Difrod troseddol yw difrod bwriadol neu faleisus i gartref, eiddo arall neu gerbydau ac mae’n cynnwys graffiti. Tanau bwriadol yw cynnau tân yn fwriadol mewn eiddo, yn cynnwys adeiladau a cherbydau.
Mae rhai pethau y gallwch eu gwneud er mwyn helpu i atal difrod troseddol pellach ac ymosodiadau o danau bwriadol:
Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob tro.
Dylid defnyddio’r rhif 999 mewn sefyllfaoedd argyfwng, felly pan fydd trosedd yn cael ei chyflawni, pan fydd unigolyn dan amheuaeth o gyflawni trosedd gerllaw, pan fydd perygl i fywyd neu pan gaiff trais ei fygwth.
Dylid defnyddio’r rhif ffôn 101 i roi gwybod am droseddau nad ydynt yn rhai brys ac ar gyfer ymholiadau cyffredinol. Dyma’r rhif y dylech ei ffonio os bydd eich car yn cael ei ddwyn er enghraifft, neu os ydych am roi gwybod am rywun sy’n defnyddio neu’n gwerthu cyffuriau, os bydd niwed i’ch eiddo neu os hoffech siarad â swyddog.
© Hawlfraint y Heddlu de Cymru