Nid yw bywyd ar y rhawd yn addas i bawb ond nid yw hynny’n golygu na allwch weithio i Heddlu De Cymru.
Mae rolau staff yn amrywio’n enfawr o Swyddogion Cyfathrebu i Bartner Busnes AD, arbenigwyr TG i Swyddogion Cadw yn y Ddalfa, gallai eich sgiliau, profiad ac arbenigedd fod yr hyn rydym yn chwilio amdano.
Mae Heddlu De Cymru yn falch o’n pobl ragorol felly os ydych yn teimlo yr hoffech ddod i ymuno â ni cadwch lygad ar ein swyddi gwag cyfredol.
Yr hyn y mae Heddlu De Cymru yn ei gynnig i chi…
- Cyflog cystadleuol
- Hawl i wyliau blynyddol â thâl (isafswm o 24 diwrnod yn codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) yn ogystal â gwyliau cyhoeddus â thâl
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Hael
- Hawl i dâl salwch hael
- Trefniadau Gweithio Hyblyg (i’w cytuno gyda’r rheolwr llinell i gefnogi’r angen sefydliadol)
- Talebau Gofal Plant – cyfnewidiwch ran o’ch cyflog am dalebau gofal plant di-dreth a heb yswiriant gwladol
- Tâl Mamolaeth a Thadolaeth gwell
- Seibiant Gyrfa – Gall staff wneud cais am seibiant gyrfa (ar ôl 2 flynedd o wasanaeth)
- Beicio i’r gwaith – gallwch gael beic newydd i deithio i’r gwaith drwy eich cyflog gan arbed treth ac yswiriant gwladol
- Gostyngiadau Ffordd o Fyw sy’n cynnwys cymorth gyda theithio, cynllun gofal llygaid a llawer mwy
- Rhwydweithiau Cymorth Staff sy’n cynnwys: Cymdeithas yr Heddlu Benywaidd, Rhwydwaith Staff Hoyw, Cymdeithas yr Heddlu Du, Cymdeithas Gristnogol yr Heddlu, Rhwydwaith Cymorth Abledd, Ffederasiwn yr Heddlu, Unsain, GMB
- Cyfleoedd i ymuno ag amrywiaeth o glybiau chwaraeon