Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi wedi bod yn gysylltiedig â digwyddiad traffig ffyrdd, neu'n credu y gallech fod wedi bod yn dyst i drosedd ar y ffyrdd, dysgwch sut i riportio’r peth drwy ddefnyddio’n hadnodd ar-lein syml. Atebwch y cwestiynau cyflym isod i sicrhau ein bod yn rhoi'r cyngor cywir ichi ac yn casglu'r holl fanylion perthnasol.
Riportiwch drosedd traffig ffordd heb dystion na thystiolaeth
Diolch. Os oeddech yn gysylltiedig â gwrthdrawiad fel gyrrwr neu feiciwr, mae’n rhaid i chi riportio’r digwyddiad yn bersonol i’r heddlu eich hun cyn gynted â phosibl ac, mewn unrhyw achos, o fewn 24 awr i’r gwrthdrawiad. Ni all unrhyw un arall wneud hyn i chi.
Gweler y Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988, Adran 170 am fanylion pellach.
Rhowch gymaint o fanylion ag y gallwch am y digwyddiad.
Gallwch ei riportio:
Gwnewch yn siŵr bod y manylion canlynol ar gael, os yn bosibl:
Er nad ydym yn gyffredinol yn gweithredu lle nad oes tystiolaeth gefnogol na thystion annibynnol i'r digwyddiad traffig ar y ffyrdd, bydd eich adroddiad yn cael ei ddefnyddio i wella'r wybodaeth sydd gennym am droseddau traffig a gallai ein helpu i ddatrys y mater rydych wedi'i godi.
Amser cwblhau ar gyfartaledd: ten munud.
Pan fyddwch chi'n barod, cliciwch 'Dechrau' i gychwyn.
Dechrau