Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gallwch riportio ymosodiad rhywiol neu dreisio a ddigwyddodd ar unrhyw adeg i ni, hyd yn oed os oedd fisoedd, blynyddoedd neu ddegawdau yn ôl. Rydym yn cymryd pob adroddiad o ddifrif, ni waeth faint o amser sydd wedi mynd heibio.
Rydyn ni’n yn deall bod llawer o resymau pam nad yw rhywun efallai'n teimlo'n barod i ddweud wrth neb am yr hyn sydd wedi digwydd ar unwaith. Rydyn ni hefyd yn gwybod ei bod yn gyffredin i oroeswyr gymryd amser i sylweddoli bod yr hyn sydd wedi digwydd yn drosedd.
Bydd swyddog arbenigol yn trefnu ymweld â chi, i esbonio’ch opsiynau ynghylch gwneud cwyn ffurfiol a beth allai ddigwydd mewn ymchwiliad.
Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gasglu tystiolaeth ac adeiladu achos, ni waeth pa mor hir yn ôl y digwyddodd y drosedd.
Rydyn ni’n rhoi eich dymuniadau chi wrth wraidd popeth a wnawn. Os penderfynwch chi nad ydych chi am fod yn rhan o ymchwiliad, gall gwneud datganiad ffurfiol fod o gymorth o hyd. Mae pob adroddiad yn werthfawr inni.
Byddwn yn eich cefnogi drwy’r broses i gyd a byddwn yn cynnig eich cyfeirio at gymorth arbenigol.
Rhagor am beth sy’n digwydd ar ôl ichi riportio treisio neu ymosodiad rhywiol (bydd rhywfaint o'r cyngor ar y dudalen hon yn gymwys i ddigwyddiadau diweddar yn unig, ond bydd llawer o bethau yr un fath).