Mae Canolfan Treftadaeth Heddlu De Cymru yn ail-greu hanes plismona yn Ne Cymru. O'r oes Geltaidd hyd heddiw, rydym yn adrodd straeon diddorol swyddogion De Cymru ar hyd y degawdau. Cewch gyfle i weld gwisg cwnstabl Fictorianaidd; dysgu am ddyletswyddau anodd swydogion Morgannwg yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a gweld rhai o'r arfau a ddefnyddiwyd yn erbyn yr heddlu. Mae ein horielau yn cynnwys amrywiaeth o arteffactau, gan gynnwys lifrai ac offer yr heddlu dros y blynyddoedd, megis gefynnau, radios a lifrai arwisgedig Prif Gwnstabliaid o'r 19eg ganrif. Mae gennym hefyd Ystafell Gyhuddo i dderbyn pobl i'r ddalfa yn ein hamgueddfa, yn ogystal â chell i unrhyw ymwelydd sy'n torri'r gyfraith!