South Wales Police Crest

South Wales Police

quick exit

Twyll a Sgamiau

Mae rhai pobl yn ceisio manteisio ar yr achosion o coronafeirws (COVID-19). Darllenwch fwy yma.

Os ydych wedi cael eich twyllo, wedi talu gormod am rywbeth neu wedi eich hocedu, gallwch roi gwybod i Action Fraud amdano. Rhowch wybod i’r Action Fraud ar-lein neu ffoniwch 0300 123 2040.

/

Mae twyll wedi dod yn fwy ac yn fwy cyffredin yn ein byd heddiw gyda’r rhyngrwyd yn rhoi mwy o gyfleoedd i droseddwyr dwyllo eraill.

Mae twyllwyr wedi dod o hyd i amrywiaeth o ffyrdd o ddwyn arian o ddioddefwyr, gan gynnwys ar-lein yn ogystal ag all-lein.

Mae twyllwyr hefyd yn defnyddio ffyrdd gwahanol o gyfathrebu â dioddefwyr posibl sy’n cynnwys y canlynol:

  • ffonio pobl yn eu cartrefi neu yn y gwaith,
  • ffonio neu anfon negeseuon testun i ffonau symudol,
  • e-byst ffug ac e-byst gwe-rwydo,
  • defnyddio hunaniaeth ffug ar wefannau caru a gwefannau eraill,
  • sefydlu gwefannau ffug,
  • sefydlu proffiliau Facebook neu gyfryngau cymdeithasol ffug,
  • postio llythyrau i gartrefi sy’n honni bod arian yn ddyledus ganddynt,
  • esgus bod yn elusen a churo ar ddrysau cartrefi i ofyn am roddion,
  • esgus bod yn gwmnïau telathrebu, cwmnïau gwasanaeth rhyngrwyd, cwmnïau cyfleustodau, banciau neu sefydliadau ariannol eraill megis cymdeithasau adeiladu neu Paypal

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am dwyll ar wefan Action Fraud.

Mae twyllwyr yn defnyddio ffyrdd cynyddol soffistigedig i fanteisio ar eu dioddefwyr. Maent yn targedu’r rheini sy’n agored i niwed yn eu tyb nhw – gan gynnwys pobl oedrannus a’r rheini sy’n byw ar eu pennau eu hun.

Ni ddylech deimlo cywilydd os ydych wedi cael eich twyllo. Mae twyllwyr yn glyfar iawn ac yn rhoi cynnig ar bethau newydd o hyd, ac yn aml iawn maent yn dibynnu ar ewyllys da ac ymddiriedaeth eraill i gyflawni eu troseddau. Ni ddylech deimlo cywilydd os ydych wedi camgymryd rhywbeth, ond os bydd hyn yn digwydd i chi rhowch wybod i ni amdano fel y gallwch gael cymorth a helpu eraill i osgoi’r un twyll yn y dyfodol.

Cofiwch ein cyngor defnyddiol:

  • Os bydd rhywbeth yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, mae’n debygol mai dyna yw’r gwirionedd
  • Ni fydd y banciau na’r heddlu byth yn eich ffonio i ofyn am eich manylion personol
  • Peidiwch â datgelu’ch PIN i neb, a pheidiwch â’i gofnodi ar ffôn
  • Peidiwch â theimlo dan bwysau i wneud penderfyniad cyflym. Ni fydd gwahaniaeth gan sefydliad dilys i roi amser i chi feddwl
  • Os oes gennych amheuon, ffoniwch rywun rydych yn ei adnabod yn bersonol am gyngor
  • Peidiwch â chlicio ar ddolenni mewn e-byst gan anfonwyr anhysbys
  • Rhowch wybod am unrhyw amheuon i Action Fraud, neu ffoniwch 101
  • Cadwch lygad am anwyliaid Os ydynt yn derbyn llawer o bost, neu os yw ei ffôn yn canu’n aml, neu os ydynt yn gyfrinachol ynglŷn â’u cyllid, yna rhowch wybod am eich amheuon

 

Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich twyllo, hyd yn oed os na fu’n llwyddiannus, rhowch wybod amdano. Os na fyddwch yn gwneud hyn, bydd y twyllwyr yn dysgu o’r profiad ac efallai y bydd yn llwyddiannus y tro nesaf.

Action Fraud

Action Fraud yw canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll a throseddau sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd. Gall roi gwybodaeth am dwyll a throseddau sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd sydd wedi’u cymell gan arian. Os ydych wedi cael eich twyllo, wedi talu gormod am rywbeth neu wedi eich hocedu, gallwch roi gwybod i Action Fraud amdano. Rhowch wybod i’r Action Fraud ar-lein neu ffoniwch 0300 123 2040.

Citizens Advice

Gall Cyngor ar Bopeth eich helpu i ddatrys eich problemau cyfreithiol ac ariannol a phroblemau eraill gan roi cyngor am ddim sy’n annibynnol ac yn gwbl gyfrinachol. Am fwy o wybodaeth ewch i’w gwefan neu ffoniwch y llinell gymorth ar 03454 04 05 06.

Crimestoppers

Os oes unrhyw wybodaeth gennych am unrhyw droseddau neu os byddai’n well gennych beidio â siarad â’r heddlu, gallwch ffonio Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111 neu ewch i crimestoppers-uk.org/cy

 

Twyllwyr yn Dynwared Swyddogion yr Heddlu

Mae sgam ar gynnydd lle mae troseddwyr yn dynwared swyddogion heddlu ac yn gofyn i’w dioddefwyr gymryd rhan mewn ymgyrch gudd ffug.

Mae twyllwyr yn cysylltu ag aelodau’r cyhoedd, fel arfer dros y ffôn, yn honni mai’r heddlu ydynt, neu mewn rhai achosion, dîm twyll o’u banc. Mae’r troseddwr yn honni ei fod yn ymchwilio i achos o dwyll mewn cangen banc leol lle amheuir staff o weithredu’n dwyllodrus, gan gynnwys dosbarthu arian papur ffug, ac yn gofyn i’w darged helpu yn yr ymgyrch.

Fel rhan o’r sgam, gofynnir i’r unigolyn ymweld â’r gangen a chodi swm sylweddol o’r arian parod ffug honedig, miloedd o bunoedd yn aml, er mwyn ei drosglwyddo i’r ‘heddlu’ i’w ‘ddadansoddi’. Rhoddir sicrwydd i’r dioddefwr y caiff yr arian ei roi yn ôl yn ei gyfrif ar ôl diwedd yr ymgyrch. Fodd bynnag, unwaith y trosglwyddir yr arian, mae’r twyllwr yn diflannu gyda’r arian parod.

Mae’r troseddwr yn dweud wrth ei ddioddefwr am beidio trafod yr achos ag unrhyw un yn y gangen, gan gynnig eglurhad credadwy ynghylch pam ei fod yn codi’r arian. O ganlyniad, er ei fod yn cael ei holi gan staff y banc, mae’r dioddefwr, sy’n argyhoeddedig bod y staff yn rhan o dwyll, yn codi’r arian parod.

Mewn fersiwn arall o’r sgam, mae’r troseddwr yn perswadio’r dioddefwr i drosglwyddo arian i ‘gyfrif diogel’ honedig er mwyn gwarchod ei arian rhag staff ‘twyllodrus’ y banc. Fodd bynnag, y troseddwr sy’n rheoli’r cyfrif hwnnw mewn gwirionedd.

Ni fydd yr heddlu na banciau byth yn gofyn i aelodau’r cyhoedd fod yn rhan o ymgyrch gwrth-dwyll na throsglwyddo arian i ‘gyfrif diogel’ am resymau’n ymwneud â thwyll.

Darllenwch fwy am sut i ddiogelu eich hun rhag y math hwn o dwyll a beth i’w wneud os ydych yn ddioddefwr

Twyll CThEM a Chardiau Rhodd iTunes

Mae twyllwyr sy’n honni eu bod yn gweithio i CThEM yn cysylltu â dioddefwyr mewn amrywiaeth o ffyrdd ac yn sôn wrthynt fod arnynt ddyled heb ei thalu iddynt.

Yn aml, mae twyllwyr yn gofyn am daliad ar ffurf cardiau rhodd neu godau talebau iTunes oherwydd bod modd eu cyfnewid a’u gwerthu’n hawdd. Nid oes angen y cerdyn go iawn ar dwyllwyr er mwyn iddynt eu cyfnewid. Yn hytrach, maent yn perswadio’r dioddefwr i ddarllen y cod cyfresol ar gefn y cerdyn dros y ffôn.

Mae twyllwyr yn cysylltu â dioddefwyr mewn tair ffordd:

Negeseuon llais: Mae twyllwyr yn gadael negeseuon llais awtomataidd i’w dioddefwyr, yn dweud bod arnynt drethi heb eu talu i CThEM. Pan fo dioddefwyr yn ffonio’r rhif a ddarperir, maent yn clywed eu bod dan warant, ac y bydd yr heddlu yn eu harestio os na fyddant yn talu.

Galwadau ffug: Mae twyllwyr yn gwneud galwadau diwahoddiad gan ddefnyddio rhif 0300 200 3300 ffug ac yn perswadio’r dioddefwyr bod arnynt dreth heb ei thalu i CThEM.

Negeseuon testun: Mae twyllwyr yn anfon negeseuon testun sy’n gofyn i ddioddefwyr ffonio’r rhif a ddarperir yn syth. Pan fo’r dioddefwyr yn ffonio, maent yn clywed bod achos yn cael ei baratoi yn eu herbyn am ddyled heb ei thalu a bod rhaid iddynt dalu ar unwaith.

Dywedodd un dioddefwr iddo brynu dros 15 o dalebau cardiau rhodd iTunes o Argos am £100 yr un a’u trosglwyddo i dwyllwyr dros y ffôn ar ôl derbyn neges llais awtomataidd. Gwnaeth dioddefwr arall drosglwyddo codau talebau cerdyn rhodd gwerth £15,000 ar ôl derbyn galwad ddiwahoddiad.

Sut y gallwch ddiogelu eich hun:

  • Ni fydd CThEM byth yn defnyddio neges destun i roi gwybod i chi am ad-daliad treth neu ddirwy na byth yn gofyn am daliad drwy’r dull hwn.
  • Gellir ffugio rhifau ffôn a negeseuon testun yn hawdd. Dylech byth gredu’r rhif ffôn a welwch ar sgrin arddangos eich ffôn.
  • Os byddwch yn cael galwad ddiwahoddiad amheus, dewch â’r alwad i ben ar unwaith.

Twyll Stepen y Drws

Mae crefftwyr lleol ffug, gwerthu o ddrws i ddrws neu dwyll stepen y drws yn cynnwys twyllwyr sy’n ceisio eich twyllo ar ôl cnocio ar eich drws.

Mae gwerthu dilys ar stepen y drws yn cynnwys rhywun yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau i chi yn eich cartref neu ar stepen eich drws. Mae llawer o fusnesau gonest yn defnyddio’r dechneg hon – ond mae twyllwyr yn ei defnyddio hefyd.

Gall prynu ar stepen eich drws fod yn gyfleus. Er hyn, gall gwerthwr sy’n defnyddio tactegau clyfar eich rhoi dan bwysau i brynu rhywbeth nad ydych ei eisiau neu rywbeth nad yw’n werth yr arian.

Darllenwch fwy am sut i ddiogelu eich hun rhag y math hwn o dwyll a beth i’w wneud os ydych yn ddioddefwr

Twyll Pensiwn

Mae twyllwyr pensiwn yn addo i drosi cronfeydd pensiwn yn arian parod cyn ymddeol, neu mewn rhai achosion efallai y byddant yn awgrymu y gall pobl dynnu mwy na 25% o’i pot pensiwn fel arian parod. Mae twyllwyr pensiwn yn addo i drosi buddiannau pensiwn yn arian parod cyn 55 oed.

Credir bod troseddwyr yn cam-fanteisio ar y broses o ryddid pensiwn mewn nifer o ffyrdd drwy dwyll. Mae’r rhain yn cynnwys methiant i hysbysu aelodau am oblygiadau treth os ydych yn derbyn arian parod o bensiwn; methiant i hysbysu aelodau am y ffioedd llawn sydd angen eu talu mewn perthynas ag unrhyw fuddsoddiad o hynny ymlaen; dweud anwiredd am dan yr enillion a ragwelir nad yw buddsoddiadau’n bodoli mewn gwirionedd neu ni allent roi enillion o’r fath.

Cadarnhewch y ffeithiau cyn i chi wneud penderfyniad di-droi’n-ôl. Gellir colli cynilion oes mewn eiliad.

Pum cam y Rheoleiddiwr Pensiynau er mwyn osgoi bod yn ddioddefwr twyll pensiwn:

  • Os cewch alwad ddiwahoddiad am eich pensiwn– dewch â’r alwad ffôn i ben ar unwaith!
  • Cadarnhewch gefndir y cwmni ac unrhyw gynghorwyr – a ddylai fod wedi’u cofrestru â’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
  • Gofynnwch am gyfriflen sy’n dangos sut bydd eich pensiwn yn cael ei dalu ar adeg ymddeol, a gofynnwch am bwy fydd yn gofalu am eich arian tan hynny.
  • Siaradwch â chynghorydd nad yw’n gysylltiedig â’r cynnig am gyngor diduedd.
  • Peidiwch â theimlo dan bwysau i gytuno i drosglwyddo pensiwn.

I gael rhagor o wybodaeth am dwyll pensiwn, ewch i wefan y Rheoleiddiwr Pensiynau.

Cyn i chi lofnodi unrhyw beth, ffoniwch y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau ar 0300 123 1047.

Darllenwch fwy am sut i ddiogelu eich hun rhag y math hwn o dwyll a beth i’w wneud os ydych yn ddioddefwr

Twyll Marchnata Torfol

Twyll Marchnata Torfol yw pan fyddwch yn cael cyswllt diwahoddiad drwy e-bost, llythyr, ffôn neu hysbysebion, gan wneud addewidion ffug i’ch twyllo i roi arian.

Mae twyllwyr marchnata torfol yn ceisio denu dioddefwyr drwy addewidion ffug o wobrau arian sylweddol, nwyddau neu wasanaethau yn gyfnewid am ffioedd ymlaen llaw, neu fel y maent yn eu galw yn drethi neu roddion.

Darllenwch fwy am sut i ddiogelu eich hun rhag y math hwn o dwyll a beth i’w wneud os ydych yn ddioddefwr

Twyll Buddsoddiad

Pan fyddwch yn cael galwad ddiwahoddiad gan frocer yn esgus cynnig cyfle i chi fuddsoddi mewn amrywiaeth o gynlluniau neu gynhyrchion sydd naill ai’n ddiwerth neu ddim yn bodoli.

Caiff hyn ei adnabod hefyd fel twyll gwerthu cyfranddaliadau, twyll cronfa ragfantoli, twyll bancio tir neu dwyll bondiau. Caiff y rhan fwyaf o dwyll buddsoddi ei redeg o swyddfeydd a adnabyddir fel ystafelloedd ‘boeler’ fel arfer.

Digwydd hyn pan fyddwch yn cael galwad gan frocer sy’n ymddangos yn broffesiynol yn cynnig cyfleoedd buddsoddi i chi sydd â’r potensial i wneud elw gwych. Fel arfer maent yn cynnig gwerthu eich cyfranddaliadau neu’ch bondiau, ond gallent hefyd gynnig buddsoddiadau eraill hefyd megis metelau gwerthfawr e.e. aur, arian neu ddiemwnt neu win, celf neu ynni.

Mewn gwirionedd, mae’r twyllwyr yn ffonio cynifer o bobl â phosibl yn ddiwahoddiad i dalu am fuddsoddiadau ffug. Unwaith i’r twyllwyr eich darbwyllo i fuddsoddi cymaint o arian ag sy’n bosibl, maent yn diflannu’n gyflym cyn i chi ddisgwyl derbyn yr arian ychwanegol rydych wedi’i ennill o’ch buddsoddiad.

Darllenwch fwy am sut i ddiogelu eich hun rhag y math hwn o dwyll a beth i’w wneud os ydych yn ddioddefwr

Twyll Dros y Ffôn

Mae twyll dros y ffôn yn cynnwys amrywiaeth o sgamiau sydd naill ai’n eich darbwyllo i brynu nwyddau neu wasanaethau dros y ffôn sy’n is na’r safon neu ddim yn bodoli; neu i wneud galwadau ffôn neu i anfon negeseuon testun i wasanaethau premiwm ar ddamwain; neu i gofrestru i gael gwasanaethau tanysgrifio drud heb yn wybod i chi.

Gall y rhain gynnwys sgamiau drwy alwadau a fethwyd gennych, negeseuon sydd wedi’u recordio, negeseuon testun, caniadau ffôn neu drwy yswiriant ffôn.

Darllenwch fwy am sut i ddiogelu eich hun rhag y math hwn o dwyll a beth i’w wneud os ydych yn ddioddefwr

Twyll Trefnu Cyfarfod a Rhamant

Twyll rhamant yw pan fyddwch yn credu eich bod wedi dod o hyd i’r partner perffaith drwy wefan neu ap trefnu cyfarfod, ond mae’r person arall yn defnyddio proffil ffug i ffurfio perthynas â chi. Mae’n defnyddio’r safle i ennyn eich ymddiriedaeth ac i ofyn i chi am arian neu am ddigon o wybodaeth bersonol i ddwyn eich hunaniaeth.

Mae’r mwyafrif o’r cyfrifon ar wefannau trefnu cyfarfod yn perthyn i bobl ddiffuant sy’n chwilio am ramant o ddifrif, ond gall twyllwyr geisio cysylltu â chi drwy greu proffiliau ffug a chreu perthynas â chi sy’n ymddangos yn gariadus.

Darllenwch fwy am sut i ddiogelu eich hun rhag y math hwn o dwyll a beth i’w wneud os ydych yn ddioddefwr

Twyll Hunaniaeth

Gellir disgrifio twyll hunaniaeth fel y defnydd o hunaniaeth a ddygwyd mewn gweithgaredd troseddol er mwyn cael nwyddau neu wasanaethau drwy dwyll.
Gall twyllwyr ddefnyddio’ch manylion personol i wneud y canlynol:

  • Agor cyfrifon banc.
  • Cael cardiau credyd, benthyciadau a budd-daliadau’r wladwriaeth.
  • Archebu nwyddau yn eich enw chi.
  • Meddiannu eich cyfrifon presennol.
  • Trefnu contractau ffôn symudol.
  • Cael dogfennau gwirioneddol yn eich enw chi megis pasbortau a thrwyddedau gyrru.
  • Nid yw dwyn manylion personol unigolion yn gyfystyr â thwyll hunaniaeth ynddo’i hun. Ond os defnyddir yr hunaniaeth honno ar gyfer unrhyw un o’r gweithgareddau uchod, yna caiff ei ystyried yn dwyll hunaniaeth.

Efallai na fyddwch yn sylweddoli ei fod wedi digwydd nes eich bod yn derbyn biliau neu anfonebau am bethau nad ydych wedi’u harchebu, neu os byddwch yn derbyn llythyrau gan gasglwr dyledion am ddyledion nad ydynt yn perthyn i chi.

Darllenwch fwy am sut i ddiogelu eich hun rhag y math hwn o dwyll a beth i’w wneud os ydych yn ddioddefwr

Twyll Bancio a Chardiau Credyd

Mae twyll cerdyn banc a siec yn digwydd pan fydd troseddwyr yn dwyn eich cardiau neu eich llyfr sieciau ac yn cael gafael ar arian yn eich cyfrif.

Mae troseddwyr yn dwyn eich cardiau banc neu eich llyfr sieciau; neu maent yn cael gafael ar fanylion eich cerdyn neu eich cyfrif, sy’n eu galluogi i godi arian o’ch cyfrif neu gael credyd yn eich enw chi. Fel arfer, byddwch yn sylwi ar hyn drwy weld trafodion anghyfarwydd ar eich cyfriflenni, neu sylwi eich bod wedi mynd y tu hwnt i derfyn eich gorddrafft neu eich terfyn credyd yn sydyn a chaiff eich cerdyn ei wrthod pan fyddwch yn ceisio prynu rhywbeth.

Darllenwch fwy am sut i ddiogelu eich hun rhag y math hwn o dwyll a beth i’w wneud os ydych yn ddioddefwr

Twyll Cludo

Pan fyddwch yn cael galwad gan rywun sy’n honni eu bod o’ch banc neu eich cymdeithas adeiladu a phan fyddwch yn cael eich darbwyllo i roi eich manylion banc iddynt dros y ffôn. Byddant yn trefnu bod cludwr yn dod i gasglu eich cerdyn a’i gymryd fel tystiolaeth neu i’w ddinistrio.

Mewn gwirionedd, caiff y cerdyn ei gasglu gan y twyllwyr i dynnu arian o’ch cyfrif.

Darllenwch fwy am sut i ddiogelu eich hun rhag y math hwn o dwyll a beth i’w wneud os ydych yn ddioddefwr

Twyll Eiddo

Fel arfer eiddo yw’r ased mwyaf gwerthfawr mae pobl yn berchen arno. Gellir ei werthu a threfnu morgais arno i godi arian ac felly gallai fod yn darged deniadol i dwyllwyr. Mae’r math o dwyll rydym yn ei weld fel arfer yn ymwneud ag achosion lle mae twyllwyr yn dwyn eich hunaniaeth yn gyntaf ac yna’n gwerthu neu’n trefnu morgais ar eich eiddo gan esgus mai chi ydynt. Os nad yw’n cael ei ddarganfod yn fuan, gallech chi fel gwir berchennog yr eiddo weld bod eich eiddo wedi ei drosglwyddo neu ei werthu heb i chi wybod. Gall datrys y llanastr a thynnu unrhyw forgais oddi ar y gofrestr fod yn ofidus, yn llafurus ac yn gostus.

Pa mor gyffredin ydyw?

Diolch byth, mae’r math hwn o dwyll yn eithaf anghyffredin, ond os ydych yn ddigon anffodus i’w ddioddef, gall gael effeithiau ofnadwy. Dyna pam bod ei atal yn well na’i ddatrys.

Beth y gall pobl ei wneud i ddiogelu eu hunain?

Dyma ychydig o opsiynau:

  • Sicrhewch fod eich eiddo wedi ei gofrestru. Os ydych yn ddioddefwr diniwed twyll ac yn dioddef colled ariannol o ganlyniad, gallwch gael iawndal. Os nad yw eich eiddo wedi’i gofrestru, yna nid yw’r iawndal yn daladwy. Ymchwiliwch i’r sefyllfa o ran cofrestru tir
  • Unwaith y byddwch wedi cofrestru, sicrhewch fod eich manylion cyswllt yn gyfredol fel bod modd cysylltu â chi’n hawdd. Gallwch gael hyd at dri chyfeiriad ar y gofrestr yn cynnwys cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad dramor. Os nad yw eich manylion yn gyfredol, efallai na fyddwch yn derbyn llythyr neu e-bost y Gofrestrfa Dir os byddant yn ceisio cysylltu â chi.
  • Cofrestrwch ar gyfer gwasanaeth Rhybudd Eiddo y Gofrestrfa Dir sydd am ddim ac sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n helpu i ddiogelu perchnogion yn erbyn twyll eiddo. Byddant yn anfon e-bost rhybudd i chi pan geir gweithgarwch penodol ar yr eiddo a gaiff ei fonitro e.e. os bydd rhywun yn ceisio trefnu morgais arno. Os byddwch yn derbyn rhybudd, gallwch benderfynu p’un a yw’r gweithgarwch yn amheus a chael cyngor pellach – gov.uk/property-alert
  • Gall perchnogion sy’n teimlo y gall fod risg i’w heiddo drefnu cyfyngiad ar eu heiddo. Bwriad cyfyngiad yw atal gweithgarwch ar eich eiddo, megis trosglwyddiad neu forgais, oni bai bod trawsgludwr neu gyfreithiwr yn cadarnhau bod y cais wedi ei wneud gennych chi. Nid oes tâl i berchnogion tai gofrestru’r cyfyngiad hwn ar yr amod nad ydynt yn byw yn yr eiddo maent am ei ddiogelu. Gwneud cais am gyfyngiad

Pwy sy’n wynebu’r perygl mwyaf o dwyll eiddo?

Rydych yn wynebu mwy o risg os yw eich eiddo:

  • yn cael ei rentu
  • yn wag, os yw’r perchennog dramor neu mewn cartref gofal er enghraifft
  • yn ddi-forgais
  • heb ei gofrestru gyda’r Gofrestrfa Dir

Os ydych yn credu y gallech chi fod wedi ddioddef twyll eiddo, dylech:

  • Gysylltu â’r llinell twyll eiddo ar 0300 006 7030 (o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am i 5pm) neu e-bostio reportafraud@landregistry.gov.uk
  • Cysylltu â pherson cyfreithiol proffesiynol fel cyfreithiwr neu Cyngor ar Bopeth ac Action Fraud (actionfraud.police.uk)

Am ragor o wybodaeth: www.gov.uk/propertyfraud

****

Heddlu De Cymru: polisi twyll