Beth yw Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant?
Mae camfanteisio’n rhywiol ar blant yn gyfystyr â cham-drin plant. Caiff dioddefwyr eu defnyddio neu eu gorfodi i gymryd rhan mewn gweithred rywiol, yn aml yn gyfnewid am sylw, anwyldeb, arian, cyffuriau, alcohol neu lety.
Gall unrhyw berson ifanc o unrhyw gefndir fod yn destun camfanteisio rhywiol. Mae’n digwydd i fechgyn a dynion ifanc yn ogystal â merched a menywod ifanc.
Nid yw plant a phobl ifanc yn cymryd rhan yn wirfoddol – cânt eu gorfodi i gymryd rhan gan oedolion neu gyfoedion treisgar sy’n cyflwyno eu hunain fel ‘ffrind’ neu ‘gariad’.
Gall pobl ifanc gael eu targedu gan y sawl sy’n eu cam-drin ar-lein neu wyneb yn wyneb.
Arwyddion o gamfanteisio’n rhywiol ar blant
Yn aml, nid yw plant a phobl ifanc sy’n destun camfanteisio rhywiol yn gwybod bod rhywun yn camfanteisio arnynt. Fodd bynnag, mae nifer o arwyddion sicr y gall plentyn fod yn cael ei baratoi ar gyfer camfanteisio rhywiol. Mae’r rhain yn cynnwys:
Gall rhywbeth sy’n ymddangos yn ddiniwed fod yn arwydd bod rhywun yn camfanteisio’n rhywiol ar blentyn. Edrychwch ar y graffig rhyngweithiol gan Rwydwaith Mynd i’r Afael â Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant NWG a all eich helpu i ddod o hyd i arwyddion gweladwy o gamfanteisio rhywiol.
Rhowch wybod amdano
Pwysig: Os ydych yn gwybod neu’n amau bod plentyn mewn perygl uniongyrchol, dylech ddeialu 999 yn syth.
Os ydych yn amau y gall plentyn fod mewn perygl, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant, byddai’n well gennym siarad â chi dros y ffôn (gallwch ein ffonio ar 101) neu wyneb yn wyneb.
Siaradwch â’r heddlu. Byddwn yn gwrando arnoch, yn eich cymryd o ddifrif ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch helpu.
Fel arall, os hoffech roi gwybodaeth yn ddienw, ffoniwch Taclo’r Tacle ar 0800 555 111 neu cwblhewch y ffurflen ar-lein.
Os bydd rhywun wedi ymddwyn yn amhriodol ar-lein tuag atoch chi neu tuag at blentyn, person ifanc neu rywun rydych yn ei adnabod, gallwch roi gwybod amdano i’r heddlu, drwy fynd i ganolfan ddiogelwch CEOP.
© Hawlfraint y Heddlu de Cymru