Er bod y rhan fwyaf o ladrata yn digwydd rhwng chwech a deg o’r gloch yr hwyr, mae troseddwyr ar waith yn ystod y dydd hefyd, felly cadwch lygad bob amser ar yr hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas. Dilynwch y camau syml hyn er mwyn helpu i ddiogelu eich ffôn.
Byddwch yn ymwybodol o’r hyn sydd o’ch cwmpas
- Os oes angen i chi ddefnyddio eich ffôn ar y stryd, cadwch lygad am rywun ar feic neu foped gerllaw. Codwch eich pen ac edrychwch allan
- Gwnewch yr alwad neu ysgrifennwch y neges yn gyflym fel na fyddwch yn colli eich sylw
- Peidiwch â thecstio tra’n cerdded – ni fyddwch yn sylwi ar beth sy’n digwydd o’ch cwmpas
- Os nad yw hynny’n bosibl, sefwch i ffwrdd o ymyl y ffordd, yn agos at adeilad neu wal, fel na all rywun ddod y tu ôl i chi
- Gall defnyddio’r ffôn heb ddwylo atal lleidr rhag cipio eich ffôn o’ch llaw
Defnyddiwch y nodweddion diogelwch sydd ar eich ffôn
- Mae’n rhaid i chi droi nodweddion diogelwch eich ffôn ymlaen er mwyn diogelu eich ffôn
- Defnyddiwch y clo pad llythrennau fel na all lladron fynd i mewn i’ch ffôn yn syth, neu defnyddiwch y system ddilysu biometrig os oes un ar eich ffôn (ôl bys neu ddull adnabod wyneb)
- Efallai bod gan eich ffôn nodweddion diogelwch eraill y gallwch eu defnyddio - gallai’r rhain ganiatáu i chi ddileu eich data, cloi eich dyfais llaw, neu atal y lleidr rhag ailosod ffôn i’w osodiadau ffatri o ddyfais rhyngrwyd arall
- Ystyriwch osod ap atal lladrad. Gall y rhain fod yn ffordd effeithiol i helpu’r heddlu i olrhain eich ffôn a dod o hyd i’r lleidr
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut i adnabod eich ffôn os caiff ei ddwyn
- Mae gan bob ffôn rif IMEI sy’n helpu’r heddlu a chwmnïau yswiriant i’w adnabod os caiff ei ddwyn. Gall gweithredwyr rhwydwaith y DU hefyd rwystro ffôn sydd wedi’i ddwyn rhag gweithio ar draws eu rhwydweithiau gyda’i IMEI
- Gallwch ganfod beth yw eich rhif IMEI drwy ddeialu *#06# o’ch ffôn a chadwch gofnod ysgrifenedig ohono; os caiff y ffôn ei ddwyn, riportiwch y rhif i’ch cwmni ffôn er mwyn ei atal rhag cael ei ddefnyddio
- Cofrestrwch eich pethau gwerthfawr ar gronfa ddata eiddo achrededig.
Cofiwch, peidiwch byth â wynebu lleidr na mentro'ch diogelwch eich hun er mwyn eich ffôn symudol.