Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi wedi bod yn rhan mewn gwrthdrawiad ar y ffordd, neu’n credu eich bod efallai’n dyst i drosedd ar y ffordd, gallwch ganfod sut i riportio hyn gan ddefnyddio ein hofferyn ar-lein syml. Atebwch y cwestiynau cyflym isod er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r cyngor iawn i chi ac yn casglu’r holl fanylion perthnasol.
Riportio gwrthdrawiad traffig ffyrdd gyda throsedd bosibl ond dim tystiolaeth
Diolch am gysylltu.
Os ydych wedi cyfnewid manylion gyda’r bobl oedd yn rhan o’r gwrthdrawiad, nid oes yn rhaid i chi ddweud wrth yr heddlu. Gweler Adran 170 Deddf Traffig Ffyrdd 1988 am ragor o fanylion.
Fodd bynnag, os ydych chi’n credu bod un o’r bobl oedd yn rhan o’r gwrthdrawiad wedi cyflawni trosedd, gallwch riportio hyn gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein isod.
Sylwer: os nad oes tystiolaeth gefnogi o’r digwyddiad yn digwydd mae’n annhebygol y byddwn yn gallu erlyn am drosedd yrru, ond dylech ei riportio wrthym beth bynnag a byddwn yn edrych ar y wybodaeth yn eich adroddiad a gweithredu os gallwn. Os na allwn weithredu ar hyn o bryd ond y bydd tystiolaeth neu wybodaeth newydd yn dod i’r amlwg, efallai y byddwn yn cysylltu â chi ac ymchwilio ymhellach.
Cliciwch ‘Cychwyn’ isod a rhoi cymaint o fanylion ag y gallwch.
Cyfartaledd amser cwblhau: deg munud
Gwnewch yn siŵr bod y manylion canlynol gennych os yn bosibl:
Sylwch: Os gwnaethoch chi gyflwyno adroddiad digwyddiad traffig ffyrdd ar y wefan hon, byddwch yn gallu lawrlwytho copi o'ch adroddiad ar ôl ichi ei gyflwyno. Adroddiad gwrthdrawiad yw'r adroddiad hwnnw. Yna gallwch anfon yr adroddiad at eich cwmni yswiriant neu’ch cyfreithiwr.
Cychwyn