South Wales Police Crest

Heddlu De Cymru

Cyffuriau
  • Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 yw’r brif ddeddfwriaeth sy’n cwmpasu cyffuriau. Mae’n pennu categorïau gwahanol i gyffuriau a elwir yn Ddosbarth A, B a C. Gelwir cyffuriau a gaiff eu rheoleiddio yn y ffordd hon yn sylweddau ‘a reolir’. Ystyrir cyffuriau Dosbarth A fel y cyffuriau mwyaf niweidiol. O dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau, ystyrir y canlynol yn droseddau:
  • meddu ar sylwedd a reolir
  • meddi ar sylwedd a reolir gyda’r bwriad o’i gyflenwi
  • cyflenwi cyffur a reolir yn anghyfreithlon (hyd yn oed os na chaiff tâl ei godi am y cyffur)
  • caniatáu i safle rydych yn byw arno neu’n ei reoli gael ei ddefnyddio at ddibenion cymryd cyffuriau

Adnabod arwyddion cymryd cyffuriau

Noder mai dim ond rhai o arwyddion cymryd cyffuriau a nodir isod ac na ddylid eu hystyried yn dystiolaeth ddiamod o gamddefnyddio cyffuriau:

  • Newidiadau sydyn mewn hwyliau ac ymddygiad (annibynadwy, blin, oriog, gorfywiog, aflonyddwch ac ati)
  • Dirywiad mewn ymddangosiad, iechyd a hylendid personol
  • Yn blino’n hawdd neu wedi blino’n gyson
  • Cyfrinachgarwch
  • Iselder
  • Cynnydd mewn absenoldeb o’r gwaith
  • Colli chwant bwyd
  • Dwyn arian neu nwyddau
  • Gwario neu fenthyg arian yn eithafol
  • Cyfeillgarwch a pherthnasau hirdymor yn dirywio

Ceisiwch Gymorth

  • Poeni am blentyn? Cyngor i rieni a gofalwyr
  • Poeni am ffrind? Dyma sut y gallwch ei helpu
  • Mae llinell gymorth Frank yn rhoi cyngor, yn cwnsela ac yn atgyfeirio at wasanaethau arbenigol yn gyfrinachol ac am ddim 24 awr y dydd. Mae gan wefan Talk to Frank hefyd gyfleuster ar gyfer dod o hyd i sefydliadau yn eich ardal leol a all eich helpu.

Rhoi gwybod am drosedd yn ymwneud â chyffuriau

Rydym yn gweithio tuag at dorri’r cysylltiad rhwng defnydd o gyffuriau a throsedd, ond mae angen eich help arnom. Os ydych yn poeni am ddefnydd o gyffuriau yn eich ardal, ni waeth pa mor fach ydyw, hoffem wybod amdano. I roi gwybod am weithgarwch yn ymwneud â chyffuriau, ffoniwch 101, neu ffoniwch Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111 neu rhowch wybod ar-lein.

MENU