Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae sgamwyr yn aml yn defnyddio un neu fwy o’r canlynol i’w helpu i gyflawni twyll ac i guddio eu gwir hunaniaeth.
Mae asiantau trosglwyddo arian yn cynnig ffordd gyflym, cyfleus a dibynadwy i anfon a derbyn arian ledled y byd i bobl rydych chi'n eu hadnabod ac yn ymddiried ynddyn nhw. Serch hynny, maen nhw'n aml yn cael eu defnyddio gan sgamwyr i gyflawni gwahanol fathau o dwyll, fel:
Mae gwasanaethau trosglwyddo arian yn boblogaidd gyda sgamwyr oherwydd does dim rhaid iddyn nhw ddangos ID i gasglu'r arian. Dim ond y rhai sy’n anfon yr arian sy’n gorfod gwneud hynny. Fel hyn, gall y sgamwyr guddio pwy ydyn nhw.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod â phwy rydych chi'n delio â nhw cyn rhoi'r cyfeirnodau sydd eu hangen arnyn nhw i gasglu'r arian rydych wedi’i anfon. Peidiwch byth â gadael i sgamwyr posibl ddweud wrthych sut mae gwasanaeth trosglwyddo arian neu systemau talebau arian parod yn gweithio. Dylech ond ymddiried yn y cyngor a roddir gan y cwmni trosglwyddo arian neu’r cwmni talebau arian parod. Darllenwch y rhybuddion ar y dogfennau trosglwyddo arian. Mae'r wybodaeth yno i'ch diogelu chi.
Peidiwch â defnyddio asiant trosglwyddo arian i dalu am unrhyw beth rydych chi'n ei brynu ar-lein, gan gynnwys safleoedd ocsiwn. Nid yw asiantau trosglwyddo arian yn gyfrifol am ddosbarthu nwyddau neu wasanaethau y gwnaethoch dalu amdanynt gan ddefnyddio trosglwyddiad arian.
Peidiwch byth â rhannu manylion arian a drosglwyddwyd gyda rhywun i brofi bod yr arian gennych. Os gwnewch hynny, gallai ganiatáu i'r trosglwyddiad arian gael ei dalu i'r person hwnnw. Gelwir hyn yn dwyll ‘prawf o gyllid’.
Am fwy o wybodaeth a help neu i riportio hyn a nifer o fathau gwahanol o dwyll, ewch i Action Fraud, canolfan riportio genedlaethol y DU ar gyfer twyll a seiberdroseddu.
Swyddfa rithwir yw cyfeiriad cofrestredig person neu fusnes yn hytrach na’u cyfeiriad go iawn. Efallai na fyddan nhw byth yn ymweld â'r cyfeiriad a gallan nhw ail-gyfeirio’r holl bost i'r swyddfa rithwir.
Efallai eich bod chi'n meddwl eich bod chi'n delio ag unigolyn neu fusnes proffesiynol sydd wedi hen ennill ei blwyf oherwydd y cyfeiriad swyddfa urddasol (ond rhithwir). Serch hynny, gall y realiti fod yn wahanol iawn.
Mae’r rhan fwyaf o fusnesau sy’n defnyddio swyddfeydd rhithwir yn onest a dilys, ond mae sgamwyr yn aml yn defnyddio cyfeiriadau swyddfa rhithwir yn hytrach na’u cyfeiriad cartref neu gyfeiriad busnes er mwyn cuddio pwy ydyn nhw. Yn aml, mae sgamwyr yn defnyddio ID ffug i gael y swyddfa rithwir.
Os gwelwch chi wefan sydd â chyfeiriad arni, gallai fod yn gyfeiriad swyddfa rithwir ac nad yw’r cwmni yn gweithredu oddi yno.
Mae’n debyg bod rhai o’r bobl sydd wedi profi sgamiau wedi mynd i'r cyfeiriadau hyn i gasglu eu harian yn ôl neu i hawlio gwobrau yn bersonol, cyn sylweddoli mai rhith-swyddfeydd sydd yno.
Mae rhai cwmnïau ffôn yn rhoi rhifau cenedlaethol a rhifau cyfradd premiwm, fel 0800 neu 0845, i fusnesau neu unigolion, lle nad oes angen darparu ID i'w cael yn aml iawn.
Mae sgamwyr yn defnyddio’r rhifau hyn yn aml. Byddan nhw’n eu trosglwyddo i rifau ffonau symudol talu-wrth-fynd sydd heb eu cofrestru neu i wasanaeth ateb ar wahân, sy’n golygu bod y galwadau yn anodd i’w holrhain.
Oherwydd hynny, peidiwch â dibynnu ar ymddangosiad rhif ffôn i ddweud wrthych pa fath ydyw.
Er enghraifft, rhif Llundain yw 0208 fel arfer a 07952 yn rhif ffôn symudol yn y DU. Ond mae sgamwyr yn prynu’r rhifau hyn er mwyn eich twyllo i gredu bod y busnes wedi'i leoli’n gyfreithlon yn rhywle nad yw mewn gwirionedd.
Mae sgamwyr hefyd yn defnyddio meddalwedd i gael unrhyw rif y maen nhw’n dymuno i ymddangos ar sgrin ID eich ffôn. Mae’r dull hwn, o’r enw ‘sbwffio’ yn golygu y gallan nhw ymddangos eu bod yn galw o rif dilys sy'n gysylltiedig â pherson neu gwmni, pan nad ydyn nhw mewn gwirionedd.
Dylech wastad fod yn ofalus o berson nad ydych yn ei adnabod wrth siarad ar y ffôn. Os yw sgamiwr yn rhoi rhif ffôn, ni ellir olrhain y rhif hwnnw bob amser nac adnabod y defnyddiwr.
Am fwy o wybodaeth a help neu i riportio hwn a nifer o fathau gwahanol o dwyll, ewch i Action Fraud, canolfan riportio genedlaethol y DU ar gyfer twyll a seiberdroseddu.