Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os yw ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio ar eich ansawdd bywyd chi, neu'n gwneud ichi boeni am eich diogelwch chi neu ddiogelwch pobl eraill, mae yna bobl a all helpu. Gallwch gysylltu â'r heddlu, Adran Diogelwch Cymunedol eich cyngor lleol neu, os yw'n berthnasol, eich darparwr tai.
Mae gan yr asiantaethau partner hyn rôl i'w chwarae wrth leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed a delio â'r bobl sy'n gyfrifol.
Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ddigwyddiad sy'n syrthio'n fyr o drosedd, lle mae ymddygiad unigolyn neu grŵp yn achosi neu'n debygol o achosi:
Mae'n bwysig cadw cofnodion o ba ymddygiad sy'n digwydd a pha bryd. Peidiwch ag ofni dweud wrth un o'r asiantaethau partner amdano a gofyn am gymorth pan fydd arnoch ei angen. I'ch helpu chi ac eraill:
Mae Adolygiad Achos yn grymuso dioddefwyr sy’n dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol dro ar ôl tro i ofyn am adolygiad o’r camau y mae asiantaethau partner wedi’u cymryd i ddatrys eu pryderon. I fod yn gymwys, rhaid eich bod wedi profi a riportio:
Mae angen i bob un o’r digwyddiadau fod wedi cael eu riportio o fewn un mis iddynt ddigwydd a rhaid i chi wneud cais am Adolygiad Achos o fewn chwe mis i’r digwyddiad diwethaf. Gall y dioddefwr fod yn fusnes, unigolyn neu’n grŵp cymunedol.
Gwnewch gais am Adolygiad Achos De Cymru.
Pan fyddwch chi'n gwneud cais, bydd angen i chi roi manylion llawn am bob digwyddiad.
Rhaid bod pob un o'r sefydliadau a ganlyn wedi rhoi gwybod am bob digwyddiad: