Ar 25 Mai 2018 cynhyrchodd y DU ei thrydedd genhedlaeth o gyfraith diogelu data. Ar yr un dyddiad lansiwyd y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) drwy’r Undeb Ewropeaidd (yr UE) cyfan.
Bydd y gyfraith diogelu data newydd yn cymhwyso safonau GDPR yr UE ar gyfer prosesu data a ystyrir yn “ddata cyffredinol”, sef data sy’n cael eu prosesu am reswm nad yw’n ymwneud â gorfodi’r gyfraith na diogelwch gwladol. Gweler rhan 2 o’r gyfraith newydd i weld sut y dylai sefydliadau brosesu “data cyffredinol”.
Dim ond sefydliad a ystyrir yn “awdurdod cymwys” sy’n gallu prosesu data at ddibenion gorfodi’r gyfraith. Dibenion gorfodi’r gyfraith yw atal ac ymchwilio i droseddau a’u canfod neu eu herlyn neu roi cosbau troseddol, gan gynnwys diogelu rhag bygythiadau i ddiogelwch cyhoeddus a’u hatal. Gosodir y disgrifiad o “awdurdod cymwys” yng nghyfraith diogelu data, ac mae’n cynnwys ond nid yw’n gyfyngedig i sefydliadau megis heddluoedd, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol a’r Comisiynydd Gwybodaeth. Gweler rhan 3 o’r gyfraith i weld sut y dylai sefydliadau brosesu “at ddibenion gorfodi’r gyfraith”.
Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn esbonio sut a pham mae Heddlu De Cymru yn prosesu eich data personol, o dan Ran 2, “data cyffredinol” a Rhan 3 “data gorfodi’r gyfraith” a’r camau rydym yn eu cymryd i gadw eich gwybodaeth yn ddiogel. Mae hefyd yn disgrifio eich hawliau o ran eich gwybodaeth bersonol a sut i gyflwyno cwyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth os bydd gennych bryderon ynglŷn â’r ffordd rydym wedi ymdrin â’ch data.
Pwy ydym ni?
Heddlu De Cymru yw’r heddlu tiriogaethol sy’n gyfrifol am blismona ardaloedd De Cymru, y Deyrnas Unedig, gan gynnwys ardaloedd awdurdodau unedol Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Bro Morgannwg.
Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru yw’r “Rheolydd” ac, fel y cyfryw, ef sy’n gyfrifol yn gyffredinol am brosesu’n gyfreithlon yr holl ddata personol a brosesir gan yr heddlu. Fe’i cynorthwyir gan y “Swyddog Diogelu Data” sy’n rhoi cyngor ac arweiniad mewn perthynas â chyfraith diogelu data.
Y Prif Gwnstabl | Swyddog Diogelu Data |
Matt Jukes
Pencadlys Heddlu De Cymru Heol y Bont-faen Pen-y-bont ar Ogwr CF31 3SU
|
Heddlu De Cymru
Yr Uned Rheoli a Datgelu Data Pencadlys Heddlu De Cymru Heol y Bont-faen Pen-y-bont ar Ogwr CF31 3SU
|
Sut i gyflwyno cwyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth
Pam rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol a ystyrir yn ddata cyffredinol?
Mae Heddlu De Cymru yn prosesu gwybodaeth bersonol am amrywiaeth o resymau nad ydynt yn ymwneud â gorfodi’r gyfraith.
Er enghraifft, rydym yn prosesu data personol at y “dibenion cyfreithlon” canlynol er mwyn:
Cyflawni tasgau a ystyrir yn rhai “Er budd y Cyhoedd”.
Am ba bobl rydym yn dal gwybodaeth bersonol?
Er mwyn cyflawni’r dibenion a ddisgrifir uchod gall Heddlu De Cymru gael, defnyddio a datgelu gwybodaeth bersonol yn ymwneud ag amrywiaeth eang o unigolion gan gynnwys y canlynol:
Pa fath o wybodaeth bersonol rydym yn ei phrosesu?
Bydd y math o wybodaeth bersonol a ddelir gennym yn amrywio, yn dibynnu ar y rheswm rydych wedi dod i gysylltiad â ni ond gall gynnwys y canlynol:
Byddwn yn defnyddio cyn lleied o wybodaeth bersonol â phosibl i gyflawni diben penodol. Gall eich gwybodaeth bersonol gael ei chadw ar system gyfrifiadurol, mewn cofnod papur megis ffeil ffisegol neu ffotograff.
O ble y cawn y wybodaeth bersonol?
Er mwyn cyflawni’r dibenion a ddisgrifiwyd gennym gallwn gael gwybodaeth bersonol o amrywiaeth eang o ffynonellau gan gynnwys y canlynol:
Sut rydym yn ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol?
Rydym yn ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol yn unol â gofynion Rhan 2 o Ddeddf Diogelu Data y DU 2018, sy’n cymhwyso safonau Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yr UE ar gyfer prosesu data a ystyrir yn “ddata cyffredinol”. Mae eich gwybodaeth bersonol, a ddelir ar ein systemau ac yn ein ffeiliau, yn ddiogel a chaiff ei phrosesu gan:
dim ond pan fo angen gwneud hynny at ddiben cyfreithlon.
Byddwn yn sicrhau y caiff eich gwybodaeth bersonol ei thrin yn deg ac yn gyfreithlon. Byddwn yn ceisio sicrhau bod unrhyw wybodaeth bersonol a ddefnyddir gennym neu ar ein rhan o’r ansawdd uchaf o ran cywirdeb, perthnasedd, digonolrwydd ac nad yw’n ormodol, yn cael ei chadw mor gyfredol â phosibl ac yn cael ei ddiogelu’n briodol.
Byddwn yn adolygu’ch data yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod eu hangen o hyd a bod gennym ddiben cyfreithlon i barhau i’w cadw. Os nad oes diben cyfreithlon, yna caiff eich data eu dinistrio’n ddiogel.
Byddwn yn parchu eich hawl i wybodaeth o dan y Ddeddf.
Gyda phwy rydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol?
Er mwyn cyflawni’r dibenion a ddisgrifir, gall Heddlu De Cymru ddatgelu gwybodaeth bersonol i amrywiaeth eang o dderbynwyr, pan fo angen gwneud hynny, gan gynnwys y rhai y ceir data personol oddi wrthynt. Gall hyn gynnwys:
Caiff data personol eu datgelu ar sail achos unigol a dim ond gwybodaeth bersonol, sy’n ymwneud yn benodol â’r diben a’r amgylchiadau a gaiff ei datgelu a bydd rheolaethau angenrheidiol ar waith.
Bydd Heddlu De Cymru hefyd yn datgelu gwybodaeth bersonol i gyrff neu unigolion eraill pan fydd yn ofynnol gwneud hynny, o dan unrhyw ddeddfwriaeth, cyfraith neu orchymyn llys. Gall hyn gynnwys:
Gall Heddlu De Cymru hefyd ddatgelu gwybodaeth bersonol yn ôl ei ddisgresiwn at ddiben unrhyw achosion cyfreithiol neu mewn cysylltiad â nhw, neu er mwyn cael cyngor cyfreithiol.
Sut rydym yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel?
Mae Heddlu De Cymru yn cymryd diogelwch yr holl wybodaeth bersonol sydd o dan ein rheolaeth yn wirioneddol o ddifrif. Byddwn yn cydymffurfio â’r rhannau perthnasol o’r ddeddfwriaeth yn ymwneud â diogelwch, ac yn ceisio cydymffurfio ag arfer awdurdodedig Sicrwydd Gwybodaeth y Coleg Plismona, a’r rhannau perthnasol o Safon Diogelwch Gwybodaeth ISO27001.
Byddwn yn sicrhau bod polisïau a hyfforddiant priodol, yn ogystal â mesurau technegol a gweithdrefnol, ar waith. Bydd y rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i sicrhau bod ein hadeiladau yn ddiogel a bod mesurau ffisegol digonol ar waith i’w diogelu. Dim ond y rhai sydd â phrawf adnabod priodol, a rhesymau dilys dros hynny, a gaiff fynediad i’r ardaloedd sydd ond yn agored i’n swyddogion, ein staff a staff ein hasiantaethau partner. Rydym yn cynnal archwiliadau o ddiogelwch ein hadeiladau er mwyn sicrhau bod diogelwch yn ddigonol. Mae ein systemau yn cyrraedd safonau diogelwch priodol y diwydiant a’r llywodraeth.
Rydym yn cynnal archwiliadau ac arolygiadau rheolaidd, er mwyn diogelu ein systemau gwybodaeth â llaw ac electronig rhag colli a chamddefnyddio data, a dim ond pan fo rheswm dilys dros wneud hynny y byddwn yn caniatáu mynediad atynt. Mae ein gweithdrefnau gweithredol a’n polisïau safonol yn cynnwys canllawiau caeth ynglŷn â sut y gellir defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol a geir ynddynt. Caiff y gweithdrefnau hyn eu hadolygu’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod ein mesurau i ddiogelu gwybodaeth yn gyfredol.
Am faint o amser y byddwch yn cadw fy ngwybodaeth bersonol?
Bydd Heddlu De Cymru yn cadw gwybodaeth bersonol cyhyd ag sy’n angenrheidiol at y diben neu’r dibenion penodol y caiff ei dal.
Caiff cofnodion sy’n cynnwys eich gwybodaeth bersonol sy’n cael ei phrosesu at ddibenion “data cyffredinol” eu rheoli yn unol â Rhestr Gadw Heddlu De Cymru.
Beth yw fy hawl i wybodaeth?
Ceir newid allweddol yn y Ddeddf Diogelu Data newydd yn ymwneud â hawliau unigolion. Mae’r gyfraith yn egluro ac yn ymestyn hawliau a fodolai o dan Ddeddf Diogelu Data 1998, yn ogystal â chyflwyno rhai newydd.
Bydd eich hawl i wybodaeth yn dibynnu ar y rhesymau pam a sut y casglwyd eich gwybodaeth a pham mae’n cael ei defnyddio.
Mae eich hawl i wybodaeth mewn perthynas â data personol, a ystyrir yn “ddata cyffredinol”, fel a ganlyn:
Yr hawl i gael eich Hysbysu – Mae hon yn gosod rhwymedigaeth ar Heddlu De Cymru i ddweud wrthych sut rydym yn cael eich gwybodaeth bersonol ac yn disgrifio sut y byddwn yn ei defnyddio, ei chadw a’i storio a gyda phwy y gallwn ei rhannu.
Rydym wedi paratoi’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn er mwyn esbonio sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol a dweud wrthych beth yw eich hawliau o dan y ddeddfwriaeth.
Hawl Mynediad – Fe’i gelwir yn hawl gwrthrych i weld gwybodaeth fel arfer, sef yr hawl sy’n caniatáu i chi weld eich data personol a gwybodaeth atodol, ond mae’n destun rhai cyfyngiadau.
Yr Hawl i ofyn am Gywiriad – Mae gennych yr hawl i ofyn am i ddata personol gael eu cywiro os yw’r data personol yn anghywir neu’n anghyflawn.
Yr Hawl i Ddileu – Gelwir yr hawl i ddileu yn ‘yr hawl i gael eich anghofio’ hefyd. Mae’r hawl hon yn eich galluogi i ofyn am i ddata personol gael eu dileu neu eu tynnu pan nad oes rheswm cymhellol dros barhau i’w prosesu.
Yr Hawl i Gyfyngu ar Brosesu – Mae gan unigolion yr hawl i atal data personol rhag cael eu prosesu. Pan fydd cyfyngiad ar brosesu, caniateir i sefydliadau storio’r data personol, ond nid eu prosesu ymhellach.
Yr Hawl i Gludadwyedd Data – Mae’r hawl i gludadwyedd data yn caniatáu i chi, mewn rhai achosion, gael ac ailddefnyddio eich data personol at eich dibenion eich hun mewn gwasanaethau gwahanol.
Yr Hawl i Wrthwynebu – Mae gan unigolion yr hawl i wrthwynebu’r canlynol:
Hawliau mewn perthynas â Gwneud Penderfyniadau Awtomataidd – Ystyr gwneud penderfyniadau unigol awtomataidd a phroffilio yw penderfyniad a wneir drwy fodd awtomataidd heb unrhyw ymwneud dynol.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am eich hawl i wybodaeth neu sut i wneud Cais Hawl i Wybodaeth dilynwch y ddolen briodol:
Eich Hawl i Wybodaeth > Gwneud Cais am Wybodaeth a Ddelir Amdanoch ar Systemau Heddlu De Cymru
Pam rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol at ddibenion gorfodi’r gyfraith?
Mae dyletswydd statudol ar Heddlu De Cymru i gynnal y gyfraith, atal troseddau, dod â throseddwyr gerbron llys barn a diogelu’r cyhoedd. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol o dan sail gyfreithlon ‘budd y cyhoedd’ ac ‘awdurdod swyddogol‘. Mae hyn yn golygu ein bod yn prosesu eich gwybodaeth bersonol er mwyn cyflawni tasgau a osodir o dan y gyfraith ac a ddisgrifir ar y cyd fel gweinyddu cyfiawnder.
Mae gweinyddu cyfiawnder yn cynnwys atal a chanfod troseddau; arestio ac erlyn troseddwyr; diogelu bywyd ac eiddo; cadw trefn; cadw cyfraith a threfn; cynorthwyo’r cyhoedd yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r heddlu; diogelwch gwladol; amddiffyn achosion sifil ac unrhyw un o ddyletswyddau neu gyfrifoldebau’r heddlu sy’n codi o gyfraith gyffredin neu statud.
At ddibenion cofnodi troseddau lleol a chudd-wybodaeth mae Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru yn Gyd-Reolydd â Phrif Gwnstabl Heddlu Gwent.
Data personol pwy rydym yn eu prosesu at ddibenion gorfodi’r gyfraith?
Er mwyn cyflawni’r dibenion a ddisgrifir uchod, gall Heddlu De Cymru gael, defnyddio a datgelu gwybodaeth bersonol yn ymwneud ag amrywiaeth eang o unigolion, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
Pa fath o wybodaeth bersonol rydym yn ei phrosesu?
Er mwyn cyflawni ein cyfrifoldeb statudol byddwn yn prosesu amrywiol fathau o ddata personol, gan gynnwys:
Byddwn ond yn defnyddio’r wybodaeth bersonol sydd ei hangen i gyflawni diben neu ddibenion penodol. Gall gwybodaeth bersonol fod yn wybodaeth a ddelir ar gyfrifiadur, mewn cofnod papur megis ffeil neu ddelweddau, ond gall hefyd gynnwys mathau eraill o wybodaeth a ddelir yn electronig megis delweddau teledu cylch cyfyng a fideo o ddyfeisiau a wisgir ar y corff.
O ble y cawn y wybodaeth bersonol?
Daw’r data sy’n cael eu prosesu gennym at ddibenion gorfodi’r gyfraith o amrywiaeth eang o ffynonellau, gan gynnwys:
Weithiau, cawn wybodaeth bersonol o ffynonellau megis heddluoedd eraill a’n systemau ein hunain megis ein system wybodaeth leol.
Sut rydym yn ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol?
Rydym yn ymdrin â gwybodaeth bersonol yn unol â gofynion Rhan 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018. Mae eich gwybodaeth bersonol a ddelir ar ein systemau ac yn ein ffeiliau yn ddiogel a dim ond ar sail “angen gwybod” y caiff ein staff, ein swyddogion neu ein proseswyr data sy’n gweithio ar ein rhan fynediad ati.
Byddwn yn sicrhau y caiff eich gwybodaeth bersonol ei thrin yn gyfreithlon ac yn deg gyda chyfiawnhad priodol. Dim ond at ddibenion cyfreithlon ac mewn cysylltiad â’n gofyniad i gynnal y gyfraith, atal troseddau, dod â throseddwyr gerbron llys barn, a diogelu’r cyhoedd y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth.
Byddwn yn ceisio sicrhau bod unrhyw wybodaeth bersonol a ddefnyddir gennym neu ar ein rhan o’r ansawdd uchaf o ran cywirdeb, perthnasedd, digonolrwydd ac na fydd yn ormodol. Byddwn yn ceisio ei chadw mor gyfredol â phosibl a byddwn yn diogelu’ch data rhag mynediad heb awdurdod a rhag cael eu colli.
Byddwn yn adolygu’ch data yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod eu hangen o hyd a bod gennym ddiben cyfreithlon i barhau i’w cadw. Os nad oes diben cyfreithlon, yna caiff eich data eu dinistrio’n ddiogel.
Gyda phwy rydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol?
Er mwyn galluogi Heddlu De Cymru i gyflawni ei ddyletswydd statudol efallai y bydd angen i ni rannu’ch data â sefydliadau eraill sy’n prosesu data am reswm tebyg, yn y DU a/neu dramor, neu er mwyn cadw pobl yn ddiogel. Mae’r sefydliadu hyn yn cynnwys:
Ystyrir achosion o ddatgelu data personol ar sail unigol, a dim ond drwy ddefnyddio’r data personol sy’n briodol at ddiben ac amgylchiadau penodol, a gyda’r rheolaethau angenrheidiol ar waith.
Mae rhai o’r cyrff neu’r unigolion y gallem ddatgelu gwybodaeth bersonol iddynt wedi’u lleoli y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd – nid oes gan rai ohonynt gyfreithiau sy’n diogelu hawliau diogelu data mor helaeth ag sydd yn y Deyrnas Unedig. Os byddwn yn trosglwyddo data personol i diriogaethau o’r fath, byddwn yn ymrwymo i sicrhau bod mesurau diogelu priodol ar waith i ardystio bod y data personol wedi’u diogelu’n ddigonol yn unol â gofynion y ddeddfwriaeth.
Bydd Heddlu De Cymru hefyd yn datgelu gwybodaeth bersonol i gyrff neu unigolion eraill pan fydd yn ofynnol gwneud hynny, neu o dan unrhyw ddeddfwriaeth, cyfraith neu orchymyn llys. Gall hyn gynnwys:
Sut rydym yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel?
Mae Heddlu De Cymru yn cymryd diogelwch yr holl wybodaeth bersonol sydd o dan ein rheolaeth yn wirioneddol o ddifrif. Byddwn yn cydymffurfio â’r rhannau perthnasol o’r ddeddfwriaeth yn ymwneud â diogelwch, ac yn ceisio cydymffurfio ag arfer awdurdodedig Sicrwydd Gwybodaeth y Coleg Plismona, a’r rhannau perthnasol o Safon Diogelwch Gwybodaeth ISO27001.
Byddwn yn sicrhau bod mesurau polisi, hyfforddiant, technegol a gweithdrefnol priodol ar waith. Bydd y rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i sicrhau bod ein hadeiladau yn ddiogel a bod mesurau ffisegol digonol ar waith i’w diogelu. Dim ond y rhai sydd â phrawf adnabod priodol, a rhesymau dilys dros fynediad, a gaiff fynediad i’r ardaloedd nad ydynt ond yn agored i’n swyddogion a’n staff. Rydym yn cynnal archwiliadau o ddiogelwch ein hadeiladau er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel. Mae ein systemau yn cyrraedd safonau diogelwch priodol y diwydiant a’r llywodraeth.
Rydym yn cynnal archwiliadau ac arolygiadau rheolaidd, er mwyn diogelu ein systemau gwybodaeth â llaw ac electronig rhag colli a chamddefnyddio data, a dim ond pan fo rheswm dilys dros wneud hynny y byddwn yn caniatáu mynediad atynt. Mae ein gweithdrefnau gweithredol a’n polisïau safonol yn cynnwys canllawiau caeth ynglŷn â sut y gellir defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol a geir ynddynt. Caiff y gweithdrefnau hyn eu hadolygu’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod ein mesurau i ddiogelu gwybodaeth yn gyfredol.
Am faint o amser y byddwch yn cadw fy ngwybodaeth bersonol?
Bydd Heddlu De Cymru yn cadw gwybodaeth bersonol cyhyd ag sy’n angenrheidiol at y diben neu’r dibenion penodol y caiff ei dal. Caiff gwybodaeth bersonol a roddir ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu ei chadw, ei hadolygu a’i dileu yn unol â’r Canllawiau Cadw ar gyfer Cofnodion Enwau ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu
Caiff cofnodion eraill sy’n cynnwys eich gwybodaeth bersonol ac a broseswyd at ddibenion gorfodi’r gyfraith eu cadw yn unol â Chanllawiau’r Coleg Plismona ar Reoli Gwybodaeth yr Heddlu (MoPI), a Pholisi Cadw Cofnodion Heddlu De Cymru.
Pa hawliau sydd gennyf?
Ceir newid allweddol yn Neddf Diogelu Data 2018 yn ymwneud â hawliau unigolion. Mae’r gyfraith yn adnewyddu hawliau sy’n bodoli eisoes drwy eu hegluro a’u hymestyn a thrwy gyflwyno hawliau newydd.
Fodd bynnag, bydd eich hawl i wybodaeth yn dibynnu ar y rheswm pam a sut y casglwyd eich gwybodaeth a pham mae’n cael ei defnyddio.
Mae eich hawl i wybodaeth mewn perthynas â’ch data personol a broseswyd at ddibenion gorfodi’r gyfraith fel a ganlyn:
Yr hawl i gael eich Hysbysu – Mae hon yn gosod rhwymedigaeth ar Heddlu De Cymru i ddweud wrthych sut rydym yn cael eich gwybodaeth bersonol ac yn disgrifio sut y byddwn yn ei defnyddio, ei chadw a’i storio a gyda phwy y gallwn ei rhannu.
Rydym wedi paratoi’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn er mwyn esbonio sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol a dweud wrthych beth yw eich hawliau o dan y ddeddfwriaeth
Hawl Mynediad – Fe’i gelwir yn hawl gwrthrych i weld gwybodaeth fel arfer, sef yr hawl sy’n caniatáu i chi weld eich data personol a gwybodaeth atodol, ond mae’n destun rhai cyfyngiadau.
Yr Hawl i ofyn am Gywiriad – Mae gennych yr hawl i ofyn am i ddata personol gael eu cywiro os yw’r data personol yn anghywir neu’n anghyflawn.
Yr Hawl i Ddileu a’r Hawl i Gyfyngu – Mae gennych yr hawl i ofyn am i’ch data personol gael eu dileu neu eu tynnu a/neu’r hawl i atal neu gyfyngu ar brosesu’ch data personol lle nad oes rheswm cymhellol dros barhau i’w prosesu.
Hawliau mewn perthynas â gwneud Penderfyniadau Awtomataidd – Ystyr gwneud penderfyniadau unigol awtomataidd a phroffilio yw penderfyniad a wneir drwy fodd awtomataidd heb unrhyw ymwneud dynol.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am eich hawl i wybodaeth neu sut i wneud Cais Hawl i Wybodaeth dilynwch y ddolen briodol:
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am eich hawl i wybodaeth neu sut i wneud Cais Hawl i Wybodaeth dilynwch y ddolen briodol:
Eich Hawl i Wybodaeth > Gwneud Cais am Wybodaeth a Ddelir Amdanoch ar Systemau Heddlu De Cymru
Sut i gyflwyno cwyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth
Y Comisiynydd Gwybodaeth yw’r awdurdod annibynnol sy’n gyfrifol am sicrhau ein bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data yn y DU. Os bydd gennych bryder ynglŷn â’r ffordd rydym wedi defnyddio’ch gwybodaeth bersonol neu os credwch fod y ffordd rydym wedi ymdrin â’ch data wedi cael effaith andwyol arnoch efallai y byddwch am gysylltu â’r Comisiynydd drwy ddefnyddio’r wybodaeth isod:
Llinell Gymorth | 0303 123 1113 (Oriau agor arferol y swyddfa yw dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm) |
E-bost | casework@ico.org.uk
|
Cyfeiriad | Information Commissioners Office
Wycliffe House Water Lane Wilmslow SK9 5AF
|
Newidiadau i’n Hysbysiad Preifatrwydd
Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd. Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 25 Mai 2018.
Os bwriadwn ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol at ddiben newydd byddwn yn diweddaru ein hysbysiad preifatrwydd ac yn eich hysbysu am y newidiadau cyn dechrau unrhyw brosesu newydd.
© Hawlfraint y Heddlu de Cymru