Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae miliynau o bobl yn teithio ar wahanol fathau o drafnidiaeth bob dydd - boed hynny’n fysiau, trenau yr ‘Underground’, tacsis minicabiau, pedicabiau, dwy olwyn neu ar droed. Dyma ychydig o gynghorion sydd wedi’u bwriadau i’ch helpu i gadw’n ddiogel.
Eisteddwch ar y llawr gwaelod neu’n agos at y gyrrwr ar fws nos deulawr, lle bydd yn gallu eich gweld. Yn yr un modd, peidiwch ag eistedd mewn cerbyd gwag ar drenau neu’r ‘Underground’.
Ceisiwch osgoi eistedd mewn cerbyd gwag gan y byddwch yn fwy agored i ddioddef perygl ynddynt.
Os ydych yn dewis teithio ar feic, byddwch yn arbennig o ofalus, yn enwedig mewn traffig, a chadwch bellter oddi wrth fysiau a cherbydau mawr, gan y gallant droi’n sydyn a pheidio eich gweld. A chofiwch ein bod yn gyrru ar yr ochr chwith.
Byddwch yn ofalus iawn wrth groesi’r ffordd. Ceisiwch bob amser groesi ar groesfannau wedi’u marcio a chofiwch edrych y ddwy ffordd, gan y gallai traffig, gan gynnwys beiciau, fod yn dod o wahanol gyfeiriad.
Yn y nos, peidiwch â cherdded ar eich pen eich hun mewn mannau fel parciau a strydoedd ochr, neu unrhyw amgylchedd anghyfarwydd. Os oes yn rhaid i chi gerdded, cadwch at fannau prysur lle mae llawer o weithgarwch a digon o olau.
Mae gan dacsis olau ‘TAXI’ ar flaen y cerbyd, a bydd y gost yn cael ei harddangos ar y mesurydd. Hefyd, gellir galw arnynt yn y stryd, eu harchebu ymlaen llaw dros y ffôn, ar-lein neu drwy apiau ffôn symudol, a gellir hefyd dod o hyd iddynt mewn safleoedd tacsis; er enghraifft, tu allan i orsafoedd, meysydd awyr, gwestai a mannau sy’n boblogaidd gyda’r hwyr.
Mae’r rhain yn edrych fel unrhyw gar preifat arall. Mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi’u trwyddedu, gan gwmnïau dibynadwy a gellir eu harchebu dros y ffôn, ar-lein neu gydag apiau ar ffonau symudol. Fodd bynnag, mae rhai heb eu trwyddedu ac yn chwilio am gwsmeriaid ar y strydoedd, gyda’r hwyr fel arfer.
Er bod temtasiwn ar ddiwedd noson allan i neidio i mewn i’r ‘minicab’ cyntaf a welwch, peidiwch byth â mynd i gar nad ydych wedi’i archebu oherwydd na fydd cofnod o’ch siwrnai na’r gyrrwr, ac mae’n eich rhoi chi mewn perygl o ymosodiad, gan gynnwys ymosodiad rhywiol a lladrad. Ni fyddant chwaith wedi’u hyswirio pe bai damwain.
Mae archebu eich minicab yn golygu y caiff eich taith ei gwneud gan yrrwr trwyddedig sydd wedi’i yswirio mewn cerbyd trwyddedig sydd wedi’i yswirio. Bydd cofnod o’r siwrnai, y gyrrwr a’r cerbyd hefyd ar gael felly oes unrhyw broblem gellir olrhain y gyrrwr. Gwnewch nodyn o rif y cerbyd a’r rhif trwydded neu tynnwch lun ohonynt.
Mae’r rhain yn gyfreithlon ond byddwch yn ofalus gan fod sôn am rhai gyrwyr yn mynnu symiau mawr o arian am siwrneiau byr iawn.
Felly cofiwch, defnyddiwch finicab wedi’i archebu a’i drwyddedu, tacsi, bws neu’r Underground bob amser - ac osgowch ardaloedd tywyll a thawel.