Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Smwddio bronnau (sydd hefyd yn cael ei alw’n fflatio bronnau) yw pan fydd bronnau merched ifanc yn cael eu niweidio dros amser i'w fflatio ac i ohirio’u datblygiad. Weithiau, mae gwregys elastig, neu rwymyn, yn cael ei ddefnyddio i'w hatal rhag tyfu.
Mae smwddio'r bronnau fel arfer yn dechrau gydag arwyddion cyntaf glasoed, a pherthnasau benywaidd sy’n ei wneud amlaf. Gan amlaf, mae'r rhai sy’n cam-drin y ferch yn credu, yn anghywir felly, eu bod yn ymddwyn er budd y plentyn. Maen nhw’n credu bod fflatio’r bronnau’n gwneud y plentyn yn llai 'benywaidd', gan obeithio y bydd hyn yn amddiffyn y ferch rhag aflonyddwch, trais, cael ei chipio a phriodas gynnar dan orfod, ac yn helpu’r plentyn i aros mewn addysg.
Er nad oes deddf benodol yn y Deyrnas Unedig ynghylch smwddio bronnau, mae'n fath o gam-drin plant.
Dysgwch beth yw arwyddion y cam-drin hwn, beth allwch chi ei wneud os ydych chi'n poeni am rywun a sut i gael help os ydy hyn wedi effeithio arnoch chi.
Os bydd achos unigol yn ymwneud â’r arfer o smwddio bronnau, neu bryder ynglŷn â defnyddio rhwymwr bronnau, yn cael ei riportio i’r heddlu, bydd yn cael ei asesu fesul achos.
Mae llawer o arwyddion y gallai smwddio bronnau fod yn digwydd i ferch. Mae'r rhain yn cynnwys:
Os ydych chi’n amau bod rhywun mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999 nawr. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun aton ni ar 999 os ydych chi wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaeth SMS brys.
Os nad yw’n argyfwng, cysylltwch â ni drwy unrhyw un o’r ffyrdd eraill hyn:
Os ydych chi'n blentyn, fe allech chi siarad hefyd â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo, fel ffrind, athro/athrawes neu oedolyn arall.
Os ydych chi’n weithiwr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant, cofiwch fod gennych gyfrifoldeb i gyfeirio’ch pryderon at yr adran Gofal Cymdeithasol Plant drwy’ch y cyngor lleol.
Partneriaeth rhwng Barnardo’s a’r Gymdeithas Llywodraeth Leol (CLlL) i wella gwasanaethau i wrthsefyll anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM).
Diogelu plant rhag trais rhywiol, cam-fanteisio rhywiol ac arferion niweidiol.
Came Women and Girls Development Organisation (CAWOGIDO)
Elusen sy’n codi ymwybyddiaeth ac yn darparu gwybodaeth am smwddio bronnau.
Elusen ryngwladol sy’n gweithio i roi terfyn ar anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM) drwy ymchwil a mentrau lleol.
Gwasanaeth cyfrinachol, preifat am ddim lle gallwch siarad am unrhyw beth.