Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Ymgyrch Encompass yn helpu plant sy'n profi cam-drin domestig.
Nod Ymgyrch Encompass yw lleihau effeithiau hirdymor cam-drin domestig drwy ddarparu ymyriadau a chymorth yn gynnar.
Pan fydd yr heddlu'n dod i ddigwyddiadau trais neu gam-drin domestig sy’n cynnwys plant yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, maen nhw’n rhoi gwybod i'r arweinydd diogelu dynodedig yn ysgol y plentyn cyn dechrau'r diwrnod ysgol nesaf. Yna mae'r arweinydd diogelu yn sicrhau bod y plentyn yn cael y cymorth angenrheidiol ar unwaith.
Mae hyfforddiant yn cael ei gynnig hefyd i staff ysgolion – gan eu dysgu i adnabod a chefnogi plant y mae cam-drin domestig yn effeithio arnyn nhw.
Mae'r rhaglen ar waith ym mhob heddlu yn y Deyrnas Unedig. Mae ar gael ar gyfer pob ysgol ym mhob heddlu. Lle mae gan heddluoedd y capasiti, maen nhw’n cynnwys meithrinfeydd, cylchoedd chwarae a gwarchodwyr plant cofrestredig.
Os ydych chi'n rhiant neu'n ofalwr sy'n poeni am blentyn sy'n cael ei effeithio gan gam-drin domestig, siaradwch â'r arweinydd diogelu dynodedig yn ysgol y plentyn.
Gall unrhyw un o ysgol neu sefydliad addysg gofrestru i gael mynediad at becyn hyfforddi ar-lein am ddim ar wefan Ymgyrch Encompass.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cofrestru eich ysgol chi ar gyfer Ymgyrch Encompass, neu os hoffech gael mwy o wybodaeth, anfonwch neges ebost at dîm Ymgyrch Encompass.
Mae llinell gymorth Cyngor a Chanllawiau Cenedlaethol Ymgyrch Encompass i Weithwyr Proffesiynol ar gael ar 0204 513 9990, dydd Llun i ddydd Gwener, 8am-1pm.
Mae’n cynnig cyngor am ddim i athrawon gan seicolegwyr addysg neu glinigol ar y ffordd orau o gefnogi plant unigol. Gallan nhw hefyd drafod polisïau ac arferion ysgol gyfan ynghylch cefnogi plant sy'n profi cam-drin domestig.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Ymgyrch Encompass. Mae’r holl ddeunyddiau ac adnoddau ar gael i ysgolion eu defnyddio am ddim.