae’r wefan hefyd yn cynnig canllawiau a chyngor cyffredinol ar riportio gwybodaeth i’r heddlu a chael mynediad at Gynghorwyr Trais Rhywiol Annibynnol (ISVAau) a gwasanaethau cymorth arbenigol i ddioddefwyr.
Gallwch ddysgu rhagor am Ymgyrch Beaconport yn I Am Ready.
Please update your browser to the latest version and re-open the website to access the widget.