South Wales Police Crest

South Wales Police

quick exit

Technoleg Adnabod Wynebau yng ngêm Dinas Caerdydd yn erbyn Dinas Abertawe

Datganiad yn ymateb i sylwadau Big Brother Watch, Cymdeithas Cefnogwyr Pêl-droed Cymru a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru Arfon Jones

DIWEDDARWYD DDIWETHAF:
2020-01-10

Ddydd Sul 12 Ionawr, bydd Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn chwarae yn erbyn Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Hon fydd ail gêm y tymor rhwng y ddau dîm, yn dilyn eu gêm flaenorol yn Stadiwm Liberty ym mis Hydref. Fel yn y gêm flaenorol, byddwn yn defnyddio ein technoleg adnabod wynebau mewn mannau allweddol cyn y gêm er mwyn helpu i adnabod y rhai y rhoddwyd gorchmynion gwahardd iddynt a allai geisio mynd i’r gêm.

Dim ond pobl sydd wedi eu collfarnu o droseddau mewn gemau pêl-droed sydd ar y rhestr wylio, ac mae gorchmynion gwahardd dilys ar waith ar gyfer pob un ohonynt. Mae ein rhestr wylio’n benodol i’r digwyddiad dan sylw bob amser, ac ond yn cael ei defnyddio i leihau’r bygythiad neu’r tebygolrwydd o anhrefn.

Nid yw ein technoleg adnabod wynebau yn cadw data biometreg na delweddau’r bobl y gallai eu hwynebau fod wedi cael eu sganio. Caiff y data a/neu’r delweddau eu dileu’n awtomatig ar unwaith. Nid yw’r data ar gael i weithredwr y system nac unrhyw swyddogion eraill yr heddlu.

Dywedodd Andy Valentine, y Prif Gwnstabl Cynorthwyol: “Dyma’r trydydd tro yn unig mewn mwy na dwy flynedd a hanner i’r dechnoleg gael ei defnyddio mewn gêm bêl-droed, a’r nod yw atal anhrefn sydd, yn y gorffennol, wedi effeithio ar gemau rhwng y ddau dîm.

“Rydym yn defnyddio technoleg Adnabod Wynebau Awtomataidd i atal troseddau drwy adnabod unigolion y mae’r heddlu’n chwilio amdanynt i’w cwestiynu am droseddau sy’n ymwneud â phêl-droed, neu sydd wedi’u collfarnu o droseddau sy’n ymwneud â phêl-droed ac sydd erbyn hyn yn destun gorchmynion gwahardd pêl-droed sy’n eu hatal rhag bod yn bresennol.

“Rhoddir gorchmynion gwahardd pêl-droed gan y llys i bobl sydd wedi camymddwyn mewn gêm bêl-droed flaenorol, ac felly mae hyn yn rhoi rhesymeg glir i’n strategaeth ar gyfer atal unrhyw drosedd ac anhrefn.

“Yn unol â’n gweithdrefnau gweithredu safonol, caiff data pawb a gesglir gan y dechnoleg ar y diwrnod eu dileu ar unwaith, heblaw am ddata’r bobl ar y rhestr wylio.

“O ystyried canfyddiadau’r Uchel Lys ym mis Medi 2019, a’r casgliad bod ein defnydd o dechnoleg adnabod wynebau wedi’i gyfiawnhau’n gyfreithiol ac yn gymesur, byddwn yn parhau i ddefnyddio’r dechnoleg, ac yn parhau i ddangos ein hymrwymiad i’r defnydd moesegol a thryloyw o Dechnoleg Adnabod Wynebau Awtomataidd.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael: “Mae’n siomedig iawn bod Arfon Jones wedi beirniadu Heddlu De Cymru ar sail diffyg dealltwriaeth o’r dechnoleg a’r gwaith craffu manwl a wnaed mewn perthynas â defnyddio technoleg adnabod wynebau mewn ffyrdd sy’n diogelu’r cyhoedd gan barchu’r gyfraith a’n traddodiadau o gynnal rhyddid sifil ar yr un pryd. 

“Mae’n hynod o siomedig nad yw Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru erioed wedi trafod y mater â mi, gan y byddwn wedi gallu nodi’r diffygion yn ei ddealltwriaeth, ac esbonio sut y caiff y dechnoleg ei defnyddio er budd cefnogwyr pêl-droed go iawn.

“Dros y blynyddoedd, mae wedi bod yn anodd yn aml i rieni ystyried mynd â’u plant i gemau pêl-droed proffil uchel, o ganlyniad i bryderon ynghylch trais a achosir gan leiafrif o gefnogwyr y mae’n well ganddynt geisio ymladd ag eraill na gwylio’r hyn sy’n digwydd ar y cae.

“Mae Heddlu De Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran sicrhau bod meysydd pêl-droed yn ddiogel ar gyfer y cyhoedd, a chyflwynwyd Gorchmynion Gwahardd er mwyn sicrhau y gall cefnogwyr go iawn fwynhau gwylio gemau pêl-droed yn ddiogel ac yn hyderus. Dim ond pan gânt eu gorfodi y maent yn gwbl effeithiol. Yn ystod y gêm ddiweddar yn Abertawe, defnyddiwyd technoleg adnabod wynebau i adnabod unigolion a oedd yn torri gorchymyn llys o’r fath, ac felly cawsant eu gwahardd rhag mynd i’r gêm. Ni chafodd unrhyw ddelweddau o aelodau’r cyhoedd a oedd yn mynd i’r gêm eu cadw o gwbl.

“Mae’n bwysig nodi bod delweddau CCTV yn cael eu recordio a’u cadw am hyd at 30 o ddiwrnodau, ond nid hyw hynny’n wir am dechnoleg adnabod wynebau. Defnyddir technoleg adnabod wynebau i adnabod unigolion sydd ar restr wylio – yn yr achos hwn, pobl sydd ar y rhestr yn benodol am eu bod wedi cael gorchymyn gwahardd gan y llysoedd er mwyn diogelu cefnogwyr go iawn. Heblaw am yr unigolion ar y rhestr, ni chaiff unrhyw ddelweddau o aelodau’r cyhoedd eu cadw a chaiff y data eu dileu ar unwaith.

“Mae’n anodd deall pam nad yw Arfon Jones yn cefnogi mesurau sy’n cadw cefnogwyr pêl-droed yn ddiogel ac yn sicrhau eu bod yn gallu mynd i gemau yn hyderus, gan wybod bod popeth yn cael ei wneud i’w cadw yn ddiogel.

“Mae datganiadau Arfon yn frith o gamgymeriadau o ran y dechnoleg a’r gyfraith, ac mae’n drist iawn ei fod wedi defnyddio ei swyddogaeth i ledaenu camwybodaeth yn y ffordd hon. Nid yn unig y mae’r Uchel Lys wedi casglu bod defnydd Heddlu De Cymru o dechnoleg adnabod wynebau yn gyfreithiol ac yn gyfiawn, mae’r defnydd a wneir o’r dechnoleg hon hefyd wedi bod yn destun gwaith craffu manwl gennyf i, fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, a nifer o gyrff annibynnol, gan gynnwys ein cydbwyllgor moeseg, comisiynwyr a benodwyd gan y Llywodraeth, a thrwy waith ymgysylltu agored â’r cyhoedd lle roedd y dechnoleg wrthi’n cael ei defnyddio.

“Nid oes unrhyw un wedi cael ei arestio ar gam o ganlyniad i ddefnydd Heddlu De Cymru o dechnoleg adnabod wynebau. Yn hytrach, rydym wedi llwyddo i ddal nifer o droseddwyr yr oedd yr Heddlu’n chwilio amdanynt mewn perthynas â throseddau difrifol iawn, gan gynnwys troseddau rhywiol, ymosodiadau difrifol a byrgleriaeth. Mae’r defnydd hwn o’r dechnoleg yn benodol iawn, ac mae’n dilyn yr egwyddor ei bod yn well atal trais na gorfod ymateb ar ôl i’r trais ddigwydd. Mae hynny er budd cefnogwyr pêl-droed, ac enw da’r gêm ei hun.”

MENU