Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gwybodaeth am sut i amddiffyn eich hun rhag i’ch ffôn symudol gael ei ddwyn, a sut i osod eich ffôn i'ch helpu os bydd yn cael ei ddwyn.
Defnyddiwch nodweddion diogelwch eich ffôn i atal rhywun rhag defnyddio’ch ffôn os bydd yn cael ei ddwyn. Dewiswch PIN, cod, cyfrinair neu batrwm cryf.
Mynnwch rif IMEI eich ffôn drwy deipio *#06# ar y bysellfwrdd. Cadwch nodyn ohono yn rhywle heblaw eich ffôn. Gall yr IMEI helpu i olrhain y ffôn os caiff ei golli neu ei ddwyn.
Gosodwch ap tracio ar eich ffôn er mwyn gweld ble mae’r ffôn ar ddyfais arall fel gliniadur. Defnyddiwch yr ap cyn gynted â phosibl, cyn i’r lladron gael cyfle i'w analluogi.
Diffoddwch ragolygon neges, fel na fydd lladron yn gweld unrhyw negeseuon ynghylch codau ailosod neu godau mewngofnodi pan fydd eich ffôn wedi'i gloi.
Gwnewch yn siŵr:
Gweler tudalennau help eich dyfais i gael cymorth i dracio lleoliad y ddyfais, adfer cyfrifon a gosodiadau rhagolygon neges.